
Wedi tyfu i fyny ar Ynys Môn, wedi’i hamgylchynu gan dirwedd anhygoel Eryri, gyda llanw cryf y Fenai a Môr Iwerddon byth yn rhy bell oddi cartref roedd hi bob amser yn uchelgais gan Ffion i weithio yn y sector Carbon Isel ac mae’r blog hwn yn edrych yn ôl ar ei 2 fis cyntaf yn y swydd yn gwneud yn union hynny.
Nod Ffion yw sicrhau bod y cenedlaethau nesaf nid yn unig yn cael planed wyrddach ond hefyd cyfleoedd gyrfa da yn Ynys Môn ac ardal ehangach gogledd Cymru. Gyda chefndir mewn Marchnata a Chyfathrebu, graddiodd Ffion yn LJMU gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Busnes a Chysylltiadau Cyhoeddus ac mae’n teimlo’n lwcus ei bod wedi cael dwy swydd leol yn syth ar ôl coleg gan ganiatáu iddi ddychwelyd adref. Mae hi’n croesi ei bysedd am yr un lwc i eraill yn y dyfodol, yn enwedig gyda chymaint o ffocws ar ynni adnewyddadwy a chynaliadwy.
Clywch gan Ffion ei hun:
Ar fy niwrnod cyntaf gyda’r thîm Egni, camais i rôl Swyddog Cymorth Clystyrau Carbon Isel, gan ganolbwyntio ar glystyrau fel y Gynghrair Ynni ar y Môr, Arc Niwclear y Gogledd Orllewin, a HyCymru. Yr eiliad y des i i mewn i M-SParc, roeddwn i’n gallu synhwyro awyrgylch bywiog a deinamig y tîm. Roedd mynychu’r cyfarfod bore Llun yn brofiad syfrdanol wrth i mi ddysgu am yr ystod amrywiol o brosiectau. Roedd yn amlwg y byddai pob diwrnod yn dod â rhywbeth newydd, ac roeddwn yn awyddus i ymgolli’n llwyr yn fy rôl fel Swyddog Cymorth Clwstwr Carbon Isel.
Yn ystod fy wythnos gyntaf, cefais y cyfle anhygoel i gychwyn ar daith cwch i fferm wynt Gwynt y Môr, a drefnwyd gan RWE a’r Offshore Energy Alliance i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg 2023. Fel rhan o’r ‘Offshore Energy Alliance’, yr wyf yn ei chefnogi, a chyda RWE fel partneriaid yn y diwydiant, cefais fy syfrdanu i fod yn rhan o’r digwyddiad hwn. Roedd cyfarfod a chysylltu â nifer o fenywod ysbrydoledig o’r diwydiant yn wirioneddol werth chweil. Roedd tyrbinau Gwynt y Môr, gyda’u diamedr rotor 107m, uchder hwb 84.4m, a 137.9m o uchder i flaen y llafn, yn sefyll ar uchder trawiadol 150m uwch lefel y môr, ffaith a’m trawodd yn fawr wrth i mi edrych i fyny arnynt o’r cwch, yn teimlo’n arswydus ac yn fach iawn!
Roedd Barbeciw Tenantiaid M-SParc yn gyfle gwych i gymysgu â’r bobl hynod sy’n rhan o Ecosystem M-SParc. Trwy gemau, chwerthin, a sgyrsiau difyr, darganfyddais y potensial aruthrol sy’n ffynnu yn y gymuned hon. Nid lle gwaith arferol mohono; mae’n ganolbwynt fywiog o arloesi, cydweithio, ac uchelgais sy’n ei gosod ar wahân.
Roedd sefydlu “Canolfan Datgomisiynu” Westinghouse yn M-SParc wrth iddynt ddod yn denantiaid yn ddigwyddiad arwyddocaol. Gan wasanaethu fel canolfan ar gyfer eu Tîm Amgylcheddol, mae’r hwb yn cefnogi prosiectau datgomisiynu yn lleol ac yn fyd-eang. Daeth y datblygiad hwn â newyddion gwych nid yn unig i M-SParc ond i gymuned Ynys Môn a thu hwnt, wrth i Westinghouse gynllunio i lenwi 15 o swyddi newydd gyda phobl leol, i gryfhau eu hymdrechion datgomisiynu. Mynychwyd y digwyddiad gan gynrychiolwyr o Lysgenhadaeth UDA, partneriaid corfforaethol, ac aelodau o’r gymuned leol, i gyd yn awyddus i groesawu’r bennod newydd gyffrous hon i Ynys Môn.
Roedd digwyddiad yr Eisteddfod yn gyfle arbennig i ni rannu gwybodaeth am y cymysgedd ynni carbon isel yng ngogledd Cymru i deuluoedd a phlant. Gan ddefnyddio modelau pentref ynni arbennig ein tîm yn arddangos ynni gwynt, solar, niwclear a hydro, ein nod oedd addysgu a sparcio ysbrydoliaeth yn y genhedlaeth iau. Roedd gweld y chwilfrydedd a’r cyffro yn llygaid y plant wrth iddynt amsugno gwybodaeth yn eiddgar ac archwilio potensial dyfodol gwyrddach yn wirioneddol galonogol. Pwysleisiodd y profiad hwn ymhellach arwyddocâd meithrin dealltwriaeth gynnar o’n hadnoddau naturiol a’u potensial aruthrol.
Wrth edrych ymlaen, mae llawer i’w ragweld:
•Wythnos Niwclear yn y Senedd ochr yn ochr ag Arc Niwclear y Gogledd Orllewin, yn cynnig cyfle i drafod pynciau fel adeiladau newydd, Technolegau Niwclear Uwch, y cylch tanwydd, a datgomisiynu gyda Seneddwyr.
• Ymuno â thîm M-SParc ar gyfer #ArYLondon, taith wythnos o hyd yn tynnu sylw at Gymru fel canolbwynt arloesi. Bydd cynrychiolwyr diwydiant, y byd academaidd, cyllid, a’r llywodraeth yn cydweithio i gynnal cyfres o ddigwyddiadau cyffrous.
•Plymio’n ddyfnach i fyd Ynni Hydrogen, gan anelu at ddatgloi ei botensial yng ngogledd Cymru a’r rhanbarth ehangach.
• Cymryd rhan yng nghynadleddau’r blaid Lafur a’r Ceidwadwyr gyda The Offshore Energy Alliance.
Wrth i’m dau fis cyntaf o fod yn rhan o dîm Egni yn M-SParc ddatblygu, rwy’n sylweddoli bod fy angerdd dros ynni adnewyddadwy a sicrhau dyfodol cynaliadwy yn cynyddu’n barhaus. Drwy weithio fel Swyddog Cymorth Clwstwr Carbon Isel rwy’n gobeithio gwneud cyfraniad sylweddol i’m cymuned leol a thu hwnt drwy wneud y mwyaf o’r cyfleoedd carbon isel sydd gennym yma yng ngogledd Cymru. Yn sicr mae dyfodol disglair (a gwyrdd!) addawol o’n blaenau.