M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

3 diwrnod, 3 cynhadledd, dros 300 o stondinau a siaradwyr, i gyd dan yr un to!

Charlie Jones

Yn ddiweddar cefais y pleser o deithio lawr i Lundain! Mi es i Expo byd y White Label; y digwyddiad mwyaf o’r math yn y byd, yn ogystal â’r Sioe Cynhyrchu Digwyddiadau a’r Expo Marchnata Perfformiad; rhain yw’r mwyaf yn Ewrop. Roedd yn daith rili buddiol i mi! Dysgais gymaint am dechnolegau a thueddiadau sydd ar y gweill.

Gwelais 16 sgwrs, o Google i EA Games i Body Shop i TikTok UK eu hunain, a hyd yn oed smwddis Innocent (er chafo ni’m smwddis am ddim)! Mae clywed gan arweinwyr yn y maes a beth sydd wedi gweithio iddyn nhw wedi bod yn hynod ysbrydoledig, a llwyddais i rannu pryderon gyda hwy am ddyfodol digwyddiadau a marchnata. Mae wir yn amser cyffrous iawn i fod yn y maes yma!

Pwnc poethaf y gynhadledd hon yn bendant oedd AI a ChatGTP, yn enwedig o ran diogelwch ein swyddi! Y prif tecawê a gefais oedd y dylem gofleidio’r dechnoleg newydd, ond, peidio â dibynnu arni, oherwydd ar hyn o bryd yn sicr, nid yw’n medrugwneud yr elfen‘human touch’ hollbwysig! Dylai technoleg wneud y darnau diflas o’n swyddi yn haws fel y gallwn ganolbwyntio ar y pethau mwy. Mae AI yn. faes na fydd yn mynd i ffwrdd yn fuan!

Trafodwyd llawer ar y metaverse hefyd. Os ydych chi’n anghyfarwydd â’r term metaverse mae’n ymwneud â VR neu AR sy’n caniatáu i bobl ryngweithio mewn amser go iawn â phobl eraill yn ddigidol. Mae’r gêm ‘Roblox’ yn un enghraifft. Mae’r cysyniad ei hun yn eithaf brawychus, fodd bynnag o glywed y cyflwyniadau dwi’n hun yn teimlo’n fwy parod i roi cynnig arni – dyma’r dyfodol! Wyddoch chi byth, efallai y bydd M-SParc un diwrnod yn bodoli yn y metaverse hefyd!

Cefais sawl sgwrs am TikTok. Mae llwyfannau cymdeithasol yn newid yn aruthrol, a byddwn yn sbio ar anghenion ein cynulleidfaoedd cyfryngau cymdeithasol ein hunain fel M-SParc. Un o’r meysydd mwyaf diddorol i mi oedd hysbysebion nawdd a chystadlaethau, a pha mor fuddiol y gallant fod. Roedd yr astudiaeth achos a gawsom yn trafod cystadleuaeth Xbox Pringles, lle aeth gwerthiant Pringles drwy’r to a’r enillwr yn cael Xbox arbennig. Ond mae pobl yn cael llawer o fuddugoliaethau bychan fel agor Creme Egg arbennig! Cadwch eich llygaid ar agor, ella bydd gwobr gan M-SParc y fuan! (paned o de fydd hi fwy na thebyg – ond ‘sw ni’m yn dweud ‘na’!). Roedd hefyd yn gret i glywed mwy am sut y gallwn ni fel cwmni edrych ar amrywiaeth a chynwysoldeb a bod yn fwy hygyrch – rhywbeth sydd mor bwysig i ni yn M-SParc.

Gyda fy 3 3 tocyn mynediad a fy llysenw o “Mr 3 Lanyards”,roeddwn yn neidio, drwy’r 3 cynhadledd; cymaint fel bod y swyddog diogelwchwedi dechrau dod i’m ‘nabod! Siaradais â phennaeth marchnata Banc Lloyds, Vitality, Depopa Just Eat (did somebody say JUST EAT), a, hynny cyn i chi (ddechrau enwi’r holl stondinau gwych oedd yn arddangos yno! Roedd yn syfrdanol. Os oes rhaid i mi ddewis, yna’m hoffsiaradwr oedd John. Thornton. Fo oedd yn sgwennu’r ‘copi’ ar gyfer Innocent Smoothies a bellach yn. gweithio i gwmni cereal newydd, roedd, ei gyflwyniad yn wych ac yn uno’r pethau mwyaf doniol a welais erioed o bell ffordd. Fe wnaeth o wir wneud i mi feddwl. am Twitter fel platfform a sut dylen ni fynd ati i’w ddefnyddio. Trafododd fanteision bod yn fwy dynol a’r effaith y mae’n ei gael areich brand (un positif!).

Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at rannu’r holl wybodaeth yma gyda’r tîm a gweld sut allwn ni fynd ag M-SParc. ymhellach. Mae o i gyd yn dod yn ôl i ddeall y gynulleidfa’n llawn.. Enghraifft wych o hyn yw pan ryddhaodd Innocent Smoothies, smwddi glas, a, oedd mewn gwirionedd yn wyrdd! Roedd Innocent, yn taeru mai glas oedd o, er gwaethaf ymatebion y gynulleidfa i’r gwrthwyneb! Roeddennhw’n deall y gynulleidfa ac oherwydd hyn fe aeth yn ‘viral’ yn y diwedd ac mae wedi bod yn un o’u smwddis mwyaf poblogaidd,, gyda phobl yn tynnu lluniau o bobl yn ei yfed ar y tiwb ac ati. Dw’i wedi siarad llawer am y sgwrs Innocent,, ond i mi mae’r dewrder a’r hyder sydd gan Innocent yn eu tîm hefyd yn anghredadwy,, mae ganddyn nhw reol o “os ydych chi 70% 70% yn siŵr jest postiwch o”. (Emily…os ti’n darllenefallai gawni gytuno ar 85%?) Tydi nhw’m ofn cael eu taflu oddi ar Twitter neu i newid y logo i lun o briodas eu rheolwyr. Dyna. beth oedd yn anhygoel amdano. Anaml y maent yn sôn am eu brand yn y trydariadau. llwyddiannus. Ond roedd yn eu gwneud yn fwy dynol..

Gwelais sioe gynhyrchu digwyddiadau, a oedd fel y gallwch ddychmygu yn sôn am DDIGWYDDIADAU! Be wnes i sylwi oedd cymaint mae marchnata a digwyddiadau yn mynd law yn llaw. Oni bai bod gennych chi ddigwyddiad da i’w werthu, fydd y marchnata ddim yn gweithio! Bu newid anhygoel hefyd mewn digwyddiadau a phrofiadau byw. Dydw i ddim yn siŵr os mai oherwydd pandemig covid 19 neu fod eisiau symud i ffwrdd o’r sgrin cyfrifiadur, ond mae pobl eisiau ymgolli’n llwyr mewn digwyddiadau nawr a chael profiad llawn sy’n cwmpasu pob un o’r 5 synnwyr!

Mae yna bobl ar draws y wlad yn gwneud hyn yn barod ac ar ôl bod i rai ohonyn nhw fy hun rydw i wedi gweld eu bod nhw’n wych. Ychwanegwch y metaverse hefyd, ac rydych chi wir hefo rhywbeth arbennig!! Fedrai’m aros i weld sut mae’r diwydiant digwyddiadau yn newid ac yn datblygu yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, mae’r dechnoleg sydd ar gael yn barod yn anhygoel. Edrychwch ar ABBA yn Llundain, lle mae ABBA yn gwerthu allan bob nos, er eu bod yno fel hologram! Dwi’n gobeithio gallu dod â rhai o’r syniadau a’r technolegau hyn i M-SParc yn y dyfodol agos i wneud ein digwyddiadau hyd yn oed yn fwy ac yn well! (Pryderi, os ydych chi’n darllen … dwi’n addo na fyddaf yn dod ag ABBA!)

Mae marchnata yr un mor gyflym, gyda llwyfannau newydd yn dod i’r amlwg drwy’r amser a thueddiadau’n codi bron bob dydd! Un peth a oedd yn amlwg yn y gynhadledd oedd pwysigrwydd TikTok a fideo ar gyfryngau cymdeithasol nawr. Bu gostyngiad yn nifer y bobl sy’n gwylio’r teledu ers lansio TikTok, ac o hysbysebu i ba fwytai i fynd iddynt a pha ddillad i’w prynu, TikTok sy’n eu dylanwadu. Mae pobl yn ymddiried yn y brand a’r ap er gwaethaf y pryderon data a phreifatrwydd. Mae gan TikTok hefyd algorithm gwerth chweil a theg iawn sy’n caniatáu i unrhyw un fod yn greawdwr, a bydd ond yn dangos i chi be ‘da chi eisiau ei weld gyda chwpl o betha’ ad-hoc wedyn yn y gymysgedd. Byddwch chi’n gweld llawer mwy o riliau, “YouTube Shorts” a TikTok gennym ni! Os nad ydych yn ein dilyn yn barod, gwnewch! @msparc.

Os byswn yn rhannu un gair am y cynadleddau byswn i’n dweud; ANHYGOEL! Roedd y sgyrsiau’n hollol wych ac mae dod i Llundain a chymryd cam yn ôl o’r swyddfa wedi fy ngalluogi i ddychwelyd gyda syniadau newydd. ‘Dw i wedi deud lot yn y blog ‘ma am bethau sydd angen i ni eu gwella OND dwi’sho pwysleisio nad ydw i’n dweud fod y gwaith ‘da ni’n ei wneud rŵan yn anghywir, dim ond ein bod bob amser yn dysgu! Mae’n rhaid i ni barhau i symud ymlaen a symud gyda’r oes, a chaniataodd y cynadleddau hyn i mi gael y wybodaeth ddiweddaraf am hynny. Mae’r hyder y mae’r cynadleddau wedi ei roi i mi hefyd ynof fy hun ac yn fy rôl wedi bod yn anhygoel. Diolch i chi gyd am ddarllen fy mlog ac am wrando arnaf yn clebran. Gallaf siarad am farchnata a digwyddiadau yn ddiddiwedd felly mae croeso i chi gysylltu yma i siarad fwy!

Newyddion Perthnasol