Gwaith yn dechrau ar ail adeilad M-SParc i sbarduno twf arloesedd yng Ngogledd Cymru

Mae gwaith wedi dechrau'n swyddogol ar yr ail adeilad ym Mharc Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor, M-SParc, gan nodi carreg filltir bwysig i economi arloesi sy'n tyfu yng Ngogledd Cymru.

Daeth partneriaid y prosiect ynghyd heddiw i nodi dechrau’r gwaith adeiladu ar ddatblygiad newydd Egni yn ffurfiol, a fydd yn ehangu gallu’r parc i gefnogi busnesau, ymchwilwyr ac arloeswyr sy’n gweithio ar draws ynni carbon isel a thechnolegau uwch.

Disgwylir i’r adeilad newydd, sy’n cael ei gyflwyno gan Wynne Construction, gael ei gwblhau erbyn haf 2027. Bydd yn darparu swyddfa, labordy a gweithdy o ansawdd uchel, ochr yn ochr â chyfleusterau pwrpasol ar gyfer cydweithio, datblygu sgiliau ac ymgysylltu cymunedol. Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys neuadd arloesi a chanolfan dadansoddi deunyddiau bwrpasol, gan ehangu gallu M-SParc i gefnogi cwmnïau sy’n gweithredu yn y sector ynni carbon isel yn sylweddol.

Ch i Dd: Pryderi ap Rhisiart, Chris Drew (Prifysgol Bangor), Yr Athro Simon Middlesburgh (Prifysgol Bangor), Yr Athro Edmund Burke, Dr Debbie Jones (M-SParc), Janet Owen Jones (Llywodraeth Cymru), Yr Athro Paul Spencer (Prifysgol Bangor), Alwen Williams (Uchelgais Gogledd Cymru), Graham Dixon (Wynne Construction), Simon Morton (Wynne Construction), Dylan J. Williams (Cyngor Sir Ynys Môn)

Elfen allweddol o’r datblygiad yw ehangu gallu ymchwil carbon isel Prifysgol Bangor, gan gynnwys gwaith y Sefydliad Dyfodol Niwclear (NFI), gan helpu i greu cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant.

Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan £3.94m o Cynllun Twf Gogledd Cymru, a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â £2.5m pellach gan Lywodraeth Cymru, £3m gan Borthladd Rhydd Ynys Môn a £580,000 gan Brifysgol Bangor. Caiff Cynllun Twf Gogledd Cymru ei chyflawni gan Uchelgais Gogledd Cymru, mae’n fuddsoddiad o £1 biliwn i’r rhanbarth, y mae £240 miliwn ohono wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Dywedodd yr Athro Edmund Burke, Is-Ganghellor:

Mae dechrau adeiladu’r ail adeilad hwn yn M-SParc yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn ein huchelgeisiau ar gyfer arloesi a thwf economaidd yng Ngogledd Cymru. Bydd yr ehangu hwn yn cryfhau ein gallu ymchwil ac arloesi mewn technolegau carbon isel ac uwch, gan adeiladu ar gryfderau fel y Sefydliad Dyfodol Niwclear a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth rhaglen Porthladd Rhydd Ynys Môn, Llywodraeth Cymru ac Uchelgais Gogledd Cymru wrth helpu i wireddu’r weledigaeth hon.

Mae M-SParc eisoes wedi sefydlu ei hun fel canolfan ar gyfer arloesi mewn ynni carbon isel a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg. Mae datblygiad Egni yn adeiladu ar ecosystem arloesi sefydledig y parc a chysylltiadau ymchwil cryf, gan greu amgylchedd integredig lle gall arbenigedd academaidd a phartneriaid diwydiant weithio ochr yn ochr i gyflymu cymwysiadau byd go iawn a denu buddsoddiad pellach.

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc:

Mae heddiw yn nodi cam enfawr ymlaen i M-SParc ac i’r rhanbarth ehangach. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi adeiladu sylfaen anhygoel yma, gan greu swyddi o ansawdd uchel, cefnogi busnesau i dyfu, meithrin sgiliau a helpu pobl i adeiladu gyrfaoedd cyffrous yng Ngogledd Cymru. Mae’r ehangu hwn yn arwydd o bennod newydd gyffrous a fydd yn cryfhau ein hecosystem ac yn creu hyd yn oed mwy o gyfleoedd ar draws y rhanbarth.

Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Aelod Arweiniol y Rhaglen Ynni Carbon Isel, Uchelgais Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Ynys Môn:

Rydym wrth ein bodd yn gweld gwaith yn dechrau ar adeiladu Egni. Mae’r datblygiad yn brosiect arwyddocaol o fewn rhaglen Ynni Carbon Isel ein Cynllun Twf, sy’n datgloi manteision datblygu prosiectau ynni carbon isel yn y rhanbarth, gan osod Ynys Môn a Gogledd Cymru fel lleoliad blaenllaw ar gyfer y sector ynni carbon isel.

Mae M-SParc wedi’i leoli o fewn Safle Treth Canol Ynys Môn Porthladd Rhydd Ynys Môn, gan wneud Egni y prosiect cyfalaf cyntaf i’w gyflawni trwy raglen Porthladd Rhydd Ynys Môn.

Dywedodd Cadeirydd Cwmni Porthladd Rhydd Ynys Môn, Dylan J. Williams:

Mae dechrau adeiladu adeilad Egni yn M-SParc yn nodi carreg filltir bwysig i raglen Porthladd Rhydd Ynys Môn ac i uchelgeisiau carbon isel y rhanbarth.
Mae’r datblygiad hwn yn enghraifft o sut y gall statws Porthladd Rhydd gyflymu buddsoddiad, arloesedd a sgiliau, gan greu’r amodau i fusnesau ffynnu.
Drwy gefnogi prosiectau fel hyn, rydym yn gobeithio helpu i adeiladu clwstwr sy’n gystadleuol yn fyd-eang ar gyfer ynni glân a thechnolegau uwch, gan ddarparu twf economaidd hirdymor a swyddi o ansawdd uchel i Ynys Môn a Gogledd Cymru.

Elfen allweddol o’r datblygiad yw ehangu gallu ymchwil carbon isel Prifysgol Bangor, gan gynnwys gwaith y Sefydliad Dyfodol Niwclear (NFI). Bydd y buddsoddiad yn cefnogi trawsnewidiad y rhanbarth i ddyfodol carbon isel trwy greu swyddi o ansawdd uchel, datblygu sgiliau a galluogi busnesau i ehangu.

Dywedodd y Gweinidog Menter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:

Mae’r Llywodraeth newydd hon wedi ymrwymo i adeiladu busnesau cryfach yng Nghymru, harneisio ynni fel mantais gystadleuol, a chysylltu pobl a chyfleoedd.
Mae ehangu M-SParc yn nodi cam mawr ymlaen ar gyfer arloesedd carbon isel yng Nghymru. Bydd Egni yn sbarduno twf economaidd, yn creu swyddi medrus, ac yn gosod Ynys Môn a Gogledd-orllewin Cymru fel arweinwyr yn y trawsnewidiad i economi carbon isel.
Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i sbarduno ffyniant hirdymor i’r rhanbarth a thu hwnt.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Anna McMorrin:

Mae Llywodraeth y DU yn falch o gefnogi Gogledd Cymru fel arweinydd yn yr economi arloesi, gan gynnwys drwy Cynllun Twf Gogledd Cymru a Phorthladd Rhydd Ynys Môn, y rhagwelir y byddant yn creu miloedd o swyddi.
Datblygiad Egni yw’r cam nesaf wrth hyrwyddo sectorau technoleg uwch carbon isel y rhanbarth, a bydd yn darparu manteision economaidd i bobl ledled Gogledd Cymru drwy greu swyddi medrus iawn a chyflog da ar gyfer y dyfodol a hybu’r economi ranbarthol.

Gyda’r adeilad presennol bron â bod yn llawn, mae datblygiad Egni yn cynrychioli’r cam mawr nesaf yn nhwf M-SParc a’i gyfraniad at economi Gogledd Cymru.

Mae safle Porthladd Rhydd M-SParc bellach yn barod ar gyfer y cam nesaf o ddatblygu, ac rydym yn annog busnesau a buddsoddwyr sydd am dyfu yng Ngogledd Cymru i gysylltu â ni.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.