M-SParc yn penodi tri aelod bwrdd newydd

Dan ni'n falch iawn o gyhoeddi tri aelod newydd i fwrdd M-SParc, bydd yn dod â chyfoeth o brofiad, arbenigedd ac arweinyddiaeth i'r bwrdd.

Yr aelodau bwrdd newydd yw’r entrepreneur ac Angel M-SParc Bobby Williams; llywodraethwr Prifysgol Bangor ac uwch weithredwr Grŵp Bancio Lloyds Julie Perkins; a thechnolegydd, sylfaenydd ac arloeswr Richard Scott.

Cadeirydd y bwrdd Martyn Riddleston, gyda Bobby, Richard, Julie, a'n rheolwr gyfarwyddwr Pryderi ap Rhisiart.

Fel entrepreneur lleol, adeiladais fy musnes ar Ynys Môn ar adeg pan nad oedd dim byd tebyg i M-SParc i gefnogi busnesau newydd. Dw i’n gwybod yn uniongyrchol yr heriau o dyfu cwmni technoleg yn y rhanbarth hwn, a dyna pam dw i’n angerddol am roi rhywbeth yn ôl. Mae M-SParc wedi trawsnewid y dirwedd ar gyfer arloesi a menter ar Ynys Môn, a dw i’n gyffrous i helpu i yrru ei genhadaeth; cefnogi’r genhedlaeth nesaf o fusnesau ac entrepreneuriaid uchelgeisiol ar draws yr ynys.

Bobby Williams

Edrychaf ymlaen at ddod â’m profiad diwydiant a mewnwelediadau o Gyngor y Brifysgol i gefnogi twf M-SParc a helpu i wneud y mwyaf o effaith economaidd Prifysgol Bangor. Dw i’n teimlo’n freintiedig iawn i gael ymuno â thîm mor gadarnhaol, egnïol a phrofiadol.

Julie Perkins

Rwy’n falch iawn o ymuno â Bwrdd M-SParc; ar ôl datblygu fy mentrau fy hun a gadael yn llwyddiannus, rwy’n gobeithio dod â rhywfaint o’r profiad hwnnw i mewn i eco-system fywiog M-SParc.

Richard Scott

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.