Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn cael mynediad at arbenigwyr arloesi a fydd yn cynnig cyngor ar sut i fwrw ymlaen â datrysiadau arfaethedig, yn ogystal â chael y cyfle i sicrhau hyd at £20,000 o gyllid o gronfa prosiect arloesi Llywodraeth Cymru o hyd at £250,000.
Bydd Hac Gofal Cymdeithasol Cymru yn ysgogi ac yn cefnogi arloesedd i greu systemau, prosesau, arferion a dulliau sy’n addas ar gyfer y dyfodol gyda chymorth technoleg. Mae’n cynnig cyfle gwych i staff Gofal Cymdeithasol, prifysgolion, a diwydiant i gydweithio a rhwydweithio i ddatblygu syniadau cyfnod cynnar a allai ddatrys heriau gofal cymdeithasol gweithredol a gynigir gan ymarferwyr a gweithwyr gofal go iawn.
Rydym yn chwilio am heriau gan gydweithwyr sy’n gweithio yn y sector sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â rhai o’r prif faterion sydd wedi wynebu Gofal Cymdeithasol dros y blynyddoedd, gan gynnwys dementia, byw’n annibynnol, darparu gofal a meysydd allweddol eraill.