Dathlu Llwyddiant yn y Wales StartUp Awards 2025

Roedd y Wales StartUp Awards 2025 neithiwr ym Mae Caerdydd yn foment o falchder enfawr i ni yn M-SParc. Gyda wyth o'n cwmnïau ecosystem wedi cyrraedd y rhestr fer ar draws amrywiaeth o gategorïau, roedd yn wych gweld cymaint ohonynt yn cael eu cydnabod ar lwyfan cenedlaethol.

Daeth chwech o’r busnesau hynny i ffwrdd gyda buddugoliaethau yn eu categorïau:

Mae pob un o’r cwmnïau hyn yn cynrychioli’r uchelgais, yr arloesedd a’r gwydnwch a welwn bob dydd ar draws ein cymuned. Mae eu llwyddiant yn adlewyrchiad o’r gwaith caled a wnaethant, a dan ni’n falch o fod wedi bod yn rhan o’u taith.

Er na enillodd Pwlltec a 42able eu categorïau y tro hwn, mae cyrraedd y rhestr fer mewn sectorau cystadleuol fel CleanTech ac AI yn gamp enfawr ynddo’i hun. Dan ni’n gwybod yr effaith mae’r cwmnïau yma yn ei chael, a dan ni’n gyffrous i barhau i gefnogi eu cynnydd.

Mae’r busnesau hyn yn dyst i’r ecosystem ffyniannus ac arloesol dan ni wedi’i hadeiladu yma yn M-SParc. Ein cenhadaeth erioed fu cefnogi twf syniadau trawsnewidiol , ac mae gweld nhw’n neud eu marc yn y Wales StartUp Awards yn atgyfnerthu effaith y gwaith dan ni’n ei wneud. Dan ni’n falch i feithrin y fwrlwm o dalent yng Ngogledd Cymru, a dan ni’n edrych ymlaen i barhau i gynnig arweiniad a chefnogaeth.

Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc

Cyn y gwobrau, cynhaliwyd noson gymysgydd yn The Botanist yng Nghaerdydd, gan ddod â’n hecosystem yng Ngogledd Cymru ynghyd am noson o rwydweithio, sgwrsio a chysylltu. Roedd yn gyfle i fyfyrio ar yr hyn yr ydym wedi’i adeiladu gyda’n gilydd ac edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod nesaf.

Rydym wrth ein bodd yn gweld amrywiaeth mor amrywiol o fusnesau yn gwneud tonnau yn eu sectorau priodol. Roedd llawer o enwebeion ddoe yn rhan o garfan rhaglen gyflymydd Lefel Nesaf llynedd, ac maent wedi elwa o’n grantiau a’n cefnogaeth, ac mae’n wych gweld ffrwyth eu llafur yn cael ei wobrwyo ar lwyfan cenedlaethol. Os hoffech chi fod yn stori lwyddiant nesaf i ni, cysylltwch!

Lois Bevan Shaw, Rheolwr Cymorth Busnes M-SParc

Dangosodd y Wales StartUp Awards unwaith eto fod dyfodol arloesi yng Nghymru yn ddisglair, a bod Gogledd Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn ei lunio. Dan ni’n falch o bob busnes a gymerodd ran, a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu i dyfu.

Mae gan M-SParc nifer o raglenni a chyfleoedd grant newydd yn lansio dros yr haf, gan gynnwys lansio ein cyflymydd Lefel Nesaf 2025 ym mis Gorffennaf; am ragor o wybodaeth ac i fod yn rhan o’n mudiad; cysylltwch â Lois.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.