M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Wythnos Dechnoleg Cymru yn penodi llwyfan digwyddiadau hybrid Cymreig i gynnal uwchgynhadledd ryngwladol

Charlie Jones

Mae Carnedd yn falch o gyhoeddi ei fod yn gweithio gyda chydweithwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, GIG Cymru a Chanolfan Ragoriaeth SBRI i archwilio pa mor bosibl yw datblygu meddalwedd i wella’r broses o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i berthnasau am gleifion sydd yn yr ysbyty.

Mae cyfathrebu â pherthnasau am les cleifion yn rhan hanfodol o ofal cleifion. Pan fydd hynny’n cael ei wneud yn y ffordd briodol, gall leddfu llawer ar y gofid sy’n cael ei achosi pan fo anwylyd yn yr ysbyty. Fodd bynnag, mae ysbytai dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd ac maen nhw’n ei chael hi’n anodd dal i fyny â’r galw am y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a bydd Carnedd yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb yn ystod chwarter cyntaf 2023. Bydd yr astudiaeth hon yn edrych ar sut gall technoleg wella’r broses o ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i gleifion er mwyn gwella eu lles, rhoi tawelwch meddwl i’w perthnasau ac arbed amser i’r GIG. Os bydd Carnedd yn llwyddiannus yn yr astudiaeth ddichonoldeb, mae’n gobeithio dod â chynnyrch sylfaenol hyfyw i’r farchnad ddechrau 2024.

Dywedodd Edward Aslin, Cyfarwyddwr Carnedd;

“Rydyn ni’n hynod gyffrous ac yn teimlo’n freintiedig iawn ein bod wedi cael y cyfle hwn. Yn fy marn i, mae’r cyfuniad unigryw o sgiliau a phrofiad sydd gan y tîm yn ein rhoi mewn sefyllfa gadarn i fynd i’r afael â’r her hon. Gobeithio y bydd y prosiect hwn yn arwain at gynnyrch a fydd yn gwella ansawdd y gofal i gleifion – nid yn unig yn yr ysbytai lleol, ond ymhob rhan o ofal cymdeithasol”.

Ychwanegodd Megan Jones, y Datblygwr;

“Mae’r prosiect hwn yn addas iawn i ni gan ei fod yn ein galluogi i gyfuno ein profiad o ddatblygu meddalwedd gyda’n gwybodaeth am y diwydiant gofal iechyd. Mae hefyd yn cyd-fynd yn agos ag ymrwymiadau Carnedd i gefnogi amrywiaeth, i gyfrannu at dwf technoleg yng Ngogledd Cymru ac i weithio’n gynaliadwy. Mae’n arbennig o gyffrous gweithio ar brosiect yn yr ardal yma lle byddwn yn cael cyfle i ddylunio’r feddalwedd i gefnogi’r Gymraeg o’r cychwyn cyntaf.”

Bydd y prosiect yn cefnogi twf parhaus Carnedd wrth iddyn nhw geisio recriwtio eto yn y dyfodol agos.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw