Mae arolwg tenantiaid M-SParc 2024, a gynhaliwyd gan Ysgol Fusnes Bangor, yn dangos bod enillion cyfartalog yn y parc gwyddoniaeth wedi codi i £43,542 – bron i £8,500 yn uwch na chyfartaledd Cymru. Mae’r twf parhaus hwn yn adlewyrchu cryfder y busnesau sydd wedi’u lleoli yn M-SParc a’i rôl wrth gefnogi swyddi gwerth uchel yng Ngogledd Cymru.
Un o’r canfyddiadau mwyaf arwyddocaol yw dileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae merched bellach yn ennill ychydig yn fwy na dynion ar gyfartaledd yn M-SParc (£43,571 o’i gymharu â £43,529), gan ragori ar dueddiadau cenedlaethol. Mae’r garreg filltir hon yn dilyn sawl blwyddyn o waith ffocws ar ôl i’r bwlch gael ei nodi gyntaf yn arolwg 2020, gan gynnwys mentrau fel Clwb Amser y Mis, hysbysebion swyddi sy’n datgodio rhywedd, cynyddu gwelededd menywod mewn digwyddiadau, a chodi ymwybyddiaeth yn barhaus ar draws y gymuned denantiaid.
Emily Roberts, Rheolwr Ymgysylltu a Sgiliau
Mae’r arolwg hefyd yn tynnu sylw at ddangosyddion diwylliannol cadarnhaol, gyda’r rhan fwyaf o denantiaid yn gallu siarad neu ddysgu Cymraeg – a dim ond 23% nad ydynt yn ymgysylltu â’r iaith o gwbl. Ochr yn ochr â hyn, mae M-SParc bellach yn troi ei sylw at gryfhau cysylltiadau cymunedol, yn enwedig ymhlith gweithwyr iau.
Lois Bevan Shaw, Rheolwr Cymorth Busnes a Phrosiectau
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.