Cynhaliwyd seremoni 2023 Wales STEM Awards Nos Wener (13/10), a chafodd M-SParc enwebiad yn y categori Rhaglen Addysgol STEM y flwyddyn.
Wedi’i chyflwyno gan y darlledwr Siân Lloyd, roedd y seremoni wobrwyo, a gynhaliwyd yng Ngwesty Mercure Holland House Caerdydd, yn cydnabod y gwaith STEM arloesol sy’n cael ei wneud yng Nghymru, gan fynd i’r afael â’r bwlch amrywiaeth a phrinder sgiliau, ac ysbrydoli a chodi dyheadau’r genhedlaeth nesaf.
Roedd y gystadleuaeth yn y categori yn gryf, gyda Sony UK Technology Centre, Admiral Insurance UK, Thales, CNECT Wales a Gwynt Glas i gyd ar y rhestr fer hefyd. Roedd yn fraint anhygoel cyrraedd y rhestr fer, ac yn anrhydedd cael ein dewis fel enillwyr.
Dywedodd Emily Roberts, Rheolwr Ymgysylltu a Chymunedol M-SParc: “Doedden ni wir ddim yn disgwyl ennill, roedd yn wych cael ein cynnwys ar y rhestr fer. Mae’n deimlad mor werth chweil ar ôl y misoedd o waith caled mae’r tîm wedi’i wneud i ddatblygu’r rhaglen, ac mae gallu dweud rŵan ein bod yn cyflwyno rhaglen sydd wedi ennill gwobr genedlaethol yn rhoi hygrededd gwirioneddol inni. Rydym mor falch o’r tîm, ond mewn gwirionedd, ysgolion yn y gogledd fydd yr enillwyr go wir. Rydym yn hyderus y bydd effaith ein gwaith yn parhau i dyfu ar draws y rhanbarth.”
Dywedodd y prif farnwr, Dr Louise Bright, sylfaenydd rhwydwaith Menywod Cymru Mewn STEM: “Mae’r enillwyr yn cynrychioli rhai o’r sefydliadau ac unigolion mwyaf blaengar sydd ar flaen y gad ym maes arloesi STEM yng Nghymru. Roedd safon y busnesau a’r unigolion ar y rhestr fer ar gyfer y gwobrau heb eu hail a hoffwn longyfarch pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol.”
Dywedodd Cyd-sylfaenydd Gwobrau STEM Cymru Liz Brookes, Cyfarwyddwraig Grapevine Event Management: “Mae ein henillwyr yn gwthio ffiniau arloesedd STEM ac yn helpu i fynd i’r afael â’r bwlch amrywiaeth a’r prinder sgiliau sy’n bodoli. Mae’r sefydliadau a’r unigolion hyn yn ysbrydoliaeth i’n gwlad a’n cenhedlaeth nesaf.”
Mae M-SParc wedi bod yn datblygu ei raglen addysgol STEM, gan weithio’n agos gydag ysgolion lleol, awdurdodau lleol, a diwydiant, i sicrhau bod y rhaglen wedi’i theilwra ar gyfer gogledd Cymru.