Dros y ddau fis diwethaf, mae naw tîm o fyfyrwyr wedi bod yn gweithio’n uniongyrchol gyda phedair cwmni sydd wedi’u lleoli yn M-SParc — Probit, 42able, Evometric a Jovasi — i fynd i’r afael â heriau busnes byw. Gosodwyd y prosiectau gan y cwmnïau eu hunain, gan roi cyfle i fyfyrwyr gymhwyso eu sgiliau mewn cyd-destun ymarferol, dan arweiniad y diwydiant.
Dechreuodd y rhaglen ym mis Chwefror, pan ymwelodd myfyrwyr ag M-SParc i gwrdd â’r busnesau a chael dealltwriaeth ddyfnach o’r heriau y byddent yn mynd i’r afael â nhw. O’r fan honno, datblygodd timau eu syniadau gyda mewnbwn parhaus gan bartneriaid diwydiant, gan brofi a mireinio eu hatebion yn unol ag anghenion byd go iawn.
Ochr yn ochr â datblygiad technegol, cynigiodd y profiad fewnwelediad gwerthfawr i ddisgwyliadau’r gweithle — o gyfathrebu a chydweithio i reoli amser a chyflawni fel rhan o dîm.
Daeth y rhaglen i ben gyda sioe arddangos olaf, lle cyflwynodd pob grŵp eu hatebion. Roedd y safon gyffredinol yn uchel, gyda sawl prosiect yn dangos potensial clir ar gyfer datblygiad pellach y tu hwnt i’r modiwl.
Emily Roberts, Rheolwr Ymgysylltu a Sgiliau M-SParc
James Finney, Prif Swyddog Gweithredol 42able
Dr David Evans, Darlithydd yn Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig






Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i M-SParc arwain ar gefnogi’r modiwl hwn, ac mae’r cydweithrediad hwn yn tynnu sylw at gryfder parhaus y berthynas rhwng M-SParc a Phrifysgol Bangor, a gwerth creu cyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu’n uniongyrchol â diwydiant.
Roedd y diwrnod yn enghraifft berffaith o’r ecosystem arloesi, wrth i fyfyrwyr, diwydiant a phrifysgol ddod ynghyd i yrru syniadau ymlaen.
Mae mwy o gyfleoedd i weithio gydag M-SParc ar y gweill, gan gynnwys ein cyfle interniaeth haf! Dysgwch fwy yma.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.