Gan bod y ddau gwmni yn denantiaid yn M-SParc, roedd hyder y byddai’r timau’n gweithio’n dda gyda’i gilydd. Mae M-SParc yn denu busnesau o safon uchel ac mae gennym ethos cryf o hyrwyddo cydweithio rhwng ein tenantiaid.
Roedd yn hawdd trefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ogystal â chyfarfodydd mwy ffurfiol, gan bod y ddau gwmni wedi eu lleoli yma yn M-SParc. Defnyddwyd yr ystafell fwrdd ar gyfer cyfarfodydd mwy strwythuredig, tra bod Caffi Tanio yn ofod perffaith ar gyfer dal i fyny mwy anffurfiol dros goffi.
Dywedodd Olwen Davies, Rheolwr Masnachol a Chytundebau M-SParc
Yn M-SParc, rydym bob amser yn falch o weld yr arbenigedd a’r cydweithio sy’n bodoli o fewn ein cymuned o denantiaid. Roedd Tropic wedi creu argraff bositif iawn ar Baileys gan ennill hyder yn eu dull o’r cyfarfod cyntaf. O fewn ychydig wythnosau, roedd Tropic wedi datblygu dealltwriaeth gadarn o fusnes Baileys ac yn gallu eu cefnogi wrth symud ymlaen gyda’u taith ailfrandio. O fewn ychydig fisoedd, roedd hunaniaeth brand newydd a gwefan newydd wedi’u ddatblygu, ynghyd â lansiad gwasanaeth Asiantaeth newydd Baileys ar gyfer gwerthu a gosod eiddo. Tynnodd Baileys sylw hefyd at ddull ymarferol Tropic a’u rheolaeth prosiect ragorol, a chwaraeodd ran allweddol ar lwyddiant y prosiect.
Ers hynny, mae Baileys a Tropic wedi datblygu perthynas waith gref a chydweithredol, gyda Tropic yn cefnogi Baileys i hyrwyddo eu brand a’u gwasanaethau Asiantaeth drwy gyfryngau cymdeithasol, gan gryfhau presenoldeb ar-lein Baileys ymhellach.
Mae’r ddau fusnes yn rhannu ethos tebyg, sy’n canolbwyntio ar adeiladu perthnasau gwaith cryf, ymddiriedaeth, sylw i fanylion a chynnal safonau proffesiynol uchel. Mae’r dull cyffredin hwn wedi helpu i greu partneriaeth naturiol rhwng y ddau gwmni ac mae’n adlewyrchu’r amgylchedd cydweithredol sydd wrth wraidd cymuned M-SParc.
Dywedodd Helen Bailey, Cyfarwyddwr, Baileys
Olu Peyrasse, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Strategol, Tropic
Mae M-SParc yn gartref i gymuned gynyddol o fusnesau arloesol, lle mae cydweithio a rhannu syniadau yn aml yn arwain at gyfleoedd newydd. Anogir busnesau sydd â diddordeb mewn ymuno â’n ecosystem a manteisio ar fod yn rhan o gymuned M-SParc i gysylltu gyda Olwen Davies i ddarganfod mwy – olwen@m-sparc.com.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.