Buddsoddiad Llywodraeth y DU i gefnogi Swyddi a Sgiliau yn M-SParc

Picture of Cara Llyfni

Bydd y buddsoddiad yn cefnogi cyfleusterau arloesi newydd, twf busnes a chyfleoedd STEM i bobl ifanc yng Ngogledd Cymru.

Mae M-SParc, Parc Gwyddoniaeth Menai, Prifysgol Bangor wedi croesawu buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth y DU i gefnogi’r cam nesaf o ddatblygiad y campws arloesi fel rhan o Ddatganiad yr Hydref.  

Bydd y buddsoddiad strategol yn cefnogi gosod cyfarpar arbennigol o fewn adeilad Egni, sef ail adeilad M-SParc, gan gynnwys y Ganolfan STEM bwrpasol, gan gryfhau gallu M-SParc i gefnogi’r diwydiant, arloesi a thwf mentrau bach a chanolig (BBaChau/SMEs). 

Wedi’i leoli ym Mhorthladd Rydd Ynys Môn, bydd y buddsoddiad yn cryfhau seilwaith arloesi’r rhanbarth, gan ddarparu’r cyfleusterau a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar fusnesau i dyfu, datblygu technolegau newydd a chreu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel.  

Bydd y cyllid hefyd yn cefnogi datblygiad canolfan STEM bwrpasol yn adeilad Egni, gan ysbrydoli plant phobl ifanc i archwilio cyfleoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg gan ddatblygu sgiliau’r dyfodol ar gyfer plant a phobl ifanc Gogledd Cymru.

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc:

“Mae hyn yn newyddion gwych i fusnesau, plant a phobl ifanc y rhanbarth yn ogystal a M-SParc. Mae’n bleidlais sylweddol o hyder yn ein huchelgeisiau ar gyfer Gogledd Cymru. Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth y DU am gydnabod y cyfle i fuddsoddi mewn arloesedd, busnesau a sgiliau yn y rhanbarth. 

“Wrth i ni edrych ymlaen at agor Egni, ein hail adeilad, yn haf 2027, mae’r buddsoddiad hwn yn caniatáu i ni edrych hyd yn oed ymhellach ymlaen at ddatblygu pellach ar ein safle.  

“Ein huchelgais yw creu’r gofod, y cyfleusterau a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar fusnesau i arloesi, tyfu ac i lwyddo. Gyda’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y Porthladd Rhydd a datblygiadau rhanbarthol mawr, mae gennym gyfle gwirioneddol i adeiladu rhywbeth arbennig yma.  

“Yn hanfodol, mae’r buddsoddiad hwn hefyd yn ymwneud â’r genhedlaeth nesaf. Trwy ddatblygu canolfan STEM bwrpasol, gallwn ysbrydoli pobl ifanc a helpu i sicrhau bod y sgiliau a’r cyfleoedd a grëir gan fuddsoddiad yn ein rhanbarth o fudd i’n cymunedau a’n pobl ifanc am ddegawdau i ddod.”

Meddai'r Athro Edmund Burke, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:

“Bydd y buddsoddiad hwn yn cyfrannu tuag at allu Gogledd Cymru i arloesi, at entrepreneuriaeth a datblygu sgiliau ar adeg dyngedfennol i’r rhanbarth.   

Drwy gefnogi twf M-SParc a chreu cyfleoedd newydd i fusnesau a phobl ifanc, bydd yn helpu i sicrhau bod Gogledd Cymru mewn sefyllfa dda i elwa ar gyfleoedd sy’n dod i’r amlwg mewn meysydd fel ynni, technolegau uwch a Phorthladd Rhydd Ynys Môn.   

Mae llwyddiant hirdymor ein rhanbarth yn dibynnu ar gysylltu talent, ymchwil a menter, a bydd y buddsoddiad hwn yn chwarae rhan bwysig wrth gyflawni’r uchelgais honno.” 

Dywedodd Stephen Kinnock, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Mae’r cyllid hwn gan Lywodraeth y DU yn fuddsoddiad yn y sgiliau a’r seilwaith sydd eu hangen i greu mwy o swyddi o ansawdd uchel ar Ynys Môn.  

“Mae M-SParc eisoes wedi’i sefydlu fel lle mae ymchwil a busnes yn dod at ei gilydd i sbarduno twf economaidd. Bydd y buddsoddiad hwn o £2.5 miliwn gan Lywodraeth y DU yn gwthio hynny ymhellach, gan adeiladu ar y cyfleoedd a ddarperir gan Borthladd Rhydd Ynys Môn a’n buddsoddiad o £2.5bn mewn niwclear.” 

Cefnogi'r Cam Nesaf o Dwf

Disgwylir i adeilad Egni agor yn haf 2027 diolch i gymorth drwy’r Fargen Dwf (Uchelgais Gogledd Cymru), Llywodraeth Cymru a rhaglen Porthladd Rhydd Ynys Mon, gan ddarparu cyfleusterau newydd i fusnesau, ymchwilwyr ac arloeswyr sy’n gweithio ar draws sectorau twf allweddol.  

Bydd y trydydd adeilad arfaethedig yn darparu lle ychwanegol i ddiwydiant, gan gynnwys cyfleusterau gweithdy arbenigol i gefnogi gweithgynhyrchu uwch, technolegau ynni glân ac arloesi.  

Gyda’i gilydd, bydd y datblygiadau hyn yn sicrhau bod M-SParc yn ganolbwynt ar gyfer twf busnes, cydweithredu ymchwil a datblygu sgiliau yng Ngogledd Cymru.  

Anogir busnesau sydd â diddordeb mewn trafod y cyfleoedd i dyfu, arloesi neu sefydlu presenoldeb yn M-SParc ac o fewn y porthladd rhydd i gysylltu â thîm M-SParc drwy ebostio safle@m-sparc.com.

Related News

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.