Cymerwch droad i’r chwith ar ben y slipffordd, ac fe welwch ni ar y dde yn syth wedyn. Ar gyfer SatNav, defnyddiwch y cod post LL60 6AR, a chadwch lygad am ein tro wrth i chi gyrraedd pen eich taith.
Mae M-SParc hefyd yn hawdd ei gyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae gennym ni nifer o fannau gwefru ceir trydan ar y safle hefyd, a llochesi beiciau petaech yn dymuno cymudo yma ar ddwy olwyn!
Yn M-SParc, rydym am i staff ac ymwelwyr ystyried teithio atom gan ddefnyddio modd cynaliadwy. Mae hyn oherwydd ein bod yn Barc gwyddoniaeth carbon isel, ond hefyd oherwydd y manteision y mae rhai dewisiadau eraill, megis beicio a cherdded, yn eu darparu i iechyd a lles cyffredinol. Anogir teithiau aml-fodd, fel cyfuno teithio ar drên â rhannu car neu fws, hefyd. Os nad oes gennych eich cerbyd eich hun, mae yna lawer o ffyrdd effro i gyrraedd M-SParc. Os oes gennych eich cerbyd eich hun, rydym yn eich annog i feddwl am helpu eraill i ddefnyddio Lift Shares os byddwch yn teimlo ei bod yn ddiogel i chi wneud hynny.
Trafeilio ar y Bws
Mae amserlenni bysiau lleol ar gael ar-lein. Mae Gaerwen wedi’i chysylltu drwy’r prif lwybr bysiau (X4-4A).
Gallwch ddal y 0803 a 1655 o Fangor sy’n dod â chi’n syth i M-SParc, neu’r 0720 a 1615 o Gaergybi.
Yr orsaf drenau agosaf yw Llanfairpwll, 3.5 milltir i’r dwyrain.
Trafeilio ar feic
Mae standiau beiciau gwarchod ar gael ar y safle, yn ogystal â chawodydd ac ystafelloedd sychu. Mae dau lwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol gerllaw hefyd. Llwybr 8, 1.5 milltir i’r dwyrain, a Llwybr 566 i’r gorllewin.
Cerbydau trydan
Mae gennym ni bwyntiau ‘Shell Recharch’ (oedd yn arfer bod yn New Motion) ar y safle. Details regarding use of the charge points are provided by Shell and can be found here. You can also find information on charge points in the area, here.
Hygyrchedd
Mae’r safle yn hygyrch i’r rhai sydd â symudedd cyfyngedig. Darperir lle parcio hygyrch. Nid oes grisiau i’r adeilad, gyda’r tir yn wastad, ac opsiynau drws hygyrch. Mae’r cyfleusterau cyhoeddus i gyd wedi’u lleoli ar y llawr gwaelod. Gellir cyrraedd ystafelloedd cyfarfod a swyddfeydd trwy lifftiau.
Gellir gwneud Cerdded a Beicio yn haws drwy ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael gan Sustrans.
Gellir cynllunio teithiau Trafnidiaeth Gyhoeddus gan ddefnyddio Traveline Cymru, gan gynnwys cynlluniwr taith ac Ap gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth gyhoeddus.
Ar gyfer amwynderau, mae pentref Gaerwen yn union i’r gorllewin o M-SParc, a gellir ei gyrraedd trwy fynedfa i gerddwyr a beicwyr.
Dyma ein Rheolwr Gweithrediadau yn dangos yr olygfa wrth iddi feicio o M-SParc i Brifysgol Bangor mewn 18 munud:
Rydym yn fwy nag ond un adeilad yng Ngaerwen. Rydym wedi mynd â M-SParc ar y lôn ar draws Conwy a Gwynedd i ddod â’n gweithgareddau a’n cefnogaeth i chi. Darganfod mwy am #ArYLôn.
O gwestiynau syml i ymholiadau cymhleth, rydym yn hapus i sgwrsio am yr hyn sydd ei angen arnoch.
Galwch ni ar 01248 858000 neu e-bostiwch yn uniongyrchol.