Mae M-SParc ar hyn o bryd Ar y Lôn ym Mangor!
Mae arloesi ar gyfer pawb, ac rydym yn dod â chyfleoedd i gymunedau gwledig i ysbrydoli, cefnogi twf busnesau a datblygu syniadau.
Mae ein lleoliadau #ArYLôn yn gartrefi i’r holl weithgareddau sy’n digwydd yn yr adeilad blaenllaw ar Ynys Môn, gan gynnwys Gofod Gwneud Ffiws, gofod cydweithio, cymorth busnes, gweithdai dylunio, sesiynau a digwyddiadau galw heibio, gweithgareddau ar gyfer grwpiau penodol, a gweithdai STEM i blant.
Ers 2019 rydym wedi bod i Fethesda, Botwnnog, Bae Colwyn, Caernarfon, Y Bala, Pwllheli, a Bangor, gan ddod ag arloesi a chefnogaeth busnes i Gonwy a pharhau â’n gwaith yng Ngwynedd.
Gobeithiwn y byddwch chi’n ymuno â ni #ArYLôn yn fuan!
Ar y Dydd Gwener olaf y mis, rydym yn cynnal Caffi Trwshio yn ein lleoliad Ar y Lôn yn Bangor
Oes gennych chi unrywbeth sydd angen ei drwsio? Dewch a fo gyda chi, a bydd ein gwirfoddolwyr cyfeillgar yn gwneud eu gorau i’ch helpu i’w drwsio yn hytrach na’i ddisodli. O nwyddau cartref a dyfeisiau technoleg i ddillad a mwy, mae’n gyfle i ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl eraill a rhoi oes hirach i’ch eitemau.
Ymunwch â ni ar ddydd Gwener olaf pob mis a dewch â rhywbeth i’w drwsio.
Llenwch y ffurflen isod i roi gwybod i ni am eich eitem ac i gofrestru eich atgyweiriad gyda Repair Café Wales.








Cyfeiriad
204 Stryd Fawr
Bangor
Gwynedd
LL57 1NY
Agor
Llun – Gwen
09:30 – 16:00
Mae ein Swyddog STEM ac #ArYLôn Nia yma i helpu!
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.