Mae M-SParc yn un o barciau gwyddoniaeth blaenllaw’r DU, wedi’i leoli’n strategol ar Ynys Môn ac wedi’i ddynodi yn safle treth o fewn Porthladd Rhydd Ynys Môn. Mae M-SParc wedi ei leoli yng nghanol un o ranbarthau mwyaf deinamig y DU ar gyfer ynni glân, gweithgynhyrchu uwch, technolegau digidol a busnesau sy’n cael eu gyrru gan arloesi! Rydym yn cynnig lleoliad unigryw i fusnesau uchelgeisiol ffynnu!
Gyda mynediad at ymchwil o’r radd flaenaf, gweithlu medrus iawn, cysylltiadau cryf â phrifysgolion a phrosiectau mawr cenedlaethol, mae M-SParc yn darparu ecosystem arloesi sy’n galluogi busnesau i gydweithio, datblygu technolegau newydd a chyflymu twf.
Os ydych yn sefydlu pencadlys newydd, yn ehangu eich gweithrediadau presennol, neu’n datblygu cyfleuster ymchwil, datblygu neu weithgynhyrchu pwrpasol, mae M-SParc yn cynnig yr hyblygrwydd, y seilwaith a’r gefnogaeth i wireddu eich gweledigaeth.
Mae ein safle wedi’i gynllunio i gefnogi tŵf busnesau arloesol, gan ddarparu’r amgylchedd cywir i fuddsoddi, ehangu ac adeiladu ar gyfer y dyfodol.
Gallwn weithio gyda chi i greu datrysiad sy’n diwallu anghenion eich busnes, gan gynnwys:
Mae Porthladd Rhydd Ynys Môn yn elwa o gefnogaeth gref gan Lywodraeth Cymru a’r DU, gyda hyd at £26m mewn cyllid hadau a chefnogaeth drawsbleidiol eang. Fel safle treth Porthladd Rhydd dynodedig, mae M-SParc yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi sgiliau, arloesedd a buddsoddiad mewnol sy’n cyd-fynd ag uchelgeisiau economaidd hirdymor y Porthladd Rhydd.
Bydd datblygiadau a thenantiaid cymwys y porthladd rhydd yn elwa o ryddhad ardrethi busnes a chyfalaf ynghyd â rhyddhad Yswiriant Gwladol.
Mae Gogledd Cymru yn rhanbarth ynni o bwys cenedlaethol, gydag Ynys Môn yn ganolog iddo. Mae’r ardal wedi’i chysylltu’n agos â chyfleoedd niwclear ac SMR newydd yn Wylfa, ochr yn ochr â gwynt ar y môr, hydrogen ac arloesedd carbon isel. Mae M-SParc yn darparu lle a chefnogaeth i sefydliadau sy’n gweithio ar draws y trawsnewid ynni.
Mae Ynys Môn yn cyfuno’r lle sydd ar gael, costau gweithredu cystadleuol a mynediad at dalent drwy Brifysgol Bangor a phartneriaid rhanbarthol. Mae’r ynys wedi’i chysylltu’n dda ar ffyrdd, rheilffyrdd, môr ac awyr, gyda chysylltiadau cryf ag Iwerddon, Gogledd Orllewin Lloegr a’r DU ehangach, gan ei gwneud yn ganolfan ddeniadol ar gyfer sefydliadau sy’n tyfu.
Mae dewis M-SParc yn golygu dod yn rhan o gymuned arloesi ffyniannus.
Os ydych yn fusnes newydd, sy’n tyfu neu’n sefydliad rhyngwadol sy’n ceisio sefydlu hwb strategol, mae M-SParc yn cynnig y gofod, y cysylltedd a’r gymuned gydweithredol i helpu eich busnes i ffynnu.
Cysylltwch â ni heddiw i drafod eich cynlluniau a darganfod sut y gall M-SParc eich helpu i adeiladu, buddsoddi a thyfu yn un o gyrchfannau arloesi mwyaf cyffrous y DU.
Mae dewis M-SParc yn golygu dod yn rhan o gymuned arloesi ffyniannus.
Mae ein cymuned yn dod â busnesau arloesol, entrepreneuriaid, ymchwilwyr, prifysgolion, buddsoddwyr a sefydliadau cymorth busnes ynghyd, gan greu cyfleoedd ar gyfer cydweithio, rhannu gwybodaeth a thwf masnachol.
Gyda mynediad at gymorth busnes, rhaglenni arloesi, cyfleoedd rhwydweithio, graddedigion medrus a phartneriaethau strategol, bydd eich busnes yn elwa ar lawer mwy na lleoliad yn unig.
Os oes gennych ddiddordeb yn y safle, cyfleoedd datblygu yn y dyfodol a/neu gydweithio, rydym yn hapus i drafod yr hyn sy’n bosibl yn M-SParc.
Anfonwch ebost at Olwen i drafod mwy – olwen@m-sparc.com
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.