Mae’r cynllun i godi ail adeilad yn cymryd cam ymlaen wrth i ddyluniadau’r adeilad newydd gael eu datgelu am y tro cyntaf. Nod y project yw defnyddio cryfder academaidd Prifysgol Bangor ac arbenigedd busnes M-SParc i greu sylfaen economaidd amrywiol a ffyniannus, i helpu’r rhanbarth sicrhau dyfodol carbon isel. Mae’r ffocws ar greu swyddi o ansawdd uchel a chyfleoedd i uwchsgilio. Bydd y project, sef Project Egni, yn sbarduno datblygiad economaidd.
Bydd yr ail adeilad yn ganolbwynt i fusnesau bach a chanolig (BBaCh) a gweithgynhyrchwyr mwy o faint yn y sector carbon isel. Mae llwyddiant M-SParc yn deillio o allu rhoi cefnogaeth bwrpasol ac arbenigol i’w cwmnïau tenant i’w helpu nhw dyfu, ac yn ei dro eu helpu nhw i greu gyrfaoedd sy’n talu cyflogau da yn y rhanbarth. Cafodd dros 200 o gyfleoedd cyflogaeth newydd a 60 o leoliadau uwchsgilio gwaith eu creu ers i’r parc agor yn 2018.
Rheolwr Arloesi Carbon Isel M-SParc
Agwedd allweddol ar y project yw twf ymchwil carbon isel y Brifysgol, gan gynnwys y Sefydliad Dyfodol Niwclear (NFI). Bydd y buddsoddiad yn creu ecosystem arloesi bwerus i bontio’r bwlch rhwng ymchwil academaidd a chymwysiadau’r byd go iawn, a bydd yn denu’r doniau gorau a buddsoddiadau pellach trwy gynnwys neuadd arloesi fawr a labordy dadansoddi deunyddiau pwrpasol.
Prif Swyddog Gweithredu Prifysgol Bangor
Mae Egni yn rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru – Rhaglen Ynni Carbon Isel. Bydd y datblygiad yn canolbwyntio ar greu swyddi newydd gwerth uchel, gan ddenu buddsoddiad i’r rhanbarth, yn ogystal â chyfrannu at gyrraedd targedau sero-net. Mae £3.94m wedi’i ddyrannu gan Uchelgais Gogledd Cymru i gefnogi’r prosiect yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol ar ôl caffael.
Dywedodd Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, Uchelgais Gogledd Cymru: “Mae’n wych gweld cynnydd yn cael ei wneud drwy gyhoeddi’r cynlluniau a’r dyluniadau hyn. Mae prosiect Egni yn rhan allweddol o’n rhaglen Ynni Carbon Isel o fewn Cynllun Gogledd Cymru a byddwn yn annog pob cwmni sydd â diddordeb i gofrestru ar gyfer y digwyddiad contractwyr ar 19 Gorffennaf i ddysgu mwy am y cyfle tendro hwn sydd ar ddod.”
Bydd y dyluniadau ar gael yn gyhoeddus er mwyn i bobl a busnesau lleol gael gweld yr adeilad ysblennydd am y tro cyntaf. Caiff prynhawn ymgynghori ei gynnal ddydd Iau 18 Gorffennaf – galwch heibio i M-SParc i gael gwybod mwy neu os na allwch chi ddod e-bostiwch egni@m-sparc.com i ddysgu mwy am y project.
Hoffai Prifysgol Bangor, M-SParc, a phartneriaid y project wahodd contractwyr sydd â diddordeb i ymweld â’r safle yn M-SParc ddydd Gwener 19 Gorffennaf (10:00 -12:00) i drafod y cynlluniau a gofynion y broses dendro.
Os hoffech ddod i Ddigwyddiad y Contractwyr, llenwch y ffurflen ar-lein a’i dychwelyd i Olivia Cahill, Gweinyddwr Caffael cyn 18 Gorffennaf 2024. Dim ond i ganfod nifer tebygol y cwmnïau sy’n debygol o ddod i’r digwyddiad y defnyddir yr wybodaeth hon.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.