Ni fydd M-SParc yn gadael unrhyw un o’n tenantiaid i ‘fynd ar ei ben ei hun’. Mae’r cymorth yn ymwneud â meithrin a chefnogi busnesau, helpu i wneud cysylltiadau a chreu cymuned, gan sicrhau bod cwmnïau tenantiaid yn rhan o eco-system i’w harwain ar eu taith.
Rydym wedi adeiladu cymuned o gefnogaeth a all eich cynorthwyo, gan gynnwys arbenigwyr Treth Ymchwil a Datblygu mewnol, Cyngor AD, a Chyfreithwyr Masnachol. Gan ein bod yn eiddo’n gyfan gwbl i Brifysgol Bangor, gallwn eich cysylltu’n uniongyrchol ag arbenigedd ymchwil Prifysgol Bangor. Os ydych chi’n bwriadu cyflogi, gallwn helpu i’ch cysylltu chi â graddedigion sydd â’r sgiliau cywir. Rydym hefyd yn cynnig cymorth menter i fyfyrwyr y Brifysgol, ac yn sicrhau bod ein tenantiaid yn elwa o hyn.
Bydd pob tenant yn elwa o’r gwasanaeth hwn, yn ogystal â’r rhai ar y Rhith Denant +.
Fel rydym wedi dweud, ni wnaiff M-SParc adael i’w tenantiaid “fod ar eu pen eu hunain”, mae’r un peth yn wir am fasnacheiddio Eiddo Deallusol a syniadau newydd. Mae ein tîm yn gweithio’n agos gyda’n tenantiaid, ein hecosystem a chymuned fusnes Gogledd Cymru i gefnogi prosiectau masnacheiddio a chefnogi materion Eiddo Deallusol.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.