M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Angylion busnes yn cefnogi benyw mewn menter

Emily Roberts

Mae Rhith-denant i M-SParc, Explorage.com, marchnad ar-lein ar gyfer hunan-storio, wedi sicrhau buddsoddiad chwe ffigwr

Roedd y buddsoddiad yn cynnwys syndicat o naw angel busnes dan arweiniad Huw Bishop o Camau Nesaf, yn ogystal ag arian gan M-SParc eu hunain a Chronfa Angylion Cymru. Mae’n arbennig o nodedig gan fod llai na 4% o fuddsoddiadau Angel yn y DU yn mynd i fusnesau sydd wedi’u sefydlu gan fenywod.

Yn werth tua £48 biliwn, mae’r farchnad storio fyd-eang yn fusnes mawr. Mae tua 27,000 o archebion storio newydd bob mis yn y DU ond mae canfod, cymharu a chadw’r hunan-storio cywir yn anghyson ac yn hirwyntog. Gyda 60% o gwsmeriaid sy’n defnyddio hunan-storio yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn profi digwyddiad bywyd llawn straen, lluniodd y Sylfaenydd Anna Roberts y syniad am farchnad ar-lein ar gyfer hunan-storio a chyfleusterau, gan ddatblygu model meddalwedd a arweinir gan ddefnyddwyr.

Eglura Anna, “Roedd manteision gwasanaeth ar-lein integredig, hygyrch yn glir. Mae cynnal rownd sbarduno yn golygu y gallwn lansio ac ailadrodd y cynnyrch yn gyflym wrth i ni wrando a dysgu gan ein cwsmeriaid a gwella’n barhaus”.

Bydd y buddsoddiad yn awr yn cael ei ddefnyddio i gyflogi pobl allweddol a chychwyn ar gyflwyno rhanbarthol ledled y DU, cyn cynyddu’n rhyngwladol i fanteisio ar gyfleoedd gyda phartneriaid tramor.

Esboniodd Anna Roberts, a gymerodd ran yn Cyflymydd Lefel Nesaf M-SParc yn ddiweddar i dderbyn cymorth penodol ar gyfer cynyddu ei busnesau yn gyflymach ac yn fwy effeithiol: “Mae’n swnio’n syml, ac y mae. Bydd Explorage.com yn cynnig cyfleuster ar-lein di-ffrithiant i gwsmeriaid ddod o hyd i, cymharu a chadw hunan-storfa ar unwaith. Mae’n gyfnod cyffrous iawn ac rwy’n falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni hyd yn hyn.”

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc Explorage yw un o’r cwmnïau digidol mwyaf cyffrous yn y wlad ar hyn o bryd, gan ddangos arwyddion twf gwirioneddol. Busnesau fel hyn yr ydym yma i’w cefnogi ac rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan yn y llwyddiant hyd yma. Mae Explorage wedi elwa o nifer o’n rhaglenni, o dalent trwy ein Hacademi Sgiliau, i fuddsoddiad, gofod a datblygiad proffesiynol trwy ein digwyddiadau, ac yn hollbwysig maen nhw’n cydweithio â nifer o fusnesau eraill yn y system eco hon.”

Mae Explorage bellach mewn sefyllfa dda i wireddu eu gweledigaeth, gyda’r cysur o wybod bod eu buddsoddwyr yn deall yr her o sefydlu a graddio busnes technoleg twf cyflym.

Dywedodd y buddsoddwr Huw Bishop: “Mae bod mewn sefyllfa i gynnig cefnogaeth ariannol i entrepreneuriaid lleol a busnesau newydd yn rhoi boddhad mawr a gall fod yn fath o fuddsoddiad treth-effeithlon iawn. Yn bendant, mae rhwydwaith cynyddol o fuddsoddwyr angylion yng Ngogledd Cymru sy’n awyddus i gymryd rhan mewn cyfleoedd buddsoddi cyfnod cynnar.”

Dysgwch fwy am rwydwaith M-SParc Angel yma.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw