Rydym yn ymrwymedig i ddod â’n harbenigedd, cyfleusterau a phobl i mewn er budd y rhanbarth. Mae ein perfformiad academaidd cryf yn caniatáu i ni weithio nid yn unig gyda’n myfyrwyr, ond hefyd gydag unigolion, sefydliadau a busnesau lleol i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau.
Gan ddenu myfyrwyr a staff o bob rhan o’r byd, rydym yn cynnig cronfa helaeth o brofiad a chapasiti o’n campws amrywiol iawn ym Mangor yn ogystal â thrwy ein cydweithrediad helaeth â phrifysgolion rhyngwladol.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o sefydliadau, busnesau a grwpiau cymunedol ac mae gennym gyfleuster gwych arall ar gyfer myfyrwyr, staff, busnesau a’r gymuned ehangach yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio Prifysgol Bangor yng nghanol dinas Bangor.
Trwy ein hymchwil, rydym yn cael effaith fawr ledled y byd yn ôl yr asesiad cenedlaethol annibynnol o ansawdd ymchwil. Mewn gwirionedd, mae mwy na thri chwarter o ymchwil Bangor naill ai y gorau byd-eang neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Mae ein Hastudiaethau Achos Effaith Ymchwil yn dangos rhai enghreifftiau ychwanegol o’r ymchwil ansawdd uchel hwn.
O’r cyfraniad mawr a wnawn i warchod yr amgylchedd, dwyieithrwydd, a gwella iechyd a lles mae’n amlwg bod yr ymchwil a wneir gan academyddion Bangor yn cael effaith economaidd fawr yn ogystal â dod â buddion sylweddol i fywydau pobl ledled y byd.
Mae’r rhain yn ganlyniadau hynod drawiadol i ni fel sefydliad, ac rydym yn benderfynol o weithio gyda busnesau i rannu’r wybodaeth a’r arbenigedd hwn ac i greu cyfoeth a chyfleoedd i bobl yng ngogledd Cymru a thu hwnt.
Mae tudalennau gwe “Gweithio gyda Busnes” y Brifysgol yn amlygu sut y gallwn helpu trwy ddarparu:
I weld rhaglenni a mentrau cyfredol, ac i gael manylion cyswllt staff allweddol a all helpu gyda phob un o’r uchod, ewch i Working With Business.
Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc.
Yn M-SParc , rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor ar eu hymgyrch ‘25 wrth 25’. Nod y prosiect yw lleihau allyriadau CO2 25% erbyn y flwyddyn 2025. Bydd gosod targedau a phwyntiau llwybr ar ein taith tuag at Sero Net yn rhan hanfodol o’r her, gan y gellir cyflawni tasg sy’n ymddangos yn amhosibl trwy greu camau ar hyd y ffordd. Mae’r prosiect hwn hefyd yn cynyddu’r gwaith sydd ei angen i ni gyfrifo ‘gwaelodlin’ y byddwn yn ei leihau 25%. Drwy ymchwilio i’n hallyriadau presennol, byddwn yn cael mewnwelediad pwysig i’n gweithgareddau presennol, gan roi trosolwg cyfannol o ble y gallem wneud yn well.
Wrth galon y prosiect 25 wrth 25, mae syniadau newydd. Byddwn yn gweithio’n agos nid yn unig gyda’n cydweithwyr ym Mhrifysgol Bangor, ond yn hollbwysig byddwn yn gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr – y dyfodol! Gwahoddwyd myfyrwyr i gyflwyno syniadau a mentrau ar sut y gallai’r Brifysgol leihau ei hallyriadau CO2e. Cawsom dros 40 o gynigion gan fyfyrwyr a staff a aseswyd gan banel o gynrychiolwyr ar draws y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw syniadau gwych am sut i leihau allyriadau, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect, cysylltwch â Rhodri ar y tîm Carbon Isel!
Darpar Fyfyrwyr!
Mae M-SParc yn cynnig 3 fwrsariaeth i gefnogi myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn gradd Peirianneg Prifysgol Bangor . Y cod UCAS i’r cyrsiau yw: MEng H608 BEng H607 BEng + Foundation Year,
Mi da ni’n rhoi ffocws ar Siaradwyr Cymraeg a merched, dau grŵp rydym yn dymuno canolbwyntio arnynt oherwydd bwlch penodol yr ydym ‘wedi nodi ar y Parc ac yn y rhanbarth.
Byddwn yn ariannu 3 o bobl sy’n bodloni’r meini prawf canlynol gyda bwrsari o £3,000 yr un:
Fel sefydliad sy’n ymroddedig i gefnogi twf yr economi leol, rydym yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi yn nyfodol ein cymuned. Credwn, trwy gynnig bwrsariaethau i fyfyrwyr benywaidd a siaradwyr Cymraeg ac o’r ardal leol, y gallwn helpu i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth menywod ym maes peirianneg a chefnogi datblygiad gweithlu amrywiol a dawnus.
I fyfyrwyr lleol Cymraeg eu hiaith, rydym yn ymwybodol bod teimlad ‘nad oes dim yn digwydd yn y gogledd’ ac y bydd yn rhaid i chi symud i ffwrdd i ddod o hyd i gyfle yma. Gwyddom nad yw hyn yn wir ac felly rydym am roi’r dewis i chi aros yn eich ardal leol i astudio, a dod o hyd i leoliadau diwydiant.
Ar gyfer myfyrwyr benywaidd, rydym yn ymwybodol mai dim ond tua 28% o weithwyr STEM sy’n fenywod, a gwyddom fod cyfle cyfartal i fenywod mewn STEM yn helpu i gau’r bwlch cyflog, cynyddu sicrwydd economaidd i fenywod, a chreu gweithlu amrywiol, gyda llai o duedd yn eu hymchwil, cynhyrchion a gwasanaethau. Modelau rôl yw un o’r unig bethau y profwyd eu bod yn annog merched a menywod i aros yn y sector STEM ac felly yn ogystal â’r fwrsariaeth hon, byddwn yn sicrhau eich bod yn cael mentor benywaidd neu fodel rôl sydd naill ai ar eich cwrs hefyd, neu yn gysylltiedig â’r adran, a phwy fydd yn eich cefnogi tra byddwch yn eich blwyddyn gyntaf.
Rydym yn annog pob myfyriwr cymwys i wneud cais am y fwrsariaeth hon a manteisio ar y cyfle hwn i ddilyn eu hangerdd am beirianneg ym Mhrifysgol Bangor.
*Sylwch, os ydych yn anneuaidd ond yn AFAB, yna eich penderfyniad chi yw a ydych am wneud cais am y fwrsariaeth i fenywod, a byddwn yn croesawu eich cais.
O gwestiynau syml i ymholiadau cymhleth, rydym yn hapus i sgwrsio am yr hyn sydd ei angen arnoch.
Ffoniwch ni ar 01248 858000 neu cysylltwch â ni .