Mae ein tenantiaid a’n tîm yn hynod o brysur, felly mae’n bwysig eu bod yn cael mynediad hawdd at bopeth sydd ei angen arnynt i ofalu am eu iechyd a’u lles. Gall Caffi Tanio ddarparu llu o opsiynau bwyd a diod iachus iddynt, ond beth os ydych am gyrraedd y gampfa ar ôl diwrnod hir o waith?
Dyna lle mae Ffwrnes yn dod i mewn! Gyda mynediad i’n tenantiaid yn cael ei ddarparu ar sail aelodaeth, mae gan ein campfa bopeth y gallai fod ei angen arnoch i ofalu am eich ffitrwydd corfforol a meddyliol ar ôl diwrnod prysur yn y gwaith.
Tenantiaid, plis gwyliwch y fideo isod. Mae’r treadmil, beic a peiriant rhwyfo i gyd yn ein gampfa a medrwch eu gwylio 9:40, 11:46 a 13:18 mewn i’r fideo. Pan ‘da chi’n barod, cysylltwch gyda ni er mwyn i ni cael chi’n barod i ddefnyddio Ffwrnes!
Mae COVID-19 wedi amharu ar ein bywydau ni gyd dros y misoedd diwethaf, ac i lawer mae wedi cael rhywfaint o effaith o leiaf ar ein hiechyd a’n lles. Er enghraifft, mae 42% o weithwyr wedi teimlo unigrwydd yn ystod y pandemig.
Gan edrych ymlaen, wrth i fwy o bobl ddechrau dychwelyd yn ôl i M-SParc, rydym yn gwella ein cynnig cymorth i gynnwys cefnogaeth iechyd a lles. Gobeithiwn ni y byddwch chi bob amser yn teimlo’n ddiogel wrth ddod i M-SParc, a’ch bod yn teimlo y gallwch chi ddychwelyd i’r awyrgylch cadarnhaol ac egnïol yma.
Gall yr un hwn ymddangos yn amlwg, ond gallai’r bwyd rydych chi’n ei fwyta effeithio ar eich iechyd corfforol a meddyliol.
Mae Ceri Lloyd wedi creu fideos ymarfer corff a rysáit pwrpasol i chi. Gall ioga helpu gydag iechyd meddwl a chorfforol, gan hyrwyddo cryfder a brwydro yn erbyn straen.
Os yw’n well gennych fonitro’ch iechyd meddwl eich hun, gallwch ddefnyddio ap y GIG ‘Thrive’. Gall yr ap hwn helpu gyda materion straen a phryder, ac mae’n rhad ac am ddim! Cysylltwch ag Olwen am fwy o wybodaeth.
I’ch helpu , rydym wedi ymuno â MediTec i gynnal cwrs cymorth cyntaf – yn rhad ac am ddim. E-bostiwch Olwen i gofrestru eich diddordeb.
Efallai y bydd gan eich cyflogwr, rheolwr llinell, neu adran AD fynediad at gymorth pellach hefyd. Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n cael trafferth gyda’ch iechyd neu’ch lles, siaradwch gyda rhywun cyn gynted ag y gallwch. Mae cefnogaeth ar gael bob amser, mae’n fater o ddod o hyd i’r hyn sy’n gweithio i chi.
Cysylltwch ag Olwen, a all roi cyngor i chi ar eich aelodaeth campfa!