M-SParc mobile logo
Gyrfaoedd

Dyma M-SParc

Ein amcanion

Yn tanio uchelgais ac arloesedd ar gyfer Cymru gynaliadwy

Mae gennym ni i gyd syniadau gwych. Ond faint sy’n dod yn fyw?

Gadewch inni eich ysbrydoli

Mae troi syniadau yn fentrau llwyddiannus yn gofyn am rywbeth, a rhywle, ychwanegol. Rhywle i danio uchelgais, rhywbeth i sbarduno dyfodol gwell. Mae busnesau sydd wedi’u hadeiladu o syniadau gwych sydd ar flaen y gad ym myd gwyddoniaeth angen gwybodaeth arbenigol, sgil, cefnogaeth, anogaeth a buddsoddiad i lwyddo.

Dyma lle gall M-SParc helpu; drwy ddarparu amgylchedd gwaith egnïol, cymorth busnes pwrpasol a chyfleusterau heb eu hail.

Bydd y gofod cywir, wedi'i deilwra i bob cwmni, yn annog busnesau i dyfu

Mae M-SParc wedi’i sefydlu i ddarparu amrywiaeth o fanteision a buddion i fusnesau sy’n seiliedig ar wybodaeth.

Rydym yn deall yr angen i greu amgylchedd a fydd nid yn unig yn darparu cyfleoedd swyddi cynaliadwy ond â chyflogau da. Oherwydd natur y cwmnïau a’r busnesau ar y safle a’r ffocws ar wyddoniaeth sy’n seiliedig ar wybodaeth, bydd M-SParc yn cynnig swyddi lefel uchel ac o ansawdd uchel, gan ganiatáu i’n cleientiaid fanteisio ar y cyflenwad helaeth o weithwyr addysgedig a medrus iawn yn y rhanbarth hwn.

Ein Sparc, Eich dychymyg

Y cymysgedd perffaith i ryddhau’ch potensial llawn.

Mae M-SParc yn llawer mwy na chyfle busnes gwych; mae’n darparu rhywbeth ychwanegol ac yn gartref i gwmnïau a all ddarparu swyddi lefel uchel wrth iddynt dyfu.

Rydym yn barod i danio peiriant pwerus o gyfleoedd yng Ngogledd Orllewin Cymru. Ydych chi?

Olwen, llun proffil

Eisiau dod yn denant?

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw