Am ddwy flynedd, mae cynllun peilot Tech Tyfu – sy’n cael ei gyflwyno gan y sefydliad nid-er-elw, Menter Môn – wedi gweithio gyda thyfwyr yng Ngwynedd ac Ynys Môn i ddatblygu microlysiau ffres gan ddefnyddio dulliau hydroponig cynaliadwy sy’n seiliedig ar ddŵr.
Mae eu llwyddiant wedi golygu bod angen Uwchraddio’r fenter i gynnwys mwy o gynhyrchwyr a fydd yn cael rhagor o gyngor ac arweiniad, offer arloesol a chymorth busnes a marchnata parhaus.
Drwy hyrwyddo twristiaeth bwyd a chryfhau’r gadwyn gyflenwi leol yng ngogledd orllewin Cymru, bydd Tech Tyfu yn rhoi hwb i’r sector amaethyddol ar ôl y pandemig yn ôl y swyddog prosiect David Wylie, yn M-SParc ar Ynys Môn.
“Rydym wrth ein boddau gyda’r canlyniadau a’r adborth cadarnhaol gan y tyfwyr,” meddai.
“Maen nhw wedi dangos bod awydd am ficrolysiau blasus a ffres, a sicrhau gwerthiant i fwytai, siopau annibynnol a chan ddefnyddwyr mewn ffeiriau a digwyddiadau bwyd.
“Y cam nesaf yw agor hyn i fwy o gadwyni cyflenwi a mesur llwyddiant mewn meysydd eraill; ar hyd y ffordd byddwn yn edrych ar gyfleoedd ymchwil a datblygu ac yn parhau i wthio ffiniau arloesi i dynnu sylw at fanteision ffermio fertigol ac agor sianel arall er mwyn i ffermwyr, busnesau, a’r diwydiant bwyd arallgyfeirio.”
Mae ffermio fertigol yn galluogi tyfwyr i reoli amgylchedd eu cnwd, sy’n golygu bod dŵr a maethynnau yn cael eu defnyddio’n llawer mwy effeithlon. Mae hefyd yn caniatáu tyfwyr i greu’r amodau angenrheidiol i dyfu cnydau y tu allan i’r tymor, gan leihau’r pwysau ar y gadwyn cyflenwi bwyd yn ogystal â chostau cludo, pecynnu ac oeri.
Ymhlith y rhai a fu’n cymryd rhan yn y prosiect peilot oedd Helen Bailey, cyfarwyddwr Baileys and Partners, syrfewyr siartredig, yn Nhyddyn Du, Llanbedr.
Fe wnaeth hi a’i chydweithiwr Jodie Pritchard lansio Microlysiau Tyfu’r Tyddyn o ysgubor gerrig draddodiadol yn ei chartref yn Eryri ac mae wedi cael ei chalonogi gan y canlyniadau ac wedi’i gyflenwi i arlwywyr, tafarndai, bwytai a chwsmeriaid adwerthu gan gynnwys Deli yr Hen Farchnad Gaws yn Harlech.
“Roedden ni’n ymwybodol o ffermydd fertigol mewn rhannau eraill o’r DU felly roedd y cyfle i ymuno â phrosiect Tech Tyfu yn gyffrous ac mi wnaeth ein galluogi i ddangos prawf o gysyniad i’n cwsmeriaid, rhywbeth mae gennym enw da amdano fel cwmni,” meddai Helen.
“Nid yw’r topograffi a’r hinsawdd yma yng Ngogledd Cymru yn cyd-fynd â dulliau tyfu confensiynol. Fodd bynnag, mae ffermio fertigol yn ei amgylchedd rheoledig yn eich galluogi i dyfu prif gynhyrchion fel brocoli, radis, egin pys a bresych deiliog – cnydau nad ydynt yn frodorol i’r rhanbarth hwn.”
Ychwanegodd: “Byddwn yn gweithio gyda thyfwyr rhandiroedd i annog dulliau ffermio fertigol, ac, yn bwysig iawn, yn ceisio lledaenu’r neges am y manteision iechyd meddwl a lles sydd i hyn.”
Ategwyd y geiriau hynny gan Warren Priestley, a lansiodd Fferm Cwm yr Wyddfa yn Waunfawr fis Ebrill diwethaf gyda Len a Gareth Griffith-Swain.