Mae M-SParc wedi ei leoli yn Gaerwen ar Ynys Môn, Gogledd Cymru. Taith 8 munud mewn car neu daith feic 20 munud o Brifysgol Bangor . Mae’r safle yn agos at fwynderau pentref, yr A55, a gorsafoedd trenau.
Rydym wedi ein lleoli oddi ar gyffordd 7 yr A55. Cymerwch droad i’r chwith ar ben y slipffordd, ac fe welwch ni ar y dde yn syth wedyn. Ar gyfer SatNav, defnyddiwch y cod post LL60 6AR , a chadwch lygad am ein tro wrth i chi gyrraedd pen eich taith.
Gall M-SParc ddarparu lle i fusnesau o bob maint, o fusnesau newydd i gwmnïau corfforaethol mawr. Mae popeth sydd ei angen ar fusnes, o gyfleusterau rhagorol a gwasanaethau cymorth busnes pwrpasol, i swyddfeydd a labordai hyblyg, ar gael ar y safle.
Dyma ardal Tanio, y brif fynedfa wrth i chi gerdded i mewn, a lle mae ein caffi. Gellir defnyddio’r gofod ar gyfer digwyddiadau, ac mae’n lle gwych i eistedd gyda choffi a gwneud rhywfaint o waith, neu ar gyfer cyfarfodydd anffurfiol.
O gwestiynau syml i ymholiadau cymhleth, rydym yn hapus i sgwrsio am yr hyn sydd ei angen arnoch.
Ffoniwch ni ar 01248 858000 neu cysylltwch â ni .