Cyntaf Hanesyddol: Cystadleuaeth Echwaraeon Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Author picture

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn ddathliad o ddiwylliant, iaith a threftadaeth Cymru erioed, ond welodd eleni’n ychwanegiad arloesol i’r ŵyl: y gystadleuaeth Echwaraeon Gymraeg gyntaf erioed. Yn cael ei adnabod fel yr Esteddfod, cynlluniwyd y digwyddiad arloesol hwn i hybu’r defnydd o’r Gymraeg mewn arena newydd a chyffrous, gan ddod â thro modern i ddathliad traddodiadol.

Bu digwyddiad hanesyddol yn yr Eisteddfod ddydd Mercher, ar ffurf cystadleuaeth Echwaraeon fyw a chwaraewyd yn gyfan gwbl yn Gymraeg. Daeth 16 tîm o chwaraewyr, rhwng 8 a 30 oed, benben wrth iddynt chwarae Rocket League ac EA FC24 o flaen cynulleidfa.  Roedd y gwobrau’n cynnwys £1,000, citiau pêl-droed, tocynnau i Gymru yn erbyn Twrci, a thlws coron yr Eisteddfod!  Y flwyddyn ar ôl i Echwaraeon ddod yn ddigwyddiad Olympaidd, roedd y tîm y tu ôl i’r digwyddiad hwn yn teimlo ei bod yn hanfodol dangos bod gofod i’r Gymraeg o fewn sector a welodd gynulleidfa fyd-eang o bron i 500,000,000 yn 2023.

Eglurodd Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, Pryderi ap Rhisiart,“Rydym yn frwd dros gefnogi pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg mewn bywyd bob dydd, ac mae’n wych cyfuno hyn â diwydiant fel hapchwarae, sy’n ffynnu ar hyn o bryd. Roedd y rownd derfynol yn benllanw misoedd o waith, digwyddiadau rhanbarthol ar draws Cymru, a chydweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru, S4C, a’r Eisteddfod eu hunain. Roedd gweld cynulleidfa o Gymry Cymraeg yn bloeddio wrth i dîm o chwaraewyr Cymraeg chwarae ar lwyfan, tra bod sylwebwyr gan gynnwys y pêl-droediwr Kath Morgan yn rhoi sylwebaeth yn Gymraeg, yn drydanol.   Mae’r Gymraeg yn perthyn i hapchwarae, ac Echwaraeon yn perthyn i’r Eisteddfod!”

Roedd y dysgwr Cymraeg a’r arwr pêl-droed, Joe Ledley, yn bresennol yn y digwyddiad i godi calon y timau a siarad â rhai o’r cystadleuwyr, a chafodd y digwyddiad cyfan ei ffrydio’n fyw ar sianel Hansh S4C, gan ddefnyddio Streams+.  Mae Streams+ yn blatfform ffrydio a ddatblygwyd gan Haia Communications Ltd, cwmni a sefydlwyd yn M-SParc yn 2020, a nhw oedd y tîm a wnaeth gynhyrchu’r digwyddiad ar y diwrnod wrth i wylwyr yn y babell ac-lein weld y gemau, ymatebion chwaraewyr, a’r sgorio, mewn amser real.  Cadwodd y cyflwynydd Ameer Davies-Rana y dorf i fynd drwy’r nos, a sicrhaodd y sylwebwyr Gav Murphy – arbenigwr gemau, a Kath Morgan – cyn bêl-droediwr proffesiynol, fod pawb yn gallu dilyn. Roedd yn sioe ddifyr dros ben, hyd yn oed i’r rhai nad oedd erioed wedi bod â diddordeb mewn hapchwarae.

Wrth siarad gyda Ameer, oedd ganddo hyn i ddweud. “Mae pob categori wedi mynd amdani, o dan 16, a 16 fyny, sy’n rili da i weld. Os ti’n meddwl amdano, mae pobl ifanc yn chwarae gemau adra ond mae hwn yn ffordd dda iddyn nhw gael eu sgiliau cymdeithasol, i gyd yn y Gymraeg sy’n hyd yn oed fwy spesial, oherwydd bod nhw wrth gwrs yn creu hanes heddiw. Gobeithio fod digon o gyffro i neud o flwyddyn nesaf – mae’n rhaid i ni neud o eto!”

Dywedodd CBDC, un o partneriaid y digwyddiad “Roedd CBDC yn falch o gefnogi’r Esteddfod, gan arddangos arloesedd ym maes gemau fideo pêl-droed.  Defnyddiwyd y Gymraeg yn naturiol ac yn gadarnhaol drwy gydol y digwyddiad, gan ddangos unwaith eto sut y gall pêl-droed ddod â phobl ynghyd a hybu diwylliant cadarnhaol a ffyniannus.  Rydyn ni’n gyffrous i weld lle mae’r Eisteddfod yn mynd yn y dyfodol, a bydd CBDC yn sicr o ddilyn i sicrhau bod arloesedd a datblygiadau pêl-droed yn parhau yng Nghymru, yn Gymraeg!”

Dyweddodd Iwan Hywel, Menter Iaith Gwynedd “Mae cael y Gymraeg yn y byd digidol yn ofnadwy o bwysig. Mae plant a phobl ifanc yn byw ei bywydau ar lein ac felly mae rhaid i’r Gymraeg fod ar lein. Mae menter iaith Gwynedd yn ofnadwy o falch o fod yn rhan fach o ddatblygiadau yma, ar y cyd efo M-SParc a’r holl bartneriaid, c ac yn gobeithio cydweithio mwy yn y dyfodol.”

Roedd yr enillwyr o bob rhan o Gymru.  Cipiodd Aaron, William, ac Eleias o Gaernarfon Playstation yr un fel pencampwyr gêm Rocket League dan 16 oed, ac enillodd Deio Roberts o Gaerdydd grys pêl-droed Cymru wedi’i arwyddo am ei fuddugoliaeth yng ngemau dan 16 EAFC24. Ar gyfer yr 16 a drosodd, gwelsom dîm o Sir Gaerfyrddin yn cynnwys Jack, Benji, Kian a Tyler yn ennill gwobr y Rocket League o Playstation a thocynnau i Gymru yn erbyn Twrci. Yn olaf, daeth y noson i ben wrth i Cerith Dennis o Aberdare ennill £750 ar gyfer EAFC24. Aeth y timau i gyd adref hefyd â thlws pwrpasol yr Esteddfod!

Gwnaed y digwyddiad arloesol hwn yn bosibl gan Gronfa Her ARFOR, sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg a meithrin gofodau Cymraeg. Mae cystadleuaeth yr Eisteddfod yn brawf clir fod y Gymraeg nid yn unig yn fyw ond yn ffynnu mewn cyd-destun cyfoes. Fel y dywedodd Pryderi ap Rhisiart; “Pam na ddylen ni chwarae Echwaraeon yn Gymraeg? Mae hon yn iaith fyw, fodern sy’n perthyn i bob agwedd o’n bywydau – gan gynnwys hapchwarae.”

Mae llwyddiant cystadleuaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yn brawf o ba mor hyblyg a bywiog yw’r Gymraeg. Wrth i fyd Echwaraeon barhau i dyfu, felly hefyd y potensial ar gyfer integreiddio’r Gymraeg mewn ffyrdd newydd a chyffrous. Dim ond dechrau yw cystadleuaeth yr Eisteddfod ar yr hyn sy’n argoeli i fod yn ddyfodol disglair i Echwaraeon Cymraeg.

Newyddion Perthnasol

Clywch y diweddaraf gan M-SParc

Cofrestrwch heddiw

Tom Burke

Rheolwr Arloesi Digidol

tom@m-sparc.com

Roedd Tom yn arfer gweithio yn y KFC yn ei dref enedigol, Bae Colwyn cyn iddo losgi’n ddirgel. Yna treuliodd sawl blwyddyn “ar y lam” yn Nwyrain yr Almaen, lle bu’n gweithio fel animeiddiwr yn Berlin. Pan syrthiodd y wal, daeth Tom adref.

Mae Tom yn mwynhau dringo ac yn casáu sglefrio iâ.