Uchafbwyntiau Cynhadledd Cyllid ac Arloesi M-SParc 2025

Ddydd Mercher 18 Mehefin, daeth entrepreneuriaid, cyllidwyr, cynghorwyr, a bobl sy'n sbarduno newid ynghyd ar gyfer un o brif ddigwyddiadau blynyddol M-SParc; y Gynhadledd Cyllid ac Arloesi. Canolbwyntiodd y diwrnod ar gyngor ymarferol, straeon gonest, a sgyrsiau ystyrlon, gyda'r thema sylfaenol o dyfu busnesau a llunio dyfodol economaidd Gogledd Cymru.

Un uchafbwynt mawr oedd lansio ein dau grant busnes newydd ar gyfer cwmnïau ar Ynys Môn:

  • Grant Egni, i gefnogi datgarboneiddio a helpu busnesau i gyrraedd eu targedau sero net;
  • Grant Digidol, i helpu busnesau i fabwysiadu arloesedd digidol.

Ynghyd â’n grant Lefel Nesaf sydd ar ar y gweill, mae’r rhain yn cynrychioli dros £110,000 mewn cyllid newydd ar gyfer busnesau sydd wedi’u lleoli yn Ynys Môn. Dim ond un rhan yw hon o’n hymrwymiad hirdymor i helpu busnesau lleol i arloesi, tyfu a chael gwared ar y rhwystrau a all arafu syniadau da.

Fe wnaethon ni hefyd gyhoeddi lansio’r Academi Sgiliau. Os ydych chi’n edrych i gyflogi a mentora aelod o’r Academi, gallai eich busnes elwa o weithiwr newydd a fydd yn cael ei dalu’n llawn gan M-SParc am 6 mis. I gofrestru eich diddordeb, llenwch ein ffurflen yma.

Siaradwyr Cynhadledd Cyllid ac Arloesi

Agorodd y diwrnod gyda chroeso gan aelod o’n bwrdd, Nia Roberts, a osododd y naws drwy danlinellu pwysigrwydd diogelu a masnacheiddio syniadau newydd. Yna ymunodd yr awdur a’r darlledwraig Barbara Want â ni, a arweiniodd sesiwn ar Bŵer Cyfathrebu a chadeirio panel sylfaenwyr cyntaf y diwrnod — sgwrs a oedd yn onest, yn egnïol, ac yn llawn pethau defnyddiol i’w cofio.

Clywsom gan Anna Roberts (SelfStorageBooker.com), Catrin Owen (Tropic), Leah Watkins (Dolen HR), ac Andrea Knox (Knox Commercial & Insolvency Solicitors), a rannodd yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu o sefydlu, tyfu ac addasu eu busnesau. Fel y dywedodd Andrea, “Rydyn ni i gyd yn sylfaenwyr. Dydyn ni ddim eisiau cael ein hadnabod fel sylfaenwyr benywaidd.”

Yn ogystal â bod yn siaradwyr gwych sy’n arbenigwyr yn eu maes, roedd pawb a gyfrannodd at y digwyddiad yn uniaethu fel benywod. Trefnwyd hyn ar bwrpas er mwyn sbarduno sgwrs. ​​Rydym i gyd wedi mynychu digwyddiadau lle mae’r siaradwyr i gyd yn ddynion, yn enwedig yn y sectorau busnes a chyllid, felly roeddem am droi’r naratif. Wrth gwrs, dylai ein holl ddigwyddiadau gynnwys siaradwyr amrywiol sy’n adlewyrchu’n wirioneddol yr ystod eang o bobl sy’n gweithio ym maes arloesi, ac mae hyn yn rhywbeth da ni wastad yn gweithio arno, ond nid oes unrhyw niwed mewn gwthio’r ffin yma yn fwriadol i ddechrau sgwrs bwysig.

Lois Bevan Shaw, Rheolwr Cefnogaeth Busnes, M-SParc

Drwy gydol y dydd, roedd paneli a sesiynau’n mynd i’r afael â chwestiynau mawr ac yn rhannu cefnogaeth ymarferol. Edrychon ni ar yr hyn sydd ar gael i fusnesau newydd yng Ngogledd Cymru drwy sefydliadau fel Syniadau Mawr Cymru, Busnes Cymru, Innovate UK, tîm Arloesi Llywodraeth Cymru, a’r Hwb Menter. Archwilion ni arloesi mewn iechyd a gofal, sut i bontio’r bwlch sgiliau rhanbarthol, a phŵer cysylltu’r byd academaidd â diwydiant.

Rhoddodd sgyrsiau taith sylfaenwyr gan Lucy Bulley ac Olaitan Olawande ddau safbwynt gwahanol iawn ond yr un mor ysbrydoledig inni ar lywio twf, heriau a chyfleoedd mewn busnes.

Roedd yr awyrgylch drwyddo draw yn anffurfiol ond yn fywiog – gyda diodydd moctels â thema M-SParc wedi’u darparu gan The Baa Baa Bar o Borthmadog, lluniau proffil proffesiynol am ddim wedi’u tynnu gan Nia Jones o M-SParc, ac amser i gysylltu dros ginio a barbeciw yn yr haul ar noswyl gynnar haf.

Un peth na aeth heb sylw gan y gynulleidfa oedd demograffeg y siaradwyr ar y diwrnod, a oedd i gyd yn ferched.

Gyda dros 20 o fenywod yn arwain prifareithiau, paneli a thrafodaethau drwy gydol y dydd, roedd y cydbwysedd rhywedd yn groes i’r gylchdaith gynadleddau nodweddiadol lle mae dynion yn dominyddu. Nid ‘digwyddiad i fenywod’ oedd hwn – roedd yn ddigwyddiad a luniwyd gan y lleisiau gorau oedd ar gael: sylfaenwyr, ariannwyr, arloeswyr ac arbenigwyr polisi. Roedd y rhestr o siaradwyr, wrth ei chynllun, yn adlewyrchiad o’r menywod eithriadol sy’n arwain yn eu meysydd. Fel y nododd un o’r rhai a fynychodd, gallai’r tebygolrwydd ystadegol o gynhadledd o’r raddfa hon sy’n cynnwys rhestr siaradwyr benywaidd yn unig fod yn y degau o filiynau – hyd yn oed yn fwy felly wrth ystyried hynafedd ac arbenigedd y rhai sy’n cymryd rhan. Ond fel y dywedodd Emily Roberts, Rheolwr Allgymorth a Chymuned M-SParc: “Prin y byddai’n rhyfeddol pe bai pob siaradwr yma heddiw yn ddynion – felly pam y dylai fod pan maen nhw i gyd yn ferched?”

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.