Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor ac M-SParc yn cydweithio ar yr Academi Sgiliau

Author picture
Roedd Emily Roberts, Rheolwr Ymgysylltu a Chymuned M-SParc, yn recriwtio ar gyfer Academi Sgiliau M-SParc, pan ddaeth cais i mewn gan Mikey Blankley. Yn Lleol o Fôn, roedd Mikey adref o'i flwyddyn gyntaf yn astudio Peirianneg Gemegol yn y Brifysgol ac roedd yn chwilio am brofiad perthnasol.

Mae Academi Sgiliau M-SParc yn rhaglen i gefnogi pobl i mewn i ddiwydiant, trwy ddarparu gwaith cyflogedig – gydag M-SParc yn gweithredu fel y cyflogwr ac AD – tra bod y cwmni maen nhw’n cael eu lleoli gydag yn rhoi cymorth a phrofiad ychwanegol iddynt dyfu eu profiad o fewn diwydiant mewn cyfnod byr o amser. 

Hefyd wedi’i leoli yn M-SParc mae Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor (NFI), cartref prosiectau THOR – Dolen Brawf Hydroleg Thermol, a BULLET – dolen debyg sy’n edrych ar arbrofion gyda phlwm. O ystyried y cydweithio presennol rhwng M-SParc a’r NFI, sy’n gynnwys gofod ychwanegol i’r NFI yn yr adeilad newydd sy’n cael ei gynllunio ar hyn o bryd ar safle M-SParc, roedd yn ymddangos fel y cyfle perffaith i Mikey. 

Neidiodd Dr Walter Villanueva, Academydd Arweiniol THOR a BULLET yn yr NFI yn M-SParc, ar y cynnig ar unwaith i gynnig lleoliad gwaith â thâl i fyfyriwr dros yr haf; rhywbeth y mae’r NFI yn frwd dros ei ddarparu. 

Mikey (Ch) a chriw'r NFI

Ariannwyd yr Academi gan gyllid ARFOR trwy Lywodraeth Cymru, a olygai fod Mikey hefyd wedi cael y cyfle am gwrs Cymraeg pwrpasol trwy Diwtor Cwrs Cymraeg Prifysgol Bangor. Am dri mis, daeth yn rhan annatod o dîm yr NFI, ac roedd yn wych ei weld gyda thîm M-SParc. 

Dywedodd Mikey:

Dw i wedi dysgu cymaint tra ar yr Academi, o waith optegol, i fioleg y môr i weithio gyda chromiwm! Mwynheais ddysgu sut i ddefnyddio Microsgop Sganio Electron, lle buom yn dadansoddi delweddau bach o samplau ac yn edrych am ddiffygion yn y deunydd ac yna’n gallu archwilio pam y gallai’r diffygion hyn fod wedi digwydd.

Dywedodd Dr Charlotte Baxter, Prif Dechnegydd y NFI:

Fe wnaethon ni fwynhau cael Mikey i weithio gyda ni ar brosiectau lluosog yn ystod ei amser gyda ni. Roedd yn help mawr i’r tîm, a chredaf iddo gael profiad gwerthfawr gennym yn ystod y cyfnod hwn yn gweithio nid yn unig ar rigiau hydrolig thermol, ond hefyd yn gweithio ar dechnegau nodweddu a synthesis nanoronynnau.

Mwynhaodd Mikey ei amser gymaint fel ei fod yn awyddus i ymuno â’r tîm eto’r haf nesaf, ac mae’n chwilio am gyfleoedd a allai ganiatáu iddo ddychwelyd i fyw a gweithio ar Ynys Môn, gyda thîm y NFI, pan fydd yn graddio. 

Meddai Dr Walter Villanueva:

Diolch, Emily, am gefnogi Mikey a’i gael i weithio gyda ni. Mae’n anhygoel clywed ganddo ei fod wedi mwynhau ei amser, ei fod yn agored i lawer o weithgareddau ymchwil, ac wedi cydweithio a helpu llawer o bobl. Mae’n fwy wych fyth clywed yr hoffai wneud hynny eto’r haf nesaf.

Related News

Emily Jane Roberts

Outreach & Community Manager

emily@m-sparc.com

Emily has worked for M-SParc since 2018.  Her previous role was at Bangor University, developing Welsh-language standardised tests for language disorders. Emily loves a graph, and would like them even better if they showed the closing of the skills gap in Wales, and a smaller gender pay gap in STEM.  She works to achieve this by supporting M-SParc’s Marketing & Events, Outreach and Community work, and STEM & Skills projects.

If you’d like to support this work, or just want to share some stats, get in touch.

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.