Cwmni Deillio Gwyddor Bywyd yn codi dros £1 miliwn i ddatblygu triniaeth canser

Author picture

Mae Awen Oncology, cwmni deillio o Brifysgol Bangor, wedi sicrhau dros £1 miliwn o gyllid i ddatblygu ystod arloesol o gyffuriau gwrth-ganser sy'n targedu amrywiaeth o fathau o ganser. Gyda chefnogaeth gan M-SParc a buddsoddiad ecwiti sylweddol gan Fanc Datblygu Cymru, a chyd-fuddsoddwyr Start Codon, mae'r cwmni bellach mewn sefyllfa i fynd â'i ddatblygiad i'r lefel nesaf.

Mae’r llwyfan arloesol a ddatblygwyd gan Awen Oncology yn mynd i’r afael ag angen sylweddol nas diwallwyd mewn oncoleg, trwy ganolbwyntio ar enynnau datblygiadol dynol nas targedwyd o’r blaen sydd, er eu bod yn segur mewn meinweoedd iach, yn ymddwyn yn annisgwyl yn ystod dyfodiad a dilyniant canser.

Tîm Awen Oncology o'r chwith i'r dde: Ela Evans; Alec Jukes; Dr Pete Hotten; Tom Davies, Banc Datblygu Cymru; Yr Athro Andrea Brancale; Dr Ramsay McFarlane; Jane Wakeman; Jordan Morris; Dr Rebecca Cowie. (Delwedd: Ginger Pixie Photography)

Wedi’i lleoli yn M-SParc, ac wedi’i sefydlu’n wreiddiol gyda grant Cancer Resarch UK, mae Awen Oncology yn gwmni sy’n deillio o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd. Sefydlwyd y cwmni therapiwteg newydd gan y cyd-sefydlwyr Doctor Ramsay McFarlane, Doctor Jane Wakeman a’r Athro Andrea Brancale, arweinydd byd mewn cemeg feddyginiaethol gyfrifiadol. Mae’r cwmni hefyd yn cael cymorth gan dimau clinigol ledled y DU.

Mae M-SParc wedi cefnogi’r cwmni i ddeillio o Brifysgol Bangor trwy ein rhaglen Academi Sgiliau, ein Cyflymydd Lefel Nesaf, a chyllid grant sy’n arwain at barodrwydd buddsoddwyr.

Gwnaeth Banc Datblygu Cymru fuddsoddiad ecwiti chwe ffigwr ochr yn ochr â buddsoddiad chwe ffigwr pellach gan Start Codon, arbenigwyr tyfu mentrau gwyddor bywyd arbeingol. Mae Awen Oncoleg hefyd yn cael cefnogaeth ariannol gan Cancer Research UK, Innovate UK a rhaglen gyfalaf SMART Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, mae’r cwmni wedi’i ddewis ar gyfer datblygiad pellach drwy Innovate UK Business Growth, rhaglen ehangu ar gyfer busnesau arloesol sy’n llywio datblygiad economaidd.

“Un o’n hamcanion yn M-SParc yw cyflymu effaith economaidd yr ymchwil rhagorol ym Mhrifysgol Bangor, ac mae Awen Oncology yn enghraifft wych o hyn,” meddai Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc. “Dwi’n arbennig o falch bod ein heco-system arloesi a’n rhaglenni wedi cyflymu Awen i’r sefyllfa cryf maent ynddi heddiw. Dwi’n gobeithio y gall eu llwyddiant ysbrydoli academyddion eraill i weithio gyda ni i ystyried opsiynau a chyfleoedd Masnacheiddio.”

Mae ein technoleg yn agor gofod newydd mewn darganfod cyffuriau oncoleg, i drin amrywiaeth o falaeneddau, gan gynnwys canserau prin nad oes ganddynt opsiynau triniaeth effeithiol ar hyn o bryd. Rydym yn hyderus bod cefnogaeth gyfunol y Banc Datblygu a Start Codon, ochr yn ochr â’r prifysgolion ac M-SParc, yn golygu bod gennym bellach y gefnogaeth i gyflymu ein gwyddoniaeth arloesol i fenter fasnachol fyd-eang lwyddiannus a allai helpu i drin canserau.

Dr Ramsay McFarlane, Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd, Awen Oncology

Dywedodd Dan Rooke, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredu Start Codon: “Mae Awen Oncology yn gwmni cyffrous iawn, gyda thechnoleg sy’n newid y gêm sydd, yn ein barn ni, â’r pŵer i ddatgloi triniaethau canser newydd a gwella canlyniadau cleifion yn sylweddol. Rydym yn falch iawn o fuddsoddi ochr yn ochr â’n ffrindiau ym Manc Datblygu Cymru – y tro cyntaf i Start Codon – ac rydym yn edrych ymlaen at helpu tîm Awen i ddatblygu eu technoleg a thyfu’r cwmni i fod yn arweinydd yn y gofod therapiwteg canser.”

Mae Tom Davies yn Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol gyda Banc Datblygu Cymru. Meddai: “Gydag arbenigedd academaidd blaenllaw ym maes bioleg ffactorau datblygiadol oncogenig, mae Awen Oncology yn arloesi gyda chyffuriau oncoleg newydd a allai o bosibl drin sawl math gwahanol o ganser a helpu i ddatblygu’r diwydiant biofferyllol yng Nghymru. Mae cefnogaeth arbenigol Start Codon fel cyd-fuddsoddwyr, ochr yn ochr â’n cronfeydd, yn golygu bod y cwmni mewn sefyllfa dda i fwrw ymlaen â’r gwaith o ymchwilio a datblygu ei gyffuriau a denu cyllid pellach gan fuddsoddwyr sy’n arwain y diwydiant.”

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.