Mae gwyddorau bywyd yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, ac mae Gogledd Cymru yn sefydlu ei hun fel chwaraewr allweddol. O gwmnïau newydd technoleg feddygol i arloeswyr iechyd digidol, mae’r rhanbarth yn gyrru effaith wirioneddol; ac mae M-SParc yn falch o fod yng nghanol y cynnydd hwnnw.
Mae M-SParc yn fwy na chartref i fusnesau a sefydliadau ymchwil arloesol. Mae’n ganolfan ar gyfer cydweithio rhwng y byd academaidd, diwydiant, y GIG, a darparwyr gofal cymdeithasol. Adeiladodd y Gynhadledd Arloesi Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr ethos hwnnw; gan greu lle i rannu syniadau, archwilio technolegau newydd, a ffurfio partneriaethau sy’n arwain at ganlyniadau gwell i gleifion a chymunedau.
Cynhaliwyd y digwyddiad ddydd Mawrth 28 Hydref 2025, ac roedd yn cynnwys siaradwyr gwadd, arddangosfeydd arloesedd, a chyfleoedd rhwydweithio yn canolbwyntio ar ddyfodol iechyd a gofal.
Ymhlith y pynciau allweddol roedd:
Croesawodd y gynhadledd hefyd yr Athro Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru, fel siaradwr gwadd — gan dynnu sylw at bwysigrwydd cenedlaethol y sector a dylanwad cynyddol M-SParc ynddo.
Gwenllian Owen, Cydlynydd Arloesi Iechyd a Gofal, M-SParc
Mae M-SParc eisoes yn cefnogi ecosystem fywiog o gwmnïau ac ymchwilwyr sy’n gweithio ar draws y sector gwyddorau bywyd – o ddatblygwyr offer iechyd digidol a thechnoleg wisgadwy i arloeswyr mewn monitro amgylcheddol ar gyfer iechyd y cyhoedd.
Drwy bartneriaethau agos â Phrifysgol Bangor, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a darparwyr gofal cymdeithasol, mae M-SParc yn gweithredu fel pont hanfodol rhwng ymchwil a chymhwyso yn y byd go iawn.
Mae’r Gynhadledd Arloesi yn un o’r ffyrdd y mae M-SParc yn cysylltu pobl, syniadau a chyfleoedd i gryfhau’r sector gwyddorau bywyd yng Ngogledd Cymru.
Nid yw arloesedd mewn iechyd a gofal yn dod i ben yma. Bydd M-SParc yn parhau i feithrin cydweithio, darparu’r mannau a’r gefnogaeth gywir, a helpu i hyrwyddo syniadau sy’n gwneud gwahaniaeth.
Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr, M-SParc
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.