Arweiniwyd y rownd ariannu gan y buddsoddwr biotechnoleg Dr. Urs Spitz, ochr yn ochr â ffynonellau ariannu ychwanegol. Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi’r cwmni i symud ymlaen â cherrig milltir gwyddonol allweddol, gan ddod â’i raglen therapiwtig flaenllaw yn agosach at ddatblygiad clinigol, wrth gefnogi creu swyddi newydd gwerth uchel yn y rhanbarth.
Wedi’i sefydlu ar ymchwil gydweithredol, sefydlwyd Awen Oncology gan yr Athro Andrea Brancale o Brifysgol Caerdydd gynt a chyd-sylfaenwyr Sefydliad Ymchwil Canser Gogledd Orllewin Prifysgol Bangor, Dr Ramsay McFarlane a Dr Jane Wakeman. Mae’r cwmni’n canolbwyntio ar ddatblygu therapïau arloesol gyda’r potensial i drawsnewid triniaeth canser, gyda’i raglen flaenllaw yn targedu math prin o ganser yr esgyrn sydd ag angen clinigol sylweddol heb ei ddiwallu.
Fel rhan o’r buddsoddiad, bydd Dr Spitz yn ymuno â bwrdd y cwmni, gan ddod â phrofiad rhyngwladol helaeth o ehangu busnesau biodechnoleg a chefnogi cwmnïau hyd at gamau clinigol a masnachol.
Mae Awen Oncology yn rhan allweddol o’r gymuned gwyddorau bywyd sy’n tyfu yma yn M-SParc, gan gyfrannu at gryfder yr ecosystem arloesi ehangach a datblygiad gweithgaredd ymchwil a datblygu gwerth uchel.
Dr Ramsay McFarlane, Prif Swyddog Gweithredol a chyd-sylfaenydd Awen Oncology
Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc
Mae’r ymchwil sy’n sail i waith Awen Oncology wedi cael ei chefnogi gan Ymchwil Canser Cymru, sy’n adlewyrchu dros ddegawd o fuddsoddiad mewn ymchwil canser sylfaenol yng Nghymru.
Dr Lee Campbell, Pennaeth Ymchwil yn Ymchwil Canser Cymru
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.