Codi’ch hyder yn y Gymraeg, ar y wê!

Ymunwch â’n gofod Cymraeg ar-lein newydd! Os ydych chi’n ddysgwr neu’n ddihyder, dyma’r lle perffaith i ymarfer. Teipiwch eich sgwrs, ffoniwch aelodau eraill y grŵp, dysgwch gan diwtoriaid a chyfieithwyr Cymraeg proffesiynol, a chewch glywed gan enwogion sydd wedi adeiladu gyrfa drwy’r Gymraeg!

Pob Dydd Gwener am 12:30 bydd person adnabyddus gwahanol yn trafod yr iaith ac yn ateb eich cwestiynau, yn fyw ar Discord.

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.