M-SParc yn Sbarduno Arloesedd AI BBaCh gyda Phrifysgol Bangor a 42able.ai

Mae prosiect ymchwil arloesol sy’n helpu busnesau bach i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial (AI) wedi’i gwblhau rhwng Prifysgol Bangor ac arbenigwyr AI 42able.ai

Wnaeth James Finney, cyd-sylfaenydd 42able.ai, Dr. Fariba Darabi o Ysgol Busnes Bangor, cyfarfod mewn digwyddiad M-SParc gyda’r nod o feithrin cydweithrediad rhwng y byd academaidd a busnes, a nododd y ddau ddiddordeb ymchwil. Arweiniodd hyn at gais llwyddiannus am gyllid ar gyfer y cynllun Taleb Sgiliau ac Arloesedd (SIV), ochr yn ochr â’r cyd-ymchwilwyr Dr. Siwan Mitchelmore a Dr. Junyu Zhou, i archwilio mabwysiadu AI ymhlith busnesau bach a chanolig (BBaCh).

Mae’r cynllun SIV yn cynnig cyfle i fusnesau yn y DU sy’n gweithredu yn siroedd Gwynedd, Ynys Môn a Sir y Fflint gydweithio â Phrifysgol Bangor drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae AI eisoes yn ail-lunio sut mae busnesau’n gweithredu, gan eu helpu i awtomeiddio prosesau, dadansoddi data, ac ennill mantais gystadleuol. Fodd bynnag, mae llawer o BBaChau yn wynebu rhwystrau megis cost, diffyg arbenigedd, a heriau data. Mae’r prosiect ymchwil hwn nid yn unig yn amlygu’r rhwystrau ond hefyd yn nodi cyfleoedd i helpu busnesau i wneud y gorau o AI.

Arweinydd y Prosiect Dr Fariba Darabi (Ch), gyda’r cyd-ymchwilwyr Dr Siwan Mitchelmore (C) a Dr Junyu Zhou (Dd)

Amlygodd Dr. Fariba Darabi, arweinydd y prosiect, yr anawsterau a wynebir gan, a’r cyfleoedd a gyflwynir i BBaChau wrth fabwysiadu AI:

Ar un llaw, mae mabwysiadu AI gan FBaChau yn aml yn cael ei rwystro gan nifer o rwystrau sylweddol, sy’n cynnwys cyfyngiadau ariannol, diffyg arbenigedd technegol, materion ansawdd data, a gwrthwynebiad sefydliadol i newid. Ar y llaw arall, gall sawl ffactor hwyluso’n sylweddol y broses o fabwysiadu AI gan FBaChau, gan gynnwys mynediad at dechnoleg fforddiadwy, polisïau cefnogol y llywodraeth, partneriaethau allanol, a datblygiadau mewn cyfrifiadura cwmwl ac offer ffynhonnell agored.

Pwysleisiodd hefyd sut y gall AI helpu busnesau i arloesi ac aros yn gystadleuol:

Mae awtomeiddio tasgau arferol yn caniatáu i BBaChau wella effeithlonrwydd, lleihau costau llafur, a chanolbwyntio ar weithgareddau gwerth ychwanegol, gan arwain at gynhyrchiant a phroffidioldeb uwch. I gloi, mae gan AI y potensial i ysgogi gwelliannau sylweddol mewn cynhyrchiant a thwf ar gyfer BBaChau.

Ben Taylor a James Finney, 42able.ai

Dywedodd James Finney, cyd-sylfaenydd 42able.ai:

Dan ni yn bendant yn bwriadu parhau â’n perthynas â Phrifysgol Bangor. Gan adeiladu ar lwyddiant y prosiect hwn, dan ni’n archwilio cyfleoedd ariannu pellach i ddyfnhau ein cydweithrediad yn barod. Dan ni wedi nodi sawl maes addawol ar gyfer gwaith yn y dyfodol, bydd nid yn unig yn ysgogi twf ein busnes ond hefyd yn meithrin arloesedd parhaus wrth gymhwyso AI o fewn y sector BBaChau.

Mae M-SParc yn ymfalchïo mewn dod â busnesau, ymchwilwyr, a chyfleoedd ariannu ynghyd i sbarduno arloesedd. Tynnodd Lois Bevan Shaw o M-SParc sylw at bwysigrwydd y dull hwn:

Dyna’n union pam y mae M-SParc yn bodoli—i gysylltu busnesau â’r bobl a’r adnoddau cywir i ysgogi arloesedd. Mae’r cydweithio rhwng 42able.ai a Phrifysgol Bangor yn enghraifft berffaith o sut mae ein hecosystem yn creu effaith wirioneddol: mae’r byd academaidd yn cael defnyddio ei hymchwil mewn dull cymhwysol, mae 42able.ai yn gwella ei strategaeth fusnes, ac mae BBaChau yn elwa o atebion AI arloesol. Hwyluso cydweithrediadau fel hyn rhwng diwydiant a’r byd academaidd yw’r hyn y mae M-SParc yn ei wneud orau, gan sicrhau bod ymchwil academaidd yn cael effaith ac o fudd gweithredol i fusnesau a’r economi ehangach.

Yn dilyn llwyddiant y prosiect hwn, mae 42able.ai a Phrifysgol Bangor eisoes yn archwilio cyfleoedd ariannu pellach i ddyfnhau eu hymchwil a helpu mwy o fusnesau i lywio mabwysiadu AI.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymchwil gydweithredol ar AI neu agweddau eraill ar eich busnes, cysylltwch â Dr. Fariba Darabi (f.darabi@bangor.ac.uk) ac os hoffech gyngor ar Drawsnewid Digidol eich cwmni, cysylltwch â tom@m-sparc.com.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.