ADEILAD EGNI

Dewch â'ch Egni i Gymuned Arloesi Mwyaf Newydd yng Ngogledd Cymru

Agor Haf 2027 - Byddwch y Cyntaf i Gofrestru

Mae’r gwaith adeiladu ar y gweill ac rydym bellach yn trafod gyda busnesau sydd â diddordeb mewn dod yn denant sylfaenol.

Byddwch ymhlith y sefydliadau cyntaf i symud i’r Adeilad Egni a helpu i lunio cymuned arloesi newydd Gogledd Cymru.

Mae trafodaethau cynnar yn ein galluogi i ddeallt eich gofynion a sicrhau eich bod ymhlith y sefydliadau cyntaf i symud i Egni.

18 Swyddfa

Ar Agor Haf 2027

90+ o Fusnesau yn Barod yn M-SParc HQ

Lleoliad Porthladd Rhydd

exter render 1

Dechreuwch eich dyfodol yn yr gymuned Arloesi Mwyaf Newydd yng Ngogledd Cymru.

Dychmygwch leoli eich busnes mewn canolbwynt arloesi, wedi’i amgylchynu gan gwmnïau uchelgeisiol, ymchwil o safon fyd-eang, a rhai o brosiectau ynni glân a seilwaith mwyaf y DU.

Mae’r Adeilad Egni yn M-SParc wedi’i gynllunio ar gyfer busnesau sydd eisiau mwy na swyddfa yn unig. Mae Egni yn lle i dyfu, cydweithio, arloesi a dod yn rhan o ecosystem sy’n llunio dyfodol ynni, technoleg a diwydiannau uwch.

Os ydych yn fusnes newydd uchelgeisiol, yn fusnes bach a chanolig sy’n tyfu, neu’n sefydliad sefydledig sy’n awyddus i ehangu i Gogledd Cymru, mae EGNI yn darparu’r amgylchedd, y cysylltiadau a’r cyfleoedd i helpu eich busnes i lwyddo.

Pam Egni?

Dod o Hyd i Dalent Lleol

Cysylltiadau agos gyda Prifysgol Bangor

Tyfu’n Gynt

Ymunwch â 90+ o fusnesau arloesol

Cydweithio

Eco-system arloesi wedi’i adeiladu gyda phwrpas

Manteision y Porthladd Rhydd

Safle dynodedig Porthladd Rhydd Ynys Môn

exter render 2
interior 5

Mwy na Swyddfa yn Unig...

Mae ymuno fel tenant i EGNI yn golygu dod yn rhan o gymuned arloesi sy'n cydweithio gyda'i gilydd.

Fel tenant byddwch yn manteisio o:

  • Mynediad at rwydwaith sefydledig o fusnesau arloesol
  • Cyfleoedd cydweithio gydag arweinwyr y diwydiant
  • Cysylltiadau gyda Prifysgol Bangor ag ymchwil o safon fyd-eang
  • Rhaglenni cymorth a chefnogaeth busnes
  • Cyflwyniadau i gyfleoedd ariannu
  • Digwyddiadau rhwydweithio a chlystyrau diwydiant
  • Man cyfarfod ac cydweithio
  • Cymuned sy’n helpu busnesau i ffynnu
 


Pan fydd eich cymdogion yn dod yn gydweithwyr, mae cyfleoedd yn codi’n naturiol!

Gweithredwch Nawr – Dewch yn Denant Sylfaenol i Egni

Mae’r galw am ofod arloesi o ansawdd uchel yng Ngogledd Cymru yn parhau i dyfu.

Mae busnesau yn barod yn gosod eu hunain mewn sefyllfa i fanteisio ar y buddsoddiad sylweddol sy’n dod i’r rhanbarth trwy’r sectorau egni, gweithgynhyrchu uwch a thechnoleg.

Mae sicrhau eich lle yn gynnar yn golygu:

  • Dewis blaenoriaethol o swyddfeydd sydd ar gael
  • Mynediad cynnar i’r gymuned arloesi
  • Cyfleoedd i gydweithio o’r diwrnod cyntaf
  • Gosodwch eich busnes mewn sefyllfa ar gyfer twf rhanbarthol yn y dyfodol

Bydd y busnesau sy’n sefydlu eu hunain heddiw yn y sefyllfa orau ag yn manteisio ar gyfleoedd y dyfodol.

Pwy Wneith Ffynnu yn Egni?

Mae Egni yn berffaith i’r sefydliadau sy’n gweithredu yn yr sectorau:

  • Amgylchedd
  • Egni Adnewyddadwy
  • Carbon Isel

Os ydych yn fusnes newydd uchelgeisiol, yn fusnes bach a chanolig sy’n tyfu, neu’n sefydliad sefydledig, rydym yn hapus i ddrafod sut y gallai Egni gefnogi eich uchelgeisiau.

egni render

Llinell Amser

  • Gwaith adeiladu wedi cychwyn
  • Mae trafodaethau gyda thenantiaid ar agor nawr
  • Paratoadau terfynol yn 2027
  • Ar Agor Haf 2027
interior 2

Beth Sydd Tu Fewn i'r Adeilad Egni?

  • Swyddfeydd Modern
  • Man Cydweithio
  • Ystafelloedd Cyfarfod
  • Canolfan STEM a Lleoliad Digwyddiadau
  • Cysylltedd Sydyn Iawn
  • Parcio Am-Ddim
  • Gwefru Cerbydau Trydanol
Freeport

Porthladd Rhydd Ynys Môn

Lleolwch eich busnes ym mhorthladd rhydd mwyaf newydd yn yr DU, a gallwch manteisio o:

  • Posibilrwydd o gymhellion treth
  • Manteision tollau
  • Cyfleoedd buddsoddiad
  • Mynediad i brosiectau egni glan
  • Lleoliad twf strategol

Ymunwch gyda Cymuned Arloesi

18

Swyddfeydd Newydd yn yr Adeilad Egni

90+

O Fusnesau yn Barod yn M-SParc HQ

Deallusrwydd Artiffisial

Egni

Digidol

Creadigol

Agri-Tech

Peirianneg

Gwyddorau Bywyd

Prif Ysgolion

Buddsoddwyr

Llywodraeth

Ymunwch ag ecosystem gynyddol o fusnesau, ymchwilwyr, buddsoddwyr ac arweinwyr diwydiant sy’n cydweithio i gyflymu arloesedd yng Ngogledd Cymru.

Partneriaid Prosiect

Cofrestrwch eich diddordeb heddiw

Os ydych yn fusnes sefydledig, yn fusnes newydd uchelgeisiol neu’n sefydliad ymchwil, byddem wrth ein bodd yn trafod sut y gallai Egni gefnogi eich twf.

Olwen, llun proffil

Cysylltwch â ni heddiw ynghylch bod yn denant Egni.

Os ydych yn fusnes sefydledig, yn fusnes newydd uchelgeisiol neu’n sefydliad ymchwil, byddem wrth ein bodd yn trafod sut y gallai Egni gefnogi eich twf.

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.