Yn syml, Prentis Gradd yw rhywun sy’n astudio mewn Prifysgol a choleg tra hefyd yn gweithio fel prentis ym maes eu gradd. Dyma beth dwi’n ei wneud ar hyn o bryd.
Penderfynais fynd am brentisiaeth gradd oherwydd, yn bersonol, doeddwn i ddim yn teimlo mai addysg amser llawn oedd y cam nesaf gorau i mi. Gan fod gen i deulu eisoes yn gweithio ym myd meddalwedd, fe wnaeth hynny fy ysbrydoli i ddilyn yr un llwybr. Wrth chwilio am fy opsiynau, wnes i ddod ar draws y cyfle i wneud prentisiaeth gradd, ac dwi wedi bod yn ddigon ffodus i fod yn gweithio yma yn M-SParc am y flwyddyn ddiwethaf.
Fy lleoliad gwaith cyntaf ym mlwyddyn 1 oedd gyda chwmni o’r enw 42able.
Yn ystod fy amser yno, creais dempled ap iddyn nhw. Roedd yn brofiad dwyffordd, oherwydd fe wnaethon nhw fy helpu’n aruthrol gyda fy system archebu fy hun. Roedd yn wych cael y profiad o weithio gyda thîm gwahanol a dysgu ffyrdd newydd o wneud pethau, ac roedden nhw’n groesawgar iawn.
Ers gorffen ar gyfer yr haf a dechrau fy ail flwyddyn, rydw i wedi parhau i ddatblygu a gwella’r system archebu, sydd bron â bod wedi’i gorffen nawr.
Dwi hefyd wedi bod yn creu awtomeiddio ar gyfer tenantiaid M-SParc er mwyn iddynt allu rhoi gwybod am unrhyw broblemau yn hawdd. Ar ben hynny, dwi wedi bod yn dysgu sut i ddefnyddio’r peiriannau yn y MakerSpace, sydd wedi bod yn sgil ychwanegol wych i’w hennill.
Dwi newydd ddechrau gyda chwmni arall ar gyfer fy lleoliad gwaith yn yr ail flwyddyn, sef Loyalty Logistix.
Dwi’n mwynhau’r awyrgylch proffesiynol yno yn fawr iawn, ac dwi’n gobeithio cael gweithio ar brosiectau cyffrous wrth i mi ymgartrefu mwy. Mae’n gyfle gwych i weld ochr arall i’r diwydiant.
Dw i wir yn mwynhau’r profiad hyd yn hyn. A dweud y gwir, doeddwn i ddim yn disgwyl bod cymaint o ran mewn cymaint o brosiectau byd go iawn. Dw i wedi dysgu sgiliau gwerthfawr iawn sy’n golygu y byddaf yn barod i wneud cais am rolau Peirianneg Meddalwedd pan fyddaf yn graddio.
Dwi’n edrych ymlaen at symud ymlaen yn fy mhrentisiaeth gradd, ennill mwy o sgiliau rhaglennu a deallusrwydd artiffisial, a pharhau i weithio gyda’r bobl anhygoel yma.
Beth fyddwn i’n ei ddweud wrth berson ifanc sy’n ystyried y llwybr hwn? Ewch amdani.
Byddwn i’n argymell Prentisiaethau Gradd yn fawr iawn oherwydd bod y manteision yn anhygoel:
A dyna oedd y manteision a’i gwnaeth yn amlwg ceisio am brentisiaeth gradd, yma yn M-SParc, a dydw i ddim yn difaru o gwbl.





tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.