Interniaeth i'w Gofio - Blog Guto

“Be sydd o mlaen’i yn ystod Haf 2025?”

Dyna oedd ar fy meddwl wrth deithio adra i’r Felinheli o Lerpwl ar ddiwedd fy ail flwyddyn yn y Brifysgol. Dwi di cael sawl joban Haf difyr – a diflas – difyr dros y blynyddoedd: o geisio meistroli peiriant milkshakes yn McDonalds, i’r stress o gadw trefn ar ddegau o blant bach yn Gelli Gyffwrdd, heb sôn am oriau o eistedd ar gadair uchel wrth ochor pwll nofio. Felly tybed be fasa hi leni?

Wrth bori drwy Facebook yn chwilio am ysbrydoliaeth, dyma weld fod M-SParc yn chwilio am “intern busnes”. Roedd gen i atgofion melys o fynd i weithdai M-SParc yn fy arddegau – nefoedd i tech geek fel fi! Yn fanno nes i ddechrau dysgu codio, rhywbeth ddatblygodd yn dipyn o obsesiwn dros y blynyddoedd i ddod. Fanno hefyd ges i gyfle i adeiladu drôn am y tro cyntaf a thanio fy niddordeb mewn peiriannau sy’n hedfan! Ond fasa nhw hefo diddordeb mewn myfyriwr peirianneg awyrofod – heb fawr ddim profiad busnes? Mwy na thebyg ddim medda fi wrtha fi fy hun – ond mynd amdani eniwe.

A dyma’r wers fawr gyntaf – y cyntaf o nifer gyda llaw- imi ddysgu’r Haf yma. Hyd yn oed os ti ddim yn meddwl bod chdi ddigon da i gael y job – jest trïa eniwe, achos ti byth yn gwybod – a geshiwch be – ges i’r job! A dyma gychwyn ar 8 wythnos wych hefo pobol sydd wedi cefnogi ac ysbrydoli fi i feddwl bod unrhyw beth yn bosib.

Y peth cyntaf nath daro fi am y lle oedd yr adeilad – lleoliad braf a chroesawgar i weithio. Yn yr wythnos gyntaf ges i gyfle i ddod i nabod pawb yn y prif safle yng Ngaerwen ond wedyn sylweddoli fod ‘na gymaint mwy i M-SParc na’r pencadlys. O fewn dyddiau roeddwn wedi bod ym Mhwllheli a Bangor a gweld yr holl waith cymunedol mae M-SParc yn ei wneud, ac yn rhoi cyfle i bobol ifanc leol ddatblygu eu busnesau a’u sgiliau.

Ges i gyfle i wneud gwaith ymarferol hefyd, yn creu model 3D i’w ddefnyddio yn yr Eisteddfod Genedlaethol a datblygu fy sgiliau printio 3D a dylunio modelau. Fel rhan o fy nghwrs coleg, dwi’n rhaglennu a datblygu systemau AI sydd yn gweithio yn y gofod pell – lot fawr o waith theori. Felly roedd hi’n wych gallu defnyddio fy sgiliau rhaglennu i weithio ar system yn M-SParc sydd yn gweithredu yn y byd gwaith go iawn. Drwy ddylunio a rhaglennu system cofnodi oriau staff M-SParc, ges i’r cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o sut mae busnesau yn rheoli amser staff.

Tasg arall imi ei mwynhau oedd dylunio app sydd yn edrych ar ffigyrau cyfryngau cymdeithasol M-SParc ac allbynnu graffiau sydd yn dehongli’r data hefo’r nod o wella perfformiad ar y gwefannau cymdeithasol yn y dyfodol. Roedd yn agoriad llygaid gweld sut mae sefydliad fel M-SParc yn cynnal eu cyfryngau cymdeithasol a phwysigrwydd hyn i unrhyw fusnes. Cefais gyfle i gydweithio yn agos gyda’r tîm digidol, dysgu am API’s a datblygu sgiliau marchnata yn y byd go iawn.

Dwi hefyd wedi dysgu llwyth wrth gael cyfle i glustfeinio ar yr holl sesiynau cefnogi oedd yn cael eu cynnig i’r bobol ifanc oedd yn cymryd rhan yng nghynllun Haf Mentrus M-SParc. Roedd y sesiynau yn ddifyr ofnadwy, tips ar sut i gyflwyno syniad o flaen cynulleidfa, cyllid, marchnata a chynnal busnes. Dwi wedi dod i fyny hefo syniad busnes fyd hun yn ystod y cyfnod yma ac wedi cael cefnogaeth ac anogaeth wych gan griw M-SParc. Dwi wedi cychwyn ar y camau cyntaf ac yn gobeithio gallu cario mlaen ar y cyd hefo fy ngwaith coleg i lansio’r busnes cyn y Nadolig. Watch this space!

Mae datblygu sgiliau gwaith ymchwil wedi bod yn rhan bwysig a defnyddiol o’r interniaeth hefyd. Dwi wedi cynnal ymchwil marchnata i sut mae prisiau ystafelloedd cyfarfod M-SParc yn cymharu â sefydliadau eraill yn yr ardal. Fel person sydd yn fwy cyfforddus yn delio hefo rhifau, graffiau a chod roedd ysgrifennu dogfennau fel hyn yn rhywbeth diarth imi ond hefo cefnogaeth llwyddais i ddatblygu fy sgiliau ymchwil a chyflwyno gwybodaeth. Cefais adeiladu ar hyn wrth weithio gyda’r tîm EGNI yn gwneud dadansoddiad ystadegol i mewn i swyddi yn Nhrawsfynydd. Roedd hi’n ddifyr iawn gweld sut roedd syniad busnes yn cael ei dynnu at ei gilydd gan dim mor fawr o bobol.

Nol hefo criw ARYLON roedd cyfle i ddatblygu a dylunio system i ailgylchu poteli plastig fewn i PLA (ffilament sydd yn cael eu defnyddio i brintio mewn 3D Printer). Roedd yn gyfle i ddatblygu sgiliau creadigol a gwella sgiliau dylunio.

Be nes i werthfawrogi fwyaf am fy Haf yn M-SParc oedd bod y tîm mor awyddus i glywed fy marn fel person ifanc ac yn cymryd fy syniadau o ddifri. Cefais y sialens o greu dogfen yn rhoi adborth i Big Ideas Wales ar eu gwefan. Roedd ‘na lawr o le i wella yn y wefan o ran persbectif person ifanc ac roedd yn braf teimlo eu bod yn parchu a derbyn fy marn. Dwi’n edrych ymlaen at weld y gwelliannau i’r wefan yn y dyfodol gobeithio!

Yr uchafbwynt siŵr o fod oedd wythnos steddfod. Mynd allan o “fy comfort zone” go iawn yn rhan o banel yn trafod creadigrwydd mewn digwyddiad cyhoeddus. Fel person eithaf swil sydd erioed wedi mwynhau perfformio baswn’i byth wedi gweld fy hun yn gwneud rhywbeth fel hyn. Ond roedd o’n gyfle rhy dda i golli a dwi’n falch iawn imi gymryd rhan. Roedd cymysgedd o bobol hyn a phobol ifanc ar y panel ac roedd yn braf iawn fod ein barn ni fel pobol ifanc yn cael ei glywed.

Profiad newydd imi hefyd oedd cystadlu yn yr eisteddfod, fel rhan o dîm Rocket League M-SParc. Doedd y profiad hwnnw ddim mor llwyddiannus yn anffodus wrth inni ddod yn olaf, ond yn lot o hwyl!

Dwi nôl yn Lerpwl erbyn hyn ond mae bod yn intern Haf yn M-SParc wedi agor fy llygaid i’r cyfleoedd sydd i’w cael yn agosach at adref. A finnau yn gwneud gradd mewn peirianneg doedd cychwyn busnes fy hun yn rhywbeth i nes i erioed ystyried. Ond mae hynny yn bendant wedi newid, a dwi di sylweddoli bod unrhyw beth yn bosib hefo cefnogaeth a gwaith caled.

Bydd Guto yn nôl yn M-SParc yn pitshio ei syniad busnes newydd i banel o ddreigiau yn ein digwyddiad Den Y Dreigiau mis Tachwedd. Dewch i gefnogi!

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.