Digidol 24 - Dathlu Digidol yng Nghymru

Author picture

Cafwyd ddigwyddiad Digidol 24 yng Ngogledd Cymru ei gynllunio gyda’r nod clir o ddathlu, trafod, a datblygu rhwydweithiau newydd yn y maes arloesi digidol, ac roedd yn llwyddiant ysgubol.

Dydd Mercher (23/10), cynhaliwyd Digidol 24, ein cynhadledd arloesedd digidol cyntaf erioed yma yn M-SParc. Dangoswyd yr arloesedd gwych sy’n cael ei greu yn ecosystem ddigidol Gogledd Cymru, gyda digon o gynnwys i lenwi cynhadledd o ddeuddydd. Mae M-SParc, fel lleoliad y digwyddiad, yn gweithredu fel safle pwysig sy’n cydgysylltu diwydiant, y byd academaidd, y llywodraeth, sgiliau, cyllid a’r gymuned, gyda’r dathliad hwn o arloesedd digidol yn cynnig llwyfan i’r partneriaid hyn gydweithio dan yr un tô, yn ogystal â thrin a thrafod datblygiadau newydd.

Cawsom anerchiad Gweinidogol gan Rebecca Evans, Gweinidog yr Economi, Ynni a Chynllunio, gan gynnig cyd-destun ar gyfer y diwrnod gan gyfeirio at Strategaeth Ddigidol Cymru. Dilynwyd hyn gan gyflwyniad gan Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol Cymru, a drafododd y chwe maes gwaith yn y strategaeth ddigidol. Cyfeiriodd at y cynnydd a wnaed, ac yn benodol at y heriau sy’n ymwneud ag AI, gan bwysleisio bod angen cydnabod yr heriau moesegol ac amgylcheddol y mae AI yn eu cyflwyno wrth i Lywodraeth Cymru edrych ar ffyrdd o fabwysiadu a manteisio arno.

Roeddem wedi partneru efo Technology Connect ar gyfer y digwyddiad, a phwysleisiodd Avril Lewis MBE, eu Cyfarwyddwraig, bwysigrwydd digwyddiadau fel Digidol 24 er mwyn datblygu cyfleoedd cydweithredol newydd. Nodwyd bod cyfleoedd sylweddol i gryfhau’r berthynas gyda Technology Connected yn y dyfodol. 

Cawsom rai o’r sgyrsiau gorau gan rai o’r siaradwyr gorau y byddwch yn eu gweld dros un diwrnod, byrddau crwn a phaneli anhygoel, arloesedd ar draws pob maes a busnesau gwych yn cael eu harddangos. Roedd yn anrhydedd anhygoel cael helpu i gynnal y gynhadledd ddigidol orau yng Nghymru eleni, hyd yn oed os ydw i’n dweud hynny fy hun!

Tom Burke, Rheolwr Arloesedd Digidol, M-SParc

Ar ôl yr anerchiadau, cafwyd sesiwn gyda’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ddigidol yng Nghymru, dan arweiniad Rhun ap Iorwerth, a drafododd bwysigrwydd data agored a rennir rhwng sefydliadau’r llywodraeth er mwyn rhannu arferion da rhwng y sector cyhoeddus ledled Cymru. Richard Scott tynnodd sylw at bwysigrwydd cydweithio rhwng Awdurdodau Lleol, gan bwysleisio bod datblygu prosiectau digidol yn gofyn am rannu gwybodaeth i osgoi dyblygu ymdrechion a sicrhau gwelliant parhaus. 

Un o’r materion a drafodwyd yn y grŵp oedd y bwlch rhwng y rhywiau yn y sector technoleg, gyda ffigurau yn dangos bod bylchau cyflog rhwng dynion a menywod yn parhau. Hyrwyddodd Emily Roberts, Rheolwr Ymgysyllu ac Allgymorth M-SParc, bwysigrwydd addysg, sgiliau, a modelau rôl i annog mwy o fenywod i yrfaoedd STEM. 

Anhygoel gweld cymaint o arbenigwyr ac arloeswyr yn y maes digidol yn dod at ei gilydd ar Ynys Môn i drafod dyfodol y diwydiant, a sut y gallwn dynnu ar y sgiliau a’r adnoddau sydd gennym yma yng ngogledd Cymru.

Rhun ap Iorwerth

Roedd y sesiynau yn cynnwys gweithdy ar farchnata a chyfryngau cymdeithasol, a gynhaliwyd gan Huw Marshall ac Euros Smith o Busnes Cymru, gan ganolbwyntio ar y dulliau gorau o addasu cynnwys ar gyfer y platfformau cywir. Roedd Euros yn pwysleisio’r angen i deilwra cynnwys ar gyfer y gynulleidfa darged er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf. 

Arweiniwyd trafodaeth ddiddorol ar rôl technoleg IoT, Deuolion Digidol (Digital Twins) a datgarboneiddio, gyda chyfranogiad arbenigwyr fel Kiki Rees-Stavros (Smart Towns, Menter Môn) a Peter Gwyn Williams o Lywodraeth Cymru. Rhannodd y panel enghreifftiau o sut y gall ymyriadau syml arwain at arbedion sylweddol i’r sector cyhoeddus, megis drwy osod dyfeisiau i fonitro lefelau sŵn a oedd hefyd yn datgelu defnydd anghywir o adnoddau cyhoeddus. 

Roedd Technoleg Iaith hefyd yn destun poblogaidd yn y digwyddiad, gyda nifer o brosiectau wedi eu nodi sy’n canolbwyntio ar gasglu a dadansoddi data iaith. Cyflwynwyd prosiectau gan yr Uned Technoleg Iaith ac Arfor, gyda’r tîm yn pwysleisio bod angen mynediad helaethach at ddata er mwyn cynnal ymchwil ac arloesi yn y maes. 

Roedd Llion Jones, sy’n adnabyddus am ei waith ar y papur “Transformer,” yn cynnig sesiwn ysbrydoledig ar ddatblygiadau AI. Roedd y sesiwn hon yn un o uchafbwyntiau’r diwrnod gan fod Llion yn chwildroadwr byd-eang! Fe ddoth â mewnwelediadau o’r theori sy’n sail i lawer o ddatblygiadau AI cyfredol.  

Yr uchelgais oedd dathlu, dadlau, trafod, adeiladu rhwydweithiau newydd, ac addysgu ym maes Arloesi Digidol yma yng Ngogledd Cymru ac fe wnaethom gyflawni rhywbeth eithaf M-awr! Roeddwn yn arbennig o falch o gael rhoi llwyfan ar yr arloesedd rhagorol y mae ein ecosystem ddigidol yng Ngogledd Cymru yn ei gyflawni a dylem gymryd hyder o’r ffaith bod gennym gymaint o gynnwys y dylai hon fod wedi bod yn gynhadledd ddeuddydd!

Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr, 

Yn ogystal, trafododd FSB Wales (Federation of Small Businesses) botensial y sector creadigol yng Nghymru, gan amlygu cyfleoedd sylweddol i gryfhau sgiliau a sicrhau cyllid ar gyfer busnesau bach. Lansiwyd adroddiad sy’n cynnig ystyriaethau ar gyfer datblygiad pellach y sector, gyda Klaire Tanner yn galw am fwy o ddigwyddiadau tebyg i Digidol 24 er mwyn cefnogi’r sector.

Yn y sector gwyddorau bywyd a gofal cymdeithasol, daeth y drafodaeth i’r casgliad bod angen dull cydweithredol er mwyn symud ymlaen gyda rhaglenni arloesi, gyda chynigion i lansio dull newydd o arloesi ym maes gofal iechyd yng Ngogledd Cymru yn y chwarter nesaf, mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yn ystod y diwrnod, trefnwyd gweithgareddau creadigol i bobl ifanc, gyda sesiynau Clwb Sbarci dan arweiniad Sefydliad Raspberry Pi. Roedd y plant yn cael cyfle i ddatblygu gemau eu hunain gan ddefnyddio Scratch, gan ddangos dull ymarferol i’w cyflwyno i dechnoleg o oedran ifanc.

Daeth Digidol 24 i ben gyda digwyddiad rhwydweithio dan ofal Technoleg Gogledd Cymru, gyda phobl yn dod at ei gilydd i drafod technolegau digidol newydd o Ogledd Cymru. Roedd awyrgylch positif ac ysbrydoledig yn parhau drwy’r digwyddiad cyfan, ac roedd y timau trefnu’n cael eu canmol am eu gwaith. Wrth edrych ymlaen at ddigwyddiadau yn y dyfodol, mae Digidol 24 wedi gosod sylfaen gref ar gyfer dathlu a hyrwyddo technoleg yng Nghymru, gyda’r tîm yn M-SParc, dan arweiniad Tom Burke, yn addo parhau i gefnogi a datblygu’r sector ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Agenda

Partneriaid

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.