Mae’r rownd ariannu yn cynnwys £245,000 gan chwech angel, buddsoddi dan arweiniad Bobby Williams o Rwydwaith Angel M-SParc, a oedd hefyd yn cynnwys £25,000 gan fuddsoddwr sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd, OnePlanet Capital. Mae’r buddsoddiad yma wedi derbyn nawdd cyfatebol o £245,000 gan Gronfa Cydfuddsoddi Banc Datblygu Cymru.
Bydd y buddsoddiad ecwiti yn helpu’r busnes i gryfhau ei dîm dros y chwe mis nesaf, gyda phedair swydd newydd yn cael eu creu, ac yn cynyddu ei allu i ddarparu ei dechnoleg ar raddfa wrth i brosiectau ynni adnewyddadwy ar y môr ac arnofiol ehangu.
Wedi’i leoli yma gyda ni ym M-SParc, mae Ecodetect wedi datblygu pecyn offer canfod ecolegol sy’n cyfuno deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol gyda rhaglenni arbenigol i adnabod a chofnodi bywyd gwyllt â seilwaith morol gan ddefnyddio data a gasglwyd gan synwyryddion delweddu tanddwr. Y prif gwsmeriaid yw datblygwyr ynni adnewyddadwy, sydd angen monitro ac adrodd ar effeithiau amgylcheddol fel rhan o ofynion trwyddedu a chydymffurfio prosiectau.
Bydd y buddsoddiad diweddaraf yn galluogi’r cwmni i ehangu ochr yn ochr â’r farchnad ynni adnewyddadwy, lle mae datblygwyr yn symud o nifer fach o dyrbinau i osod ar raddfa fwy sy’n cynhyrchu llawer iawn mwy o ddata monitro amgylcheddol. Bydd yr ariannu hefyd yn cefnogi datblygiad pellach y dechnoleg, gan gynnwys systemau cyfathrebu morol a gynlluniwyd i wella’r ffordd y mae data yn cael ei drosglwyddo, ei brosesu a’i ddadansoddi
Wedi’i sefydlu ac yn cael ei arwain gan y rheolwr gyfarwyddwr, Dr David Gold, mae Ecodetect yn dod â thri maes arbenigedd allweddol ynghyd: ynni ar y môr ac adnewyddadwy, bywyd gwyllt morol, a thechnoleg gan gynnwys DA(AI).
Mae gan Dr Gold gefndir yn y sector ynni ac mae wedi adeiladu’r busnes o amgylch y nod o helpu datblygwyr ynni adnewyddadwy i fodloni gofynion amgylcheddol yn fwy effeithlon wrth gefnogi cadwraeth forol. Mae’r tîm ehangach yn cyfuno gallu technegol, gwyddonol a masnachol, gyda’r busnes eisoes wedi’i gydnabod am arloesedd eco-dechnoleg yn y DU ac Ewrop.
Mae’r cwmni’n targedu twf mewn gwynt ar y môr, gwynt arnofiol ac ynni llanw, gan gynnwys cyfleoedd sy’n dod i’r amlwg mewn dyfroedd Cymru. Mae hefyd yn gweld cymwysiadau ehangach ar gyfer ei dechnoleg monitro morol ar draws sectorau eraill gan gynnwys dyframaeth, pysgota a seilwaith morol ehangach.
“Mae’r buddsoddiad hwn yn rhoi’r platfform i ni dyfu’r tîm, cryfhau ein technoleg a sicrhau ein bod yn barod i gefnogi’r ehangiad cyflym mewn ynni adnewyddadwy ar y môr ac arnofiol. Mae momentwm enfawr yn adeiladu yn y sector ac mae angen clir am atebion monitro cadarn y gellir eu graddio sy’n gallu cadw i fyny â’r twf hwnnw.
“Rydym yn falch o fod yn adeiladu’r busnes hwn yng Ngogledd Cymru. Rydym am greu swyddi lleol o ansawdd uchel, cyfrannu at yr economi werdd a datblygu technoleg yma yng Nghymru y gellir ei defnyddio’n rhyngwladol.”
Dr David Gold, sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr Ecodetect:
“Mae Ecodetect yn gweithredu ar groestoriad AI, gwyddor y môr ac ynni adnewyddadwy ar yr union adeg gywir. Mae’r busnes wedi datblygu datrysiad argyhoeddiadol i her wirioneddol ac sy’n tyfu i ddatblygwyr ar y môr, ac mae David wedi adeiladu cwmni gyda sylfeini technegol cryf a pherthnasedd clir i’r farchnad.
“Rwy’n falch o ymuno â’r bwrdd a chefnogi cam nesaf twf y cwmni wrth iddo ehangu ei allu a chryfhau ei bresenoldeb mewn sector sydd â photensial hirdymor sylweddol.”
Bobby Williams, y buddsoddwr arweiniol o Rwydwaith Angel M-SParc
“Mae llwyddiant Ecodetect yn adlewyrchu cryfder yr ecosystem arloesi rydym yn parhau i’w hadeiladu ym M-SParc. O gefnogaeth gynnar i fuddsoddiad, ehangu a chyfleoedd byd-eang, mae hwn yn enghraifft wych o sut y gall busnesau uchelgeisiol dyfu yma yn y rhanbarth. Mae’n arbennig o galonogol gweld cysylltiadau drwy ein rhwydwaith ehangach, gan gynnwys buddsoddwyr angel, yn chwarae rhan yn y daith hon. Cefnogi cwmnïau fel Ecodetect i dyfu a chreu swyddi lleol gwerth uchel yw’n union beth rydym yma i’w wneud.”
Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc
“Mae Ecodetect yn enghraifft gref o’r math o fusnes arloesol yng Nghymru sy’n denu buddsoddiad gan fuddsoddwyr angel, ac y mae’r Gronfa Cydfuddsoddi Angel Cymru wedi’i chynllunio i’w chefnogi. Mae’r cwmni’n datblygu technoleg arbenigol mewn sector sydd â galw byd-eang clir, tra hefyd yn creu swyddi medrus ac yn cyfrannu at dwf economi werdd Cymru.
“Mae’r buddsoddiad hwn hefyd yn dangos gwerth dod â buddsoddwyr angel profiadol a chyfalaf cyhoeddus ynghyd i helpu busnesau uchelgeisiol i adeiladu’r gallu sydd ei angen arnynt i ehangu.”
Tom Preene, Rheolwr Cronfa Cronfa Cydfuddsoddi Angel Cymru
Disgwylir i’r rolau newydd gael eu creu dros y chwe mis nesaf, gyda’r busnes yn edrych i recriwtio o’r ardal leol lle bynnag y bo’n bosibl wrth iddo adeiladu ei allu mewn monitro morol, AI ac ynni adnewyddadwy ar y môr.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi cwmnïau arloesol â photensial twf uchel o Gymru, cofrestrwch i fod yn rhan o Angel M-SParc ar www.m-sparc.com/angel.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.