Sgiliau, Cymorth a Dyfodol Disglair: Diwrnod Cylch Cyflawn yn M-SParc!

Author picture
Ddydd Mercher (3/12/2025), cynhaliodd M-SParc ddiwrnod llawn wedi'i neilltuo i sgiliau; gan gefnogi busnesau lleol yn y bore a chroesawu pobl ifanc a theuluoedd i'n Ffair Sgiliau a Gyrfaoedd GOFOD gyntaf yn y prynhawn. I rannu'r diwrnod o'i safbwynt hi, mae'r Rheolwr Ymgysylltu a Sgiliau Emily Roberts yn myfyrio ar yr uchafbwyntiau isod.

Rhan 1: Sgwrs ar Sgiliau – Dod â’r Rhanbarth at ei Gilydd

Dechreuodd ddoe gyda digwyddiad bywiog, wrth i ni groesawu darparwyr sgiliau a busnesau o bob cwr o’r rhanbarth ar gyfer ein digwyddiad “Sgwrs ar Sgiliau – Gogledd Orllewin”. Yn cyd-drefnu’r bore oedd Ceri Lewis-Pierce (Busnes Cymru), ochr yn ochr â Sian Lloyd Roberts a Catherine Morris-Roberts (Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol), a cefais fy atgoffa pam mae cydweithio mor bwysig. Da ni’n cyflawni mwy, yn gyflymach, a, i fod yn onest – mae hi hefyd yn lot mwy o hwyl. Does dim byd tebyg i gael pawb mewn un stafell a chofio’r nod cyffredin sydd gennym ni i gyd: sicrhau bod ein gweithlu’n parhau i ffynnu.

Roedd ganddom dros 20 o ddarparwyr lleol wrth law i helpu busnesau bach a chanolig (a’i gilydd) i ddeall y gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Fel y pwysleisiodd David Roberts, Cadeirydd y PSR, yn y drafodaeth, mae ‘na lawer iawn o ddarpariaeth hyfforddi ac uwchsgilio yng Ngogledd Cymru, ein her “yn syml” yw sicrhau bod busnesau’n gwybod ble i ddod o hyd iddi. Roedd digwyddiad ddoe yn un cam tuag at hynny, gan arbed amser i fusnesau a rhoi llwybrau clir iddynt at gefnogaeth sgiliau bersonol.

Oni’n hynod falch hefyd o wylio Owain Stringer yn cyflwyno. Roedd Owain yn rhan o Academi Sgiliau M-SParc bron i dair blynedd yn ôl, ac roedd ei weld bellach yn creu gyrfa wych fel prentis gradd peirianneg feddalwedd gyda CapVentis – un o’n cwmnïau tenant – yn teimlo fel foment cylch cyflawn. Yn enwedig gan fod ein carfan ddiweddaraf o’r Academi Sgiliau, rhai ohonynt yn y gynulleidfa ar gyfer y digwyddiad, yn cael eu sesiwn hyfforddi cyflwyno eu hunain ddydd Gwener yma! (Peidiwch â phoeni gang, fel dywedodd Owain, fe helpodd o i ennill yr hyder i gyflwyno mewn digwyddiadau fel un ni!)

Owain Stringer

Diolch yn fawr iawn i’n holl siaradwyr, gan gynnwys Robbie Carney o Bartons Group, Lauren Bate o Brifysgol Bangor, a phawb a gyfrannodd at fore mor egnïol.

Ar yr un pryd â’r digwyddiad, oni’n gwybod bod ein tîm Sgil Sparc allan yn cyflwyno ein Sioe Wyddoniaeth Fawr i ysgol gynradd leol, i flynyddoedd 1-6 gael eu diddanu wrth iddyn nhw ddysgu am ‘Tonnau’! Mae’n wych gwybod ein bod ni’n rhan o’r holl biblinell Sgiliau, o’r rhai sydd newydd ddechrau ar eu taith addysgol, i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.

Rhan 2: Ffair Sgiliau a Gyrfaoedd GOFOD – Ysbrydoli Talent y Dyfodol

Ar ôl seibiant byr (a wedi fy heipio fyny ar donuts siwgr diolch i anrheg Nadolig denant hyfryd), fe wnaethon ni newid gêr a chroesawu pobl ifanc a’u teuluoedd i’r adeilad ar gyfer ein Ffair Sgiliau a Gyrfaoedd GOFOD; unwaith eto, rhan o’n gwaith allgymorth Sgil Sparc. Gan mai dyma’r ddigwyddiad cyntaf o’i fath, rhaid i mi gyfaddef oni’n bryderus. A fyddai pobl yn dod? A fyddai’r cwmnïau’n ei fwynhau? Be os ‘di bob dim yn mynd yn rong? Doedd dim angen i mi boeni! Daeth dros 100 o bobl drwy’r drysau. Roedd yr awyrgylch rhwng 4 a 6pm yn anhygoel: dysgwyr chwilfrydig yn archwilio’r gofod, rhieni’n gofyn cwestiynau gwych, a chyflogwyr yn dod â’u bydoedd yn fyw gydag arddangosiadau, dyfeisiau, a sgyrsiau ymarferol.

Kiri a Sabrina

Da ni’n gwybod y gall meddwl am yrfaoedd deimlo’n llethol, felly roedd creu amgylchedd hamddenol, cefnogol, galw heibio yn bwysig. Gofynnwyd i bob stondinwr ddod â ‘stwff’ gyda nhw, pethau a gweithgareddau y gallai pobl ifanc ymgysylltu â nhw a gofyn amdanynt. Roedd ein staff wrth law i arwain unrhyw un oedd angen help i gysylltu â chyflogwyr, a defnyddiwyd ein cornel dawel yn dda drwy gydol y digwyddiad. Dyma’n union beth yw GOFOD; cwrdd â phobl ifanc lle maen nhw, a rhoi hyder iddyn nhw archwilio eu dyfodol.

Roedd ein sgyrsiau fflach yn uchafbwynt go iawn, gyda Paul Kinlan o Google, Kiri Pritchard-McLean, Hannah Garratt o Airbus, a’r meteorolegydd Sabrina Lee yn rhannu straeon gonest am eu teithiau. Ymunodd arddangoswyr gwych â ni hefyd gan gynnwys Tenet Consultants, Aerialworx, Dewis Architecture, ARIA Studios, Supertemps, Ysgol Feddygol Gogledd Cymru Prifysgol Bangor, a llawer mwy. Diolch i chi gyd am roi eich amser a’ch arbenigedd.

Purple Quotation Mark 66

Roedd yn wych siarad â'r genhedlaeth nesaf anhygoel o ddatblygwyr, crewyr a dyfeiswyr a gweld y fath ddiddordeb brwd yn eu dyfodol, a faint roedd eu teuluoedd yn eu cefnogi.

Paul Kinlan

Arweinydd, Cysylltiadau Datblygwyr Google Chrome

Purple Quotation Mark 99
Paul Kinlan
Purple Quotation Mark 66

Yn Stiwdios Ffilm Aria a RONDO, credwn fod dyfodol ein straeon yn nwylo’r genhedlaeth nesaf. Ein hymrwymiad yw agor drysau, tanio creadigrwydd, a chynnig cyfleoedd go iawn i dalent ifanc ffynnu yn y byd ffilm a theledu. Braf oedd cael bod yn rhan o ddigwyddiad mor ysbrydoledig i bobl ifanc a’r ddechrau ei siwrne yrfaol.

Iddon Jones

Studio Executive, Aria Film Studios

Purple Quotation Mark 99
Purple Quotation Mark 66

Yr hyn a geisiais ei bwysleisio oedd sgiliau datrys problemau, iddyn nhw beidio ag ofni archwilio a gofyn cwestiynau, a dod o hyd i brofiad gwaith. Mae yna lawer o lwybrau i yrfa STEM: Coleg, 6ed dosbarth, Prifysgol, Prentisiaethau, Cadetiaethau Alltraeth. Mae angen i chi fynd allan a chwilio amdanyn nhw!

Thomas Hughes

Peiriannydd Dylunio Prosiect, Hydrowing

Purple Quotation Mark 99

Roedd gweld cymaint o bobl ifanc yn cysylltu, yn gofyn cwestiynau, ac yn mwynhau archwilio eu hopsiynau o ddifrif yn ffordd berffaith o orffen y diwrnod. Mae dyfodol y rhanbarth yn ddisglair, ac mae dyddiau fel ddoe yn profi hynny. Mae’n fraint wirioneddol bod yn rhan ohono.

Dilynwch Sgil Sparc ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn gweld y digwyddiadau a newyddion diweddaraf.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.