

NEWYDDION
Lucy Farrar yn cymryd mantais lawn o ofod #AryLôn Bae Colwyn!

Gan barhau i ddatblygu hanes trawiadol o lwyddiant wrth gefnogi busnesau mwyaf arloesol y rhanbarth, mae M-SParc yn falch iawn o gadarnhau bod ei raglen cyflymu, Lefel Nesaf, wedi dyfarnu £110,000 o gymorth i bedwar busnes yn y rhanbarth.
Gan helpu perchnogion busnes uchelgeisiol i ddatblygu’r sgiliau, ffocws, a’r hyder sydd eu hangen i arwain busnes newydd llwyddiannus, mae Lefel Nesaf wedi cynnig pecyn cynhwysfawr o gymorth, arweiniad a chyfleoedd i naw o fusnesau newydd blaenllaw yng ngogledd Cymru yn ystod y misoedd diwethaf, ac mae’r rhaglen bellach yn derbyn ceisiadau i’w hail garfan, gan ddechrau ym mis Medi 2022.
Yn rhaglen bum mis, mae Lefel Nesaf yn rhoi mynediad unigryw i sylfaenwyr uchelgeisiol i fentora arbenigol, cymuned o sylfaenwyr o’r un anian, eu bwrdd cynghori byd-eang eu hunain gyda rhwydweithiau pwerus, a chyfleoedd unigryw ar gyfer twf.
Mae cyfanswm o £110,000 wedi ei ddyfarnu i bedwar busnes ar garfan gyntaf y rhaglen, gyda Pai Language Learning, Explorage, Curatec a Dewin.ai yn derbyn £50,000, £30,000, £25,000 a £5,000 yn y drefn honno.
Mae’r newyddion hwn yn dilyn proses gystadleuol a welodd aelodau ein cyflymydd yn pitsio am gyllid i hybu eu twf. Gwnaethpwyd penderfyniadau yn seiliedig ar faint o effaith y byddai’r cyllid yn ei gael ar eu cyflymder i’r farchnad, y potensial i greu swyddi newydd yn y rhanbarth a’r tebygolrwydd o wireddu’r effaith a dargedwyd.
Dywedodd Arweinydd Rhaglen Cyflymu Lefel Nesaf M-SParc, Olu Peyrasse:
“Canol y ffordd drwy’r rhaglen mae hwn yn hwb enfawr i’r busnesau a enwyd, a bydd yn eu galluogi i gyrraedd safle sy’n fasnachol hyfyw yn gyflym tra hefyd yn datblygu eu tîm trwy greu rolau newydd yn y rhanbarth.
“Rydyn ni’n gyffrous i barhau i weithio gyda nhw dros y misoedd nesaf, yn enwedig i’w helpu i adnabod a chynnwys y dalent leol orau. Llongyfarchiadau mawr gan bob un a gymerodd ran.”
Gwahoddir busnesau sydd â diddordeb mewn gwneud cais i ymuno â charfan nesaf Level Nesaf yn yr hydref i wneud cais heddiw drwy ymweldwww.m-sparc.com/level-up, gyda cheisiadau yn cau ar Awst 4ydd am 5pm.
Gwahoddir buddsoddwyr sydd am gefnogi rhai o’r busnesau newydd mwyaf cyffrous yng ngogledd Cymru i Arddangosfa Lefel Nesaf – digwyddiad byw lle bydd busnesau ar y garfan gyflymu bresennol o Lefel Nesaf yn cyflwyno. Gallwch archebu eich lle ar y digwyddiad yma!