EIN CYFRIFIANNELL ÔL-TROED CARBON

egni.ai

Dallt Eich Ôl-troed Carbon

Mae egni.ai yn helpu eich busnes i gymryd y cam cyntaf ar ei daith i Sero Net.

‘Dan ni’n gwybod, gall ôl-troed carbon gymryd amser, mae’n gymhleth ac yn aml yn anodd gwybod ble i ddechrau.
Cwblhewch ein holiadur cam wrth gam hawdd a byddwch yn derbyn adroddiad ôl troed carbon personol gydag argymhellion clir ac ymarferol i helpu i leihau eich allyriadau. Nid cyfrifiannell carbon arall yw hon, mae wedi’i phersonoli.

Pam bod egni.ai yn wahanol?

Gall adrodd ar garbon gymryd llwyth o amser a dyna pam mae egni.ai yn gwneud y gwaith caled i chi. Mae’n dileu’r broses cyfrifo â llaw, gan arbed amser gwerthfawr i chi wrth droi eich gwybodaeth yn fewnwelediadau ystyrlon.

‘Dan ni yma i helpu. Unwaith bydd eich adroddiad yn barod, byddwn ni ar gael i’ch tywys trwy’r camau nesaf, gan gynnig cefnogaeth ac atebion go iawn i’ch helpu i leihau eich effaith carbon fel busnes.

Cyn i chi ddechrau

‘Dan ni angen manylion, felly gwnewch baned i chi’ch hun a casglwch eich manylion.

  • Trosiant blynyddol
  • Oriau cyfartalog y mae staff yn gweithio o gartref (yr wythnos)
  • Defnydd blynyddol (cost neu swm) – dŵr, trydan, nwy, olew, biomas
  • Arhosiadau blynyddol mewn gwesty
  • Teithiau busnes blynyddol – teithiau awyren (pellter byr a hir), trên, a teithio ar y môr
  • Pellter a dull teithio staff
  • Gwybodaeth rhannu ceir
  • Cerbydau busnes a manylion
  • Gwariant cyfartalog ar nwyddau a deunyddiau
  • Gwastraff blynyddol (biniau neu dunelli) – papur a chardbord, plastig, gwydr, gwastraff trydanol, gweddilliol, bwyd, gardd ac adeiladu (pwysau)

Cymorth Ychwanegol

Os hoffech gael dadansoddiad mwy manwl o ôl troed carbon eich sefydliad, cysylltwch â Thîm Egni yn egni@m-sparc.com i gael cyngor, arweiniad a chymorth wedi’u teilwra wrth gymryd eich camau nesaf tuag at sero net.

 diddordeb mewn dod yn Garbon Lythrennog? Cysylltwch â Rhodri yn rhodrid@m-sparc.com i gymryd rhan yn ein cwrs hyfforddi Llythrennedd Carbon a byddwch yn dysgu am egwyddorion gwyddor hinsawdd, canlyniadau newid hinsawdd, a chymryd camau pendant i leihau eich ôl troed carbon.

Hoffi be ‘da chi’n weld? Cysylltwch os oes gennych chi ddiddordeb yn ein Model Egni AI neu eich bod yn awyddus i drafod partneriaethau.

Ymwadiad

Bwriedir i’r ffigurau a’r argymhellion yn yr adroddiad hwn fod yn ganllaw cychwynnol i helpu i nodi meysydd i’w gwella. Gall allyriadau gwirioneddol amrywio yn dibynnu ar ffactorau ychwanegol ac ansawdd neu gyflawnrwydd y data a ddarperir.

Y Buzz Diweddaraf

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.