M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Dysgwch fwy am y cyfleoedd a ddarperir gan ein Hacademi Sgiliau!

Beth yw'r Academi Sgiliau?

Mae yna weithwyr ar draws y rhanbarth yn dymuno tyfu eu gweithlu gyda phobl fedrus, tra ar y llaw arall mae yna raddedigion, pobl sy’n cael eu tangyflogi neu sy’n dymuno newid gyrfa, sy’n chwilio am waith ond efallai’n ei chael hi’n anodd ennill profiad.
Nod yr Academi yw datrys hyn drwy ddarparu cyfleoedd gan gynnwys Gradd-brentisiaethau, a phrofiadau gwaith.
Kieran a Rhodri oedd ein dau Aelod cyntaf o’r Academi Sgiliau. Cliciwch ar y fideo isod i glywed mwy ganddyn nhw a’r hyn maen nhw wedi’i ennill o fod yn rhan o’r Academi.

Mae gennym dros 40 o aelodau yn ymwneud â'r Academi ar hyn o bryd! Daliwch ati i sgrolio i gwrdd â rhai ohonyn nhw a dysgu mwy am eu profiadau.

Tenantiaid M-SParc, KOPA

Cara Roberts - We are Kopa

“Mae’r profiadau rydw i wedi’u cael hyd yn hyn gyda KOPA wedi bod yn anhygoel. Rwyf wedi dysgu amrywiaeth o dechnegau a ffyrdd o ddylunio, wrth weithio gyda thîm creadigol iawn. Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu mwy a datblygu fy syniadau ymhellach dros y misoedd nesaf!”

M-SParc Tenants, Pai Language Learning

Masi Jahan - Pai Language Learning

“Pan ddes i i Gymru, roeddwn i’n meddwl fy mod wedi colli fy maes gwaith – Llenyddiaeth Saesneg – gan fod pawb yn gwybod yr iaith ac mae fy iaith frodorol ac ieithoedd eraill rydw i’n rhugl ynddynt yn cael eu defnyddio gan amlaf yn Asia, ond newidiodd M-SParc hynny.

“Nawr, rydw i’n gweithio i Pai Language Learning yn datblygu llawer o gyrsiau iaith, tra hefyd yn dysgu ieithoedd a thechnoleg newydd. Rwy’n cael cymaint o gefnogaeth a llawer o gyfleoedd i ddysgu gan ddefnyddio gwahanol raglenni, sydd i gyd yn paratoi’r ffordd tuag at faes fy mreuddwydion sef astudio Cyfrifiadureg.”

Tenantiaid M-SParc, Fourtywoable

Zola Hinds - Fortytwoable

“Rwyf wrth fy modd yn bod yn rhan o’r Academi Sgiliau. Trwy fy interniaeth gyda Fortytwoable, rwyf wedi cael profiad gwaith gwerthfawr o ran AI – yn benodol gan ei fod yn ymwneud â gweledigaeth gyfrifiadurol, prosesu iaith naturiol a dysgu peirianyddol. Mae’r Academi hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych i rwydweithio, uwchsgilio a chwrdd â ffrindiau newydd.”

Tenantiaid M-SParc, Clear Accounting

Robin Roberts - Clear Accounting

Mae’r amser rydw i wedi’i dreulio fel rhan o’r Academi Sgiliau wedi bod yn un o’r profiadau mwyaf ysgogol a boddhaol. Gyda mentoriaid mor gefnogol ac amyneddgar, mae’r profiad gwaith hwn wedi fy ngalluogi i hybu fy rhagolygon gyrfa yn y maes cyfrifeg ac wedi fy helpu i fagu hyder.

Ni fyddwn wedi datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd gennyf heddiw oni bai am yr Academi Sgiliau.

Emily Roberts, llun proffil mewn ysfafell cyfarfod

Eisiau gwybod mwy am yr Academi a chymryd rhan?

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw