M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Croeso, Aelodau Bwrdd newydd

Charlie Jones

Wrth i ni nesáu at Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol ein Bwrdd, rydym yn falch o gyhoeddi ein haelodau diweddaraf. Mae aelodau ein bwrdd yn asedau gwerthfawr i ni yma yn M-SParc gan roi adborth ddefnyddiol i ni ar y penderfyniadau a wnawn.

Hoffem ddiolch i Dr Iwan Davies, cyn Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Sian Hope a Dr John Idris wrth i’w hamser ar y bwrdd ddod i ben. Maen nhw wedi bod yn gyfranwyr amhrisiadwy wrth i ni ddatblygu. Maen nhw wedi bod yn gyfranwyr amhrisiadwy wrth i ni ddatblygu. Hoffem ddiolch iddynt am eu holl gyfraniad a chefnogaeth dros y blynyddoedd.

Yn lle Iwan Davies bydd Ms Pauline Muya, Pennaeth Dros Dro IRIS. Yn cymryd lle Sian Hope bydd Mrs Alison Lea-Wilson, aelod annibynnol o’r Cyngor a Sylfaenydd Halen Môn. Nia Roberts; Arbenigwr IP gyda phrofiad helaeth mewn diwydiant a llywodraeth fydd yn cymryd sedd Dr John Idris.

Estynnwn groeso cynnes i aelod newydd o’r bwrdd Mr Michael Rushton sy’n Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig Prifysgol Bangor.

Byddwn Emily Roberts, aelod o staff M-SParc yn ymuno â’r bwrdd fel llais tîm M-SParc. Mae hi wedi bod gyda’r cwmni ers 2013 ac mae hefyd yn eistedd ar fwrdd Cymdeithas Parc Gwyddoniaeth y DU, felly bydd yn ased i’r bwrdd.

Unwaith eto, hoffem ddiolch i’n holl aelodau blaenorol ac ni allwn aros i ddechrau gweithio gydag aelodau newydd y bwrdd! Edrychwn ymlaen at drafodaethau a chydweithio diddorol a thrafod syniadau newydd.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw