Heddiw, cynhaliwyd dathliad i’n tenantiaid yma yn M-SParc. Gweinwyd cinio Nadoligaidd gan griw Caffi Tanio (un figan i fi) a dywedodd ein Rheolwr Gyfarwyddwr Pryderi chydig o eiriau clen ac haeddiannol am Gwenllian Owen, sy’n ein gadael ni i wneud ei pheth ei hun. Pob lwc Gwenllian!
Yna roedd hi’n amser ar gyfer fy nghwis Nadolig anodd iawn, bron yn amhosib! Fe wnes i gynyddu’r lefel anhawster eleni; wedi’r cyfan, M-SParc ydi calon arloesedd Cymru, ac mae’n gartref i rai o’r meddyliau gorau a mwyaf disglair ar y blaned; gan gynnwys Dr Debbie Jones ni, wnaeth ddarllen y cwestiynau. Hi oedd y darian a’m hamddiffynnodd rhag dicter y rhai oedd yn bresennol, a roddodd wybod i mi mewn termau pendant fod y cwis yn rhy anodd.
Felly, er gyfer eich adloniant neu artaith, dyma’r cwis!
Llongyfarchiadau Chester am ennill ein cystadleuaeth siwmpr dolig!
Q1. Pa liw ydi aeron uchelwydd?
Q2. Yn draddodiadol, pa flas sydd ar cansen siwgr?
Q3. Pryd mae Hannukah 2025 yn cychwyn?
Q4. Faint o ganwyllau sydd ar menorah?
Q5. Yng Ngwlad yr Iâ, faint o Fechgyn Nadolig (Jólasveinar) sy'n ymweld â phlant yn ystod mis Rhagfyr?
Q6. Ym mha wlad mae KFC yn draddodiad Noswyl Nadolig?
Q7. Pwy oedd y Tri Gwr Doeth? Melchior, Caspar, a…?
Q8. Be ydi’r anialwch fwyaf o ran arwynebedd?
Q9. Pa wlad ydi’r agosaf at y pegwn gogleddol?
Q10. Pa wlad sydd â gwrach sy’n rhoi presantau pob dolig?
BONWS – Be ydi enw’r wrach?
Q11.
Q12.
Q13.
Q14.
Q15.
Q16. Ym 1992, anfonwyd yr SMS cyntaf. Beth oedd yn ei ddweud?
Q17. Mae gan goeden Nadolig 48 o oleuadau. Os yw pob 6ed golau yn blincio, faint sy'n blincio i gyd?
Q18. Os yw Siôn Corn yn ymweld ag 720 miliwn o gartrefi mewn 24 awr, faint o gartrefi y mae'n ymweld â nhw bob munud?
Q19. Pa nwy sy'n cael ei ryddhau pan fydd cracer Nadolig yn "popio"?
Q20. Mae ‘na 3 corach; Sion, Debs a Quinton. Mae nhw i gyd yn lapio anrheg; trên, llyfr a jigso. Di Debs ddim yn lapio’r llyfr. Mae'r jig-so wedi'i lapio gan y corach gyda’i enw'n dod olaf yn nhrefn yr wyddor. Di Quinton ddim yn lapio’r trên. Pwy sy’n lapio be? (Fformat ateb: “Debs – … / Quinton – … / Sion – …”)
Q21. Faint o ceirw sy’n tynnu sled Sion Corn?
Q22. Be ydi’r llythyren nesaf yn y patrwm: C, T, S, P, _ ?
Q23. Os yw goleuadau Nadolig yn tynnu 0.2 amp ar gylched 240V, beth yw'r defnydd o bŵer?
Q24. Pam mae ffyrdd rhewllyd yn cael eu trin â halen?
Q25. Yn Home Alone 2, ym mha westy mae Kevin yn aros
Bonws 2. Pa wleidydd mae o’n cyfarfod yn y lobi?
Q26. Yn y ffilm Gremlins, be ydi enw y mogwai?
Q27. Yn y ffilm Die Hard, ym mha ddinas mae’r Nakatomi Plaza?
Q28. Ym mha flwyddyn y rhyddhawyd y ffilm Nadolig gyntaf, Santa Claus, a gyfarwyddwyd gan George Albert Smith?
A dyna fe! Adnoddau isod os ydych chi eisiau rhoi cynnig ar chwarae cwisfeistr eich hun.
Hefyd, llongyfarchiadau i Chester, a enillodd ein cystadleuaeth Siwmper Nadolig!
‘Run peth blwyddyn nesaf?
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.