M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Cynllun Ailwefru

Cynllun Ailwefru

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai anodd i’r gymuned fusnes.

A yw eich busnes yn profi effeithiau

Brexit, Covid, yr Argyfwng Ynni a Chostau Byw?

‘Da chi’m ar eich pen eich hun. Yn ôl arolwg diweddar y flaenoriaeth i 37% o gymuned fusnes Gwynedd oedd goroesi, neu gael strategaeth olyniaeth ar gyfer y dyfodol.

Gall busnesau yng Ngwynedd bellach dderbyn cefnogaeth a fydd yn eu cynorthwyo i gymryd y camau cyntaf tuag at adennill eu gweithgareddau busnes naill ai drwy adfer eu busnes blaenorol, i ehangu neu wella eu gweithgareddau presennol neu i amrywiaeth i sectorau eraill.

Pa fath o gymorth fydd ar gael?

  • Adolygiad o’r busnes o ran sgiliau, offer ac eiddo
  • Paratoi adolygiad o’r busnes mewn termau sgiliau, adnoddau ac eiddo.
  • Mynediad at gyfleoedd ariannu
  • Adnabod unrhyw fylchau mewn sgiliau a’u cyfeirio at hyfforddiant ac achrediad sydd yn bodoli yn y sector a’u cyfeirio at ffynhonellau cyllid os bydd angen.
  • Cyfeirio busnesau tuag at ffynhonellau addas ar gyfer prynu offer newydd.
  • Adnabod cyfleoedd ar gyfer clystyru er mwyn hybu busnesau meicro i gydweithio os nad ydynt yn gallu cynnig gwasanaethau yn unigol.

Sut i wneud cais?

Cofrestrwch yma am ragor o wybodaeth neu e-bostiwch ni a byddwn yn eich rhoi ar ben ffordd ar y daith tuag at ailgodi tâl ar eich busnes.

Ariennir y rhaglen trwy Gyngor Gwynedd, NDA, Magnox a rhaglen Lefelu Up y DU.

Lois Shaw, llun proffil

Rydych chi'n unigryw

Felly gadewch i ni gyflawni’r canlyniadau gorau gyda’n gilydd.

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw