

NEWYDDION
Egni 2023 – Y Gynhadledd Net Sero yng Ngogledd Cymru!

A week of STEM for M-SParc
I ddathlu penblwydd y BBC yn 100 oed cefais wahoddiad fel siaradwr gwadd i Ysgol Dyffryn Conwy. Roeddwn yn ffodus i gael fy newis fel rhan o banel i rannu profiadau, llwybrau addysgiadol a gyrfaol gyda Blwyddyn 8,9 a 10. Roedd y panelwyr yn cynnwys y darlledwr newyddion Iolo Cheung ac Owain Roberts, Cyfarwyddwr Llaethdy Llaeth y Llan yng Nghonwy ac yn cael ei gynnal gan y y cyflwynydd dawnus iawn Mel Owen. Braf oedd clywed gan Iolo am yr hyn mae’n ei fwynhau am ei swydd a sut yr arallgyfeiriodd Owain o ffurfio llaeth traddodiadol i greu iogwrt.
Cefais ddiwrnod anhygoel yn Ysgol Dyffryn Conwy, nid yn unig yn trafod rôl menywod mewn STEM yn gyffredinol ac yn rhoi rhywfaint o gyngor ac arweiniad i’r myfyrwyr ar gamu ar yr ysdol STEM, ond hefyd yn ateb eu cwestiynau am yrfaoedd. Fodd bynnag, ar ôl i mi rannu’r ffaith fy mod i eisiau bod yn animeiddiwr pan roeddwn yn ifanc, roedd rhaid wynebu’r cwestiwn… ‘beth oedd eich hoff animeiddiad yn tyfu i fyny?’, a cael trafferth cofio mor bell nôl â hynny! Cefais sioc nad oedd neb (hyd yn oed staff) wedi clywed am Thundercats!!!
Nod y digwyddiad oedd agor llygaid a meddyliau myfyrwyr i’r gwahanol yrfaoedd a llwybrau gyrfa sy’n agored iddynt, ac wrth gyrraedd y nod hwnnw roedd y digwyddiad yn wir yn llwyddiant ysgubol.
Diolch i BBC Cymru am y gwahoddiad a PENBLWYDD HAPUS!! Edrychaf ymlaen at y 100 mlynedd nesaf!
Mae Clwb Sparci yn ôl! Y Clwb STEM ar ôl ysgol!!
Nod Clwb Sparci yw annog, hysbysu ac ysgogi pobl am y sector STEM. Mae Clwb Sparci yn cynnwys popeth STEM gan gynnwys gwahanol yrfaoedd a rolau swyddi. Er mwyn cyrraedd y targed hwn, ein nod yw gweithio gyda chyflogwyr i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau STEM trwy ymyrraeth gynnar, gan weithio gyda myfyrwyr ysgol gynradd, gweithgareddau sgiliau a gyrfaoedd gydag ysgolion uwchradd a dod â’r teulu ynghyd i fwynhau STEM!!
Mae Clwb Sparci yn rhoi’r sgiliau a’r creadigrwydd i bobl ifanc i arbrofi gyda gwahanol agweddau o’r sector megis adeiladu strwythurau trwy beirianneg, deall pŵer y meddwl trwy seicoleg a gwyddoniaeth ac ymwybyddiaeth o’r sector ynni trwy fynd i’r afael â thasgau a phroblemau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Wythnos diwethaf, cynhaliwyd Clwb Sparci CYNTAF y calendr academaidd 2022/23 yn M-SParc a dyna amser gwych a gawsom! Defnyddiodd y myfyrwyr rhaglennu i lywio’r sphero o amgylch y ddrysfa! . Gwnaethant waith anhygoel gan nad oedd hon yn orchest hawdd, hyd yn oed i’r rhaglennwyr mwy profiadol yn ein plith
Os oedden ni’n meddwl bod y dasg honno’n anodd, gofynnwyd wedyn iddyn nhw greu cerbyd rhyfel gan ddefnyddio eu sgiliau peirianneg, mathemateg a chreadigol, gan symud hwn o amgylch y ddrysfa! Gwnaeth y bobl ifanc waith gwych, byth yn rhoi’r gorau iddi a mynd i’r afael â’r dasg yn uniongyrchol!!
Da iawn i bawb!
Roedd M-SParc allan mewn grym eto ar ddydd Gwener, yr 28ain o Hydref! Y tro hwn yn Codi STEM yng Ngholeg Menai, Llangefni.
Anelwyd y digwyddiad at fyfyrwyr blwyddyn 9 yn ysgolion uwchradd Ynys Môn i’w hysbysu a’u hysbrydoli am yrfaoedd STEM. Un o’r amcanion wrth gwrs oedd annog myfyrwyr i ddewis pynciau STEM ar gyfer eu hopsiynau TGAU, gyda’r digwyddiad yn caniatáu iddynt ddeall y pynciau hyn yng nghyd-destun y gweithle.
Roedd yn wych gweithio fel rhan o’r tîm yn cydlynu digwyddiad mor wych, gyda M-SParc yn gyfrifol am gydlynu 2 o’r 3 gweithgaredd h.y. y gyfres o 4 cyflwyniad ysbrydoledig byr i fyfyrwyr a’r parth cyflogwyr.
Cyflwynodd Debbie, Rheolwr Arloesedd Carbon Isel a Carwyn, Rheolwr Arloesedd Digidol sgwrs fer ac ysbrydoledig i’r myfyrwyr am fanteision gweithio ym maes STEM a’r cyfleoedd cyffrous yng Ngogledd Cymru, yn benodol ym maes ynni a digidol. Roeddem hefyd wedi trefnu i gyflogwyr eraill rannu gwybodaeth am wahanol lwybrau gyrfa, Rich o Griffiths Engineering yn trafod newid llwybr gyrfa, Cath o’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn trafod yr ystod o yrfaoedd yn y sector STEAM, Alex o Anglesey Associates Ltd yn trafod ei lwybr gyrfa ac Iddon o Rondo Media, Megan o Carnedd a Gareth Thomas o Syniadau Mawr Cymru i gyd â straeon ysbrydoledig i’w rhannu.
Roedd yna hefyd barth cyflogwyr lle roedd myfyrwyr yn cael y cyfle i drafod gwahanol swyddi, gyrfaoedd, a sgiliau gydag amrywiaeth o gyflogwyr gan gynnwys Morlais, RWE, Carnedd, Read Construction a llawer mwy.
Gobeithir y bydd effaith hirdymor digwyddiadau a chyflwyniadau o’r fath yn cael eu teimlo ar draws y rhanbarth, yn enwedig o fewn y gadwyn gyflenwi gyda mwy o swyddi sy’n talu’n dda i bobl ifanc, gan gwrdd â’r bwlch sgiliau STEM a sicrhau bod economi gogledd Cymru yn gynaliadwy ac yn gystadleuol.
Drwy gydol yr wythnos, bu M-SParc yn ymgysylltu â mwy na 500 o fyfyrwyr yn Ynys Môn a Chonwy i sicrhau dyfodol y diwydiannau STEM!