Mae Tinint, enillwyr yr Hac Iaith 2024, wedi cychwyn ar brosiect cyffrous i hybu’r iaith Gymraeg o fewn y dosbarth yn ddefnyddio technoleg.
Cynhaliwyd yr Hac Iaith bob blwyddyn ers 2021, gyda arian a chefnogaeth Llywodraeth Cymru dan arweiniad M-SParc. Yr her y tro hwn oedd creu datrysiad i hybu defnydd o’r iaith Gymraeg, yn enwedig o fewn grwpiau sydd efallai ddim yn ei ddefnyddio bob dydd.
Yn dilyn ennill yr Hac, a gan adeiladu ar lwyddiant y cwis digidol poblogaidd Cwis Bob Dydd, mae Tinint yn datblygu fersiwn newydd wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer defnydd plant yn yr ystafell ddosbarth, gan sicrhau bod dysgu’r Gymraeg yn hwyliog ac ysgogol.
Fel rhan bwysig o’r broses ddatblygu, mae M-SParc a Tinint wedi cynnal ymchwil gyda grwpiau ffocws o awdurdodau lleol, ac mae ysgolion fel Ysgol Glan y Môr (Pwllheli), Ysgol David Hughes, (Porthaethwy) ac Ysgol Parc y Bont (Gaerwen) wedi cymryd rhan. Cafwyd syniadau newydd ac adborth a fydd yn llunio Cwis sy’n ddefnyddiol, yn cefnogi y cwricwlwm newydd, a bydd yn cael ei ddefnyddio ar lawr y dosbarth. Dywedodd Pryderi Ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc:
Dywedodd Aled Parry, Cynhyrchydd Gweithredol Tinint:
Dywedodd Pennaeth Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel:
Mae M-SParc yn gweithio i bontio’r bwlch sgiliau yn y rhanbarth, ac mae eu gwaith yn y sector addysg ac EdTech yn ehangu oherwydd hyn. Ochr yn ochr â 3 gweithdy STEM a Sgiliau a grëwyd yn arbennig sy’n cyd-fynd â chwricwlwm Cymru ac sy’n hyrwyddo entrepreneuriaeth, mae M-SParc a chwmnïau tenantiaid yn gweithio ar ddatrysiadau EdTech i helpu plant i ddysgu Cymraeg, ac yn cefnogi athrawon i weithio o fewn deddfwriaeth gan ddefnyddio AI i gefnogi tasgau gweinyddol.
Nawr, mae M-SParc a Tinint wrthi’n casglu data pellach ac yn gwahodd gweithwyr ym maes addysg i rannu eu barn. Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu eich barn, dilynwch y ddolen i’r holiadur yma.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.