Search
Close this search box.
M-SParc mobile logo
Search
Close this search box.
Gyrfaoedd

Egni 2024: M-SParc yn cynnal cynhadledd i fynd i'r afael â heriau Net Zero

Bu 5ed Cynhadledd Egni flynyddol M-SParc yn ymdrin â pholisïau allweddol sy’n effeithio ar daith y wlad tuag at sero net. Gyda’r etholiad cyffredinol wedi’i gyhoeddi’r wythnos hon, roedd yr amseriad yn berffaith ac yn rhoi cyfle i’r gynulleidfa herio’r rhai sy’n llunio polisïau a phenderfyniadau i gyflymu’r cynnydd tuag at ddyfodol cynaliadwy.

Roedd y gynhadledd yn cynnwys lleisiau o gefndiroedd amrywiol yn y sector ynni, o niwclear i llanw, yn ogystal â lefelau wahanol o lywodraeth, gan gynnwys David TC Davies; Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jeremy Miles; Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni, a’r Gymraeg, a Rhun ap Iorwerth; Arweinydd Plaid Cymru.

Dechreuodd Nyah Lowe, Llywydd Undeb Bangor, gyda rhai ystadegau oedd yn agoriad llygaid! Rhannodd darlun o’r anawsterau y mae myfyrwyr yn eu hwynebu wrth fyw’n gynaliadwy: mae 59% yn teimlo’n anghyfforddus o oer mewn rhentu preifat, mae 54% yn adrodd am broblemau lleithder a llwydni, ac mae 1 o bob 10 yn cael eu gorfodi i ddefnyddio banciau bwyd. Roedd ei neges yn glir: 

Mae gwahaniaeth enfawr o ran cynaliadwyedd rhwng y sefyllfa bresennol a lle rydym am fod.

Nyah Lowe, Undeb Bangor

Bu i thim Rheolwr Arloesi Carbon Isel M-SParc, Dr. Debbie Jones, yn arwain ar gynllunio’r gynhadledd, a siaradodd Debbie ar waith M-SParc yn y sector carbon isel, gan ganolbwyntio ar niwclear, llanw, gwynt, solar, hydrogen a datgarboneiddio yn y rhanbarth. Gyda 52 o gwmnïau tenantiaid a 28 o gwmnïau tenantiaid rhithwir, a 78% ohonynt yn gweithio yn y sector carbon isel, siaradodd Dr Debbie am gynlluniau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys yr ail adeilad arfaethedig ar Safle’r Parc Gwyddoniaeth.

Braf oedd cynnal cynhadledd Egni wych arall yma yn M-SParc. Mae’n bwysig iawn herio’n gilydd, y rhai sy’n gwneud polisïau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyrraedd Net Zero, ac edrychwn ymlaen at barhau â’r gwaith da yma yn nhîm Egni dros y misoedd nesaf!

Dr. Debbie Jones, Rheolwr Arloesi Carbon Isel, M-SParc

Dr. Debbie Jones, Dr. Peter Robins and Dr. Simon C. Middleburgh

Siaradodd Dr. Simon C. Middleburgh o Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor am yr angen am gydweithio, gan bwysleisio pa mor hanfodol ydio o bod busnesau yn y rhanbarth yn noddi myfyrwyr peirianneg. Ymunodd Dr. Debbie a Dr. Peter Robins o Ysgol Gwyddorau Eigion y brifysgol â Dr. Middlesburgh i drafod potensial ynni adnewyddadwy Gogledd Cymru.

Pwysleisiodd Jeremy Miles yr angen i Gymru ddysgu o arferion gorau rhyngwladol.

Mae maint yr ymdrech yn frawychus, ac mae newid hinsawdd yn effeithio ar bob rhan o fywyd. Po bellaf yr awn, anoddaf fydd y penderfyniadau i lunwyr polisi.

Jeremy Miles, Llywodraeth Cymru

Cynigiodd David TC Davies, ar y llaw arall, safbwynt mwy calonogol. Mewn datganiad a baratowyd, soniodd am gyfleoedd fel Atomfa’r Wylfa a thynnodd sylw at gwrs peirianneg newydd Prifysgol Bangor a fydd yn helpu i gau’r bwlch sgiliau. Roedd cyfle am gwestiynau a datganiadau o’r llawr, pan heriodd Dr Mary Gillie o Ynni Lleol ddibyniaeth y llywodraeth ar nwy, sy’n gyrru’r argyfwng ynni gwaethaf yn hanes diweddar.

Daeth Ffion Medi Jones, ein Swyddog STEM a Sgiliau, â lleisiau’r genhedlaeth iau i’r amlwg. Rhannodd wybodaeth gan ddisgyblion ar draws Ynys Môn a Gwynedd, gyda llawer ohonynt yn bryderus am ddyfodol eu cartrefi oherwydd materion fel codiad yn lefel y môr. Roedd eu neges i lunwyr polisi yn deimladwy ond yn glir: rhaid gwneud mwy i amddiffyn eu dyfodol.

Cymerodd Rhun ap Iorwerth, Arweinydd Plaid Cymru, safiad myfyriol, gan annog Llywodraeth y DU i drosoli ei phwer ar gyfer newid blaengar. Er gwaethaf beirniadu’r cynnydd araf, fe ysbrydolodd obaith trwy ein hatgoffa ni i gyd o botensial Cymru.

Mae ganddom ni yma yng Nghymru y potensial, a dyna’r prif beth wrth symud ymlaen.

Rhun ap Iorwerth, Plaid Cymru

Daeth y gynhadledd i ben gyda thrafodaeth banel dan arweiniad y digrifwr o Ynys Môn Kiri Pritchard-McLean, a oedd yn cynnwys Gwen Parry-Jones, Prif Weithredwr Interim Great British Nuclear, Grant Peisley, Cyfarwyddwr Ynni Cymru, a Heledd Cressey, Pennaeth Polisi Ynni Adnewyddadwy Llywodraeth Cymru. Roedd y neges yn glir; mae gennym yr adnoddau yng Nghymru i fod yn gynaliadwy, ond ein rhwystrau mwyaf yw’r grid, gweithlu medrus, ac amser. Gyda’r byd ar fin croesi trothwy terfyn codiad tymheredd byd-eang o 1.5 °C*, rydym mewn argyfwng hinsawdd; dylai cyrraedd Sero Net fod yn flaenoriaeth i ni er mwyn sicrhau dyfodol y blaned, ond mae hefyd yn cael effaith economaidd. Bydd cyrraedd Sero Net yn mynd ymhell i helpu cymunedau yng Nghymru i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw hefyd, gan arwain at ddyfodol gwirioneddol gynaliadwy

*wedi ei osod gan Cytundeb Paris (2016)

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.