Fel Prifysgol arweiniol gydag enw da yn rhyngwladol am addysgu ac ymchwil yn ogystal ag ymrwymiad cryf i les economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru, mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yng ngwreiddiau M-SParc.
Gan adeiladu cymuned fyd-eang i’r Cymry a chyfeillion Cymru, mae GlobalWelsh eisiau creu cymuned o gysylltiadau ystyrlon, manteisio ar adnoddau a rennir, cyflwyno pobl o’r un meddwl ac helpu buddsoddiad a chyfleoedd busnes i ffynnu. Rhywle lle gall hyd yn oed y syniadau lleiaf newid bywyd.
Dros gyfnod o 25 mlynedd a mwy, mae Menter Môn wedi cydweithio â busnesau, cymunedau, y sector gyhoeddus ac unigolion er mwyn cyflawni prosiectau ystyrlon ac arloesol.
Credwn y gall pob sefydliad newid er gwell. Rydyn ni’n gweld enghreifftiau o hyn bob dydd ac yn gwneud hyn yn realiti i’n cleientiaid ar draws sawl sector. Dyma pam rydyn ni’n credu mewn newid.
Mae’r Hwb Menter, partneriaeth rhwng Menter Mon a M-SParc, yma i’ch helpu chi i gychwyn eich busnes. Rydym yn creu cymuned, gallwn ddarparu lle i chi weithio ohono, a gallwn roi cefnogaeth, i unrhyw fusnes mewn unrhyw sector. Sut allwn ni eich helpu chi?
Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru gan Lywodraeth Cymru i gefnogi economi Cymru trwy ei gwneud hi’n haws i fusnesau gael y cyllid sydd ei angen i ddechrau, cryfhau a thyfu.
Mae’r tîm y tu ôl i AMRC Cymru yn bartneriaeth bwerus rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, asiantaethau twf a menter a chanolfan ymchwil a datblygu sy’n arwain y byd mewn gweithgynhyrchu uwch.
Ar draws chwe safle yng Ngogledd Cymru, mae Coleg Cambria yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau amser llawn a rhan amser gan gynnwys Lefel A, TGAU, cyrsiau ymarferol, Cymraeg i Oedolion a mwy!
Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor. Y dewis ehangaf o gyrsiau Llawn Amser, Rhan-Amser, Prentisiaethau a Gradd yng Ngogledd Cymru.
O gwestiynau syml i ymholiadau cymhleth, rydym yn hapus i sgwrsio am yr hyn sydd ei angen arnoch.
tom@m-sparc.com
Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.
Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.