M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Diwrnod Llawn Egni

Charlie Jones

Cawsom y pleser o groesawu dros gant o berchnogion busnesau lleol i’n Expo Argyfwng Costau Busnes, a gynhaliwyd yma yn M-SParc ar ddechrau mis Chwefror.

Fe wnaethom groesawu 15 o arddangoswyr lleol o bob rhan o’r sectorau ynni ac adnewyddadwy, gyda chwmnïau’n amrywio o ran arbenigedd gan gynnwys cyllid gwyrdd, gosodwyr ynni adnewyddadwy, ymgynghorwyr, tai, meddalwedd, a chrefftau.

Rydym yn ymwybodol iawn o’r pwysau cynyddol a brofwyd gan berchnogion busnes ar draws gogledd Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gyda phrisiau ynni yn achosi pryderon ac anhawster mawr, a llawer o’r busnesau hefyd yn gweithio i dorri allyriadau carbon.

Gallai gosod technoleg ynni adnewyddadwy, gyda’r gosodwyr cywir, ariannu, ymgynghori, a rheoli data, liniaru’n sylweddol y pwysau presennol a’r pwysau sydd ar ddod i fusnesau lleol.

Yn M-SParc, rydym yn gwybod yn uniongyrchol y gall buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy leihau costau, lleihau allyriadau, a chynyddu diogelwch ynni mewn marchnad ynni gynyddol gyfnewidiol.

Rydym felly’n awyddus i fusnesau lleol siarad â chynrychiolwyr ar draws y diwydiant gwyrdd, i ddysgu mwy am ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd, ac opsiynau ariannu. Yn ogystal, roeddem yn awyddus i’r cynrychiolwyr hynny hanu o’r un ardal leol, gan brofi nad oes angen i ni fynd ymhellach i fynd yn wyrdd neu gyrraedd Net Zero!

Roedd yn wych gweld y gofod ‘tanio’ M-SParc yn fwrlwm, gyda chysylltiadau’n cael eu creu, cardiau busnes yn cael eu cyfnewid, a syniadau’n cael eu rhannu! Yn union ar gyfer beth y crëwyd y gofod!

Yn syth ar ôl yr expo, fe wnaethom hefyd gynnal digwyddiad Cymru’n Gweithio ‘Gyrfaoedd Gwyrdd i Bawb’. Roedd yn hyfryd gweld llawer o’r busnesau yn aros o gwmpas i drafod y dyfodol gyda channoedd o fyfyrwyr a phlant ysgol o bob rhan o Ogledd Cymru. Pwy a wyr faint ohonyn nhw fydd yn mynd ymlaen i fod yr Elon Musk Cymraeg nesaf, neu osodwr PV lleol!

Yma yn M-SParc, mae gennym ni dîm ‘Egni’ (Ynni) mewnol. Ein hunig bwrpas yw tanio uchelgais yn yr ardal ar gyfer datblygu ynni carbon isel. Un o egwyddorion allweddol y genhadaeth hon yw ymgysylltu â busnesau lleol a chynorthwyo mewn unrhyw ffordd y gallwn. Byddwn yn cynnal digwyddiadau rheolaidd ar gyfer busnesau a myfyrwyr, i arddangos y cyfleoedd anhygoel sy’n dod i’r amlwg ledled Gogledd Cymru o ran technolegau ynni adnewyddadwy a charbon isel! Rydyn ni nawr yn y broses o gynllunio ein cynhadledd y flwyddyn Egni 2023! Bydd hyn ar yr 16eg o Fai. Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad yma!

Newyddion Perthnasol