Drwy ddod yn Angel busnes byddwch yn cael y cyfle i:
Mae Angel Busnes yn unigolyn neu grŵp o unigolion sy’n darparu cymorth a/neu fuddsoddiad ar gyfer busnesau newydd a/neu entrepreneuriaid. Gall y cymorth hwn fod ar sawl ffurf yn dibynnu ar natur y busnes a’r Angylion Busnes, setiau sgiliau’r gwahanol bartïon a’u gofynion terfynol.
Mae rhwydwaith Angel M-SParc yn wahanol i Rwydweithiau Angylion Busnes eraill. Gallwch gyfrannu, gan wybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth i’r economi leol a chefnogi mentrau arloesol.
Bydd rhwydwaith M-SParc Angel ar gael drwy’r Ap MySparc – yn cael ei lansio’n fuan! Bydd MySparc yn galluogi Angels i ddewis pa gwmnïau, cynhyrchion, neu syniadau i’w cefnogi. Mae mor hawdd â sgrolio drwodd a dewis pa gwmnïau rydych chi am ‘baru’ â nhw a byddwn yn galluogi’r cyfathrebu rhyngoch chi. Bydd y cwmnïau y byddwch chi’n eu gweld i gyd yn dod o’r rhanbarth, a gallwch chi hyd yn oed ei gyfyngu i ddewis o’r rhai sydd ar garreg eich drws yn unig. Dewch yn rhan o rywbeth mwy, ecosystem a chymuned o bobl yn rhannu gwybodaeth ac yn buddsoddi yn nyfodol Cymru. Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau megis digwyddiadau Pitsio byw, lle byddwch yn cael cyfleoedd pellach i feithrin eich cysylltiadau, cyfathrebu a chwrdd â busnesau lleol.
Gall mentora a chefnogi cwmni newydd ddarparu cysylltiadau a pherthnasoedd a all bara blynyddoedd, a’ch talu’n ôl mewn ffyrdd annisgwyl yn y dyfodol.
Cwblhewch y ffurflen ganlynol i fynegi diddordeb mewn dod yn aelod o’n Rhwydwaith Angel.