Ddydd Mawrth y 23ain, cynhaliodd Fforwm Niwclear Cymru eu digwyddiad – Datgomisiynu a Thu Hwnt: Cyfleoedd cadwyn gyflenwi o fewn y sector niwclear a charbon isel ehangach yn Neuadd Reichell Prifysgol Bangor.
Mynychwyd y digwyddiad gan dros 60 o aelodau o bob rhan o’r sector niwclear yng Nghymru; gan gynnwys Debbie, Ffion a Molly o’n tîm Egni, a helpodd i drefnu’r digwyddiad!
Roedd yn wych helpu i drefnu digwyddiad WNF Datgomisiynu a Thu Hwnt: Cyfleoedd cadwyn gyflenwi o fewn y sector niwclear a charbon isel ehangach. Mae cymaint o gyfleoedd yng ngogledd Cymru ac mae’n gyffrous iawn bod ar flaen y gad yn y sectorau hyn. Wnes i yn enwedig mwynhau cael cyflwyniadau bachog i rai o’r cwmnïau a fynychodd y digwyddiadau, mae cymaint o ehangder a dyfnder yn y gadwyn gyflenwi yma, ac dwi’n gyffrous i weld sut mae’n datblygu.
Dr Debbie Jones, Rheolwr Arloesi Carbon Isel, M-SParc
Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau am gyfleoedd i’r gadwyn gyflenwi o ran datgomisiynu. Yn ôl cyflwyniad gan yr NRS (Gwasanaethau Adfer Niwclear), bydd angen dros 500 o rolau newydd i gefnogi’r rhaglen safle ar safle Trawsfynydd yn unig; bydd dros 350 o’r rhain yn dod o’r gadwyn gyflenwi.
Roedd cyflwyniadau cyfleoedd cadwyn gyflenwi eraill yn y sector carbon isel ar ynni gwynt ar y môr a llanw, gyda sgiliau trosglwyddadwy ar draws pob un ohonynt. Yn ogystal â chyflwyniadau ar amrywiaeth eang o gyfleoedd, roedd hefyd yn gyfle rhwydweithio gwych.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.